Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
cantorion
Duffy
Duffy

Ganwyd: 1984

Magwyd: Nefyn

Addysg: Coleg Meirion Dwyfor, Prifysgol Caer


Cantores â llais arbennig sydd wedi ei saethu i enwogrwydd.

Clywch atgofion y cynhyrchydd Charlie Goodhall o weithio ar ganeuon cynnar Cymreig Duffy, ar raglen Jonsi, Radio Cymru.

Cliciwch yma i wrando.

Mae llais mawr y ferch o Nefyn yn Llŷn wedi cael ei alw yn un o ddoniau mawr 2008 ac mae wedi cael ei chymharu â Dusty Springfield a sŵn retro'r 1960au.

Roedd yn ail ar restr 'Â鶹Éç's Sound of 2008' ac mae wedi arwyddo gyda Universal ar label A&M.

Daeth i amlygrwydd yn y siartiau Prydeinig i ddechrau pan greodd ei sengl gyntaf, Rockferry, gynnwrf yn 2007 ac yn ôl Duffy ei hun, y bwriad oedd 'gosod y tôn' ar gyfer ei halbym o'r un enw, a ryddhawyd ym mis Mawrth 2008, gan fynd yn syth i frig y siartiau.

Ond fel Aimee Duffy, mae'r gantores wedi bod yn wyneb mwy cyfarwydd yng Nghymru ers dod yn ail i Lisa Pedrick yng nghystadleuaeth ar S4C yn 2004.

Drwy ymddangos ar y sioe dalent daeth i adnabod un o'r beirniaid, Owen Powell, gynt o Catatonia, a'i hargymhellodd i Richard Parfitt o 60ft Dolls. Bu'n recordio rywfaint gyda'r ddau ond pan gyflwynodd Richard Parfiitt hi i Jeanette Lee o Rough Trade, daeth yn rheolwr arni a chafodd gyfle i fentro ar ei phen ei hun.

"Pan nes i gyfarfod Jeanette o'n i'n teimlo yn fy nghalon, er mod i'n rîli hapus bod Owen a Richard wedi sgwennu caneuon ifi, bod gen i 'chydig bach mwy i'w ddweud ar fy mhen fy hun," meddai.

"Roedd yn anodd achos o'n i erioed wedi sgwennu yn Saesneg o'r blaen ac erioed wedi sgwennu albym o'r blaen. Ond mi wnaeth Rough Trade rîli 'encouragio' fi i fentro ymlaen a trïo neud hyn"

Trefnodd Rough Trade iddi weithio gyda Bernard Butler, cyn gitarydd y grŵp Suede, ymysg eraill. Ac er ei bod yn cyfaddef nad oedd yn gwybod pwy oedd Butler ar y dechrau, gweithiodd y ddau yn dda efo'i gilydd ac o'r cydweithio yma y daeth y sengl Rockferry.

Arwydd o faint mae'r sefydliad cerddorol ym Mhrydain wedi ffoli arni ydy iddi ymddangos ar raglen Later with Jools Holland ac yna cael gwahoddiad yn ôl ar ei raglen nos Galan, Hootenanny.

Dywedodd mewn cyfweliad ar C2 Radio Cymru bod Wawffactor wedi bod yn rhan o'i stori lwyddiant: "Ti'n dysgu efo bob dim ac roedd y rhaglen yn rhan o'r stori ... dwi'n gorfod sbïo nôl a bod yn falch mod i wedi cael pob math o gyfle ac wedi tyfu. Heb y sioe yna, hwyrach na faswn i wedi tyfu fel rydw i wedi ... ac wrth gwrs, Owen Powell, Caerdydd - who knows? Pwy sy'n gwybod lle fyswn i heb y sioe? Mae bob dim wedi bod werth ei wneud."

Yn syth wedi Wawffactor, rhyddhaodd sengl Gymraeg yn 2004 o'r enw Rock, Roll & Soul ar label Awen ac roedd yn lleisydd i'r band electronig o Fanceinion, Mint Royale ar eu halbwm See You in the Morning.

Ac am y gymhariaeth efo Dusty Spingfield mae hi'n dweud: "Mae'n spine tingling. Dwi'n meddwl bod albym Dusty in Memphis yn un o'r albyms gorau erioed. Roedd hi mor hyderus - oedd hi o hyd yn chwilio am y caneuon gorau a dwi'n meddwl bod hynna'n rwbeth i'w ddweud wrth bob person sy'n sgwennu ac yn canu - y safon 'nath hi ei 'setio' iddi hi ei hun. Mae o jyst yn amazing - fedrai ddim ei gymeryd o i fewn."

Cafodd Duffy cychwyn gwych i 2009 wrth iddi ennill Grammy a thair wobr Brit, gan gynnwys un am y gantores orau ym Mhrydain.

Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý