Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Yr oes oer

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lladdwyd ymhell dros hanner can miliwn o bobl yn ystod y Rhyfel. Yn eu plith 'roedd ugain mil o Gymry. Perfformiwyd gwaith newydd gan Arwel Hughes, Preliwd ar gyfer Cerddorfa, yn Eisteddfod y Rhos i goff·u'r Cymry a laddwyd. Profodd cenhedlaeth newydd o Gymry erchyllter rhyfel, profiad a gyflewyd mewn barddoniaeth. Un o'r rhain oedd pryddest ail-orau Elwyn Evans, mab Wil Ifan, yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr 1948.

Pan oedd haf ar ei anterth dieflig y cariwyd ni dan ganu
Ar ruthr stwrllyd trwy Syria,
Heibio i'r gwragedd a'r perllannau beichiog,
Heibio i'r gwinllannoedd a'u hedafedd troellog,
A thua chodiad haul;
Pob un ohonom ’'i ddryll rhwng ei liniau noeth
A'i wregys a'i strapiau'n rhy dynn amdano,
A'r cwd ar ei gefn yn ysigo'i war.
Ffrwydrai llwch i'r awyr yn sgil y lorri;
Disgynnai, a chymysgu ’'n chwys.
Ni welem hyd wyneb y milltiroedd moel
Ond gorchudd fel o eira budr -
Y gwahanglwyf sy'n llechwraidd ymledu
Ar hyd y croen iach.

Tom Parri-Jones a enillodd Gadair Eisteddfod y Rhos gydag awdl ar y testun ' Yr Oes Aur'. 'Roedd yr awdl yn sôn am oes aur celfyddyd a gwarineb ond yr Oes Oer, nid yr Oes Aur, a welwyd yn Eisteddfod 1945. Bu Lloyd George farw ym mis Mawrth 1945. Gyda therfyn y Rhyfel, daeth cyfnod i ben. Collodd yr Eisteddfod ei harweinydd mwyaf, a chollodd Cymru ei gwladweinydd enwocaf. Olynwyd Lloyd George fel Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod gan Aelod Seneddol Prifysgol Cymru, W. J. Gruffydd.

ymlaen...

 

Radio a Teledu

 
 

Colli Tir

Lleihaodd problemau diweithdra yng Nghymru yn ystod y Rhyfel, ond lliniaru'r broblem dros-dro a wnaethpwyd yn hytrach na'i datys yn y tymor hir. Ond 'roedd gan Gymru ddigon o broblemau ar derfyn y Rhyfel. Erbyn 1945 'roedd deg y cant o dir Cymru yn eiddo i'r Swyddfa Ryfel. Ar ôl cipio Mynydd Epynt, daeth y bygythiad i feddiannu rhan o fynydd y Preselau yn Sir Benfro, a bygythiad arall ar ddechrau'r pumdegau i feddiannu pum mil o aceri yn Nhrawsfynydd, yn ychwanegol at y gwersyll a oedd yno. Mae Brinley Richards yn cyfeirio at y bygythiad i Drawsfynydd yn ei awdl fuddugol, 'Y Dyffryn' yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ym 1951.

Er i'r Rhyfel ddod i ben, teimlai llawer o Gymry mai ar fin dechrau yr oedd y frwydr. Gallai'r iaith ddiflannu gyda diflaniad y tir a fu'n ei gwarchod drwy'r canrifoedd. Rhaid oedd amddiffyn y Gymraeg, a gweithredwyd y Rheol Uniaith am y tro cyntaf erioed, wedi i flynyddoedd y Rhyfel dorri ar draws y cynllun. Ond 'doedd pawb ddim yn fodlon gyda threfniadau Eisteddfod Caerffili.

Yn ôl Golygyddol y Western Mail ar Awst 11, 1950:

' Because Alderman George Williams, Lord Mayor of Cardiff, dared to address the National Eisteddfod in English he was pilloried as though he were a Welsh renegade. Was there ever such nonsense? Where is the logic and plain commonsense of this pretence? Because a Welshman chooses to speak English in Wales is he to be damned as an alien and subjected to a political reprisal by way of punishment?'

'Roedd byddin arall hefyd yn graddol hawlio tir Cymru, y bataliynau o goed bytholwyrdd yr oedd y Comisiwn Coedwigo yn eu plannu ar ucheldiroedd y wlad. Er mai ar derfyn y Rhyfel Mawr y cychwynnodd y catrodau coed ar eu gorymdaith, erbyn y pumdegau 'roedd y fyddin werdd yn llyncu deng mil o aceri bob blwyddyn. Y coed hyn, yn ôl Gwenallt, oedd egin y trydydd rhyfel byd. Cyfeiriodd Brinley Richards at y newid yn nhirwedd Cymru yn yr awdl a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Llanrwst, 'Y Dyffryn'.

ymlaen...



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy