Newid
Trefn
'Roedd yr hen drefn gyfalafol yn cwympo hyd yn oed ym Mhrydain. Gwladolwyd diwydiannau fel y rheilffordd, trafnidiaeth gyhoeddus a phorthladdoedd gan y Blaid Lafur yn ail hanner y pedwardegau, er mwyn cryfhau a sefydlogi'r economi. Ar ôl hanner canrif o ymladd, trosglwyddwyd y pyllau glo i berchnogaeth gyhoeddus ar ddydd Calan 1946. 'Roedd y pyllau glo mewn cyflwr ofnadwy ar y pryd, gyda'r prif wythiennau wedi eu dihysbyddu ac angen moderneiddio ar lawer ohonyn nhw. Daeth y gwladoli ’ gobaith newydd i'r glowyr, a dechreuodd y Bwrdd Glo oderneiddio rhai pyllau. Gwellhaodd y diwydiant am gyfnod, gan fod galw mawr am lo, a syrthiodd lefel diweithdra yn Ne Cymru yn llawer is nag y bu ers y tridegau. Caewyd rhai pyllau aneffeithiol a chostfawr, ond cynyddodd y lleill yn eu cynnyrch. Mae awdl 'Y Glo^wr', Gwilym R. Tilsley, awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Caerffili, 1950, yn cyfleu'r moderneiddio hwn a fu ar y pyllau a'r cyflogau gwell yn y diwydiant glo.
Gwellhaodd cyflwr amaethyddiaeth hefyd. Ym 1947 cyflwynwyd mesur i sicrhau fod marchnad a phrisiau sicr i gynnyrch ffermydd. Daeth y sytem grantiau i fodolaeth, i ddiogelu'r ffermwyr ac i hybu gwelliannau. Dechreuwyd mecaneiddio'r ffermydd, a daeth hynny ’ phroblemau diweithdra i'w ganlyn, er i'r mecaneiddio helpu'r ffermwyr yn sylweddol. Mae Geraint Bowen yn 'Awdl Foliant i'r Amaethwr', awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar, 1946, yn disgrifio mewn dull ideolegol a rhamantus yr hen ddulliau o ffermio. Gwellhaodd cyflwr cymdeithas ar ôl i Lywodraeth Lafur Clement Attlee sefydlu gwasanaeth iechyd a gwladoli diwydiannau, ac wrth i'r economi ffynnu dan y TorÔaid yn hanner cyntaf y pumdegau. Erbyn canol y pumdegau 'roedd gan bum miliwn o gartrefi Prydain set deledu, ond er i well gwasanaeth ddod i Gymru, 'roedd pwyslais y rhaglenni yn parhau'n Brydeinig. Un o'r darllediadau a ddaeth a'r teledu'n boblogaidd oedd coroni Elizabeth yr Ail ym 1953, ac ar nosweithiau Sul 'roedd What's My Line ? a Sunday Night at the London Palladium yn tynnu llawer gwell cyulleidfa nag yr oedd capeli Cymru.
Ac nid chwyldro cymdeithasol yn unig a gafwyd. Daeth y farddoniaeth fodern gyda'i phwyslais ar erchyllterau i ddisodli'r hen farddoniaeth ramantaidd. Os oedd W. J. Gruffydd yn herfeiddiol o newydd yn ei ddydd, 'roedd yn geidwadol o hen-ffasiwn pan wrthododd o a'i gyd-feirniad David Jones roi'r Goron i Efnisien, ffugenw awdur pryddest am lofrudd a ddedfrydwyd i'w grogi.
Ond 'roedd rhywbeth arall heblaw chwaeth lenyddol yn gyfrifol am ddyfarniad W. J. Gruffydd. Tybiai mai Bobi Jones, un o'r beirdd modern a oedd wedi beirniadu W.J. Gruffydd a'i genhedlaeth, oedd Efnisien. Ond bardd modern arall, Harri Gwynn, a luniasai bryddest anfuddugol Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952, 'Y Creadur'.
Cychwyn Tymestl
Ond nid troseddwyr yn unig oedd yn byw dan gysgod. Erbyn canol y pumdegau, cyhoeddwyd fod angen rhagor o dd^wr ar gyfer glannau Merswy a rhannau o Sir Gaer, 'Roedd pentref Llanwddyn yn Sir Drefaldwyn wedi cael ei foddi ers wythdegau'r ganrif flaenorol er mwyn cyflenwi Lerpwl ’ dwr, ond 'doedd y cyflenwad hwnnw ddim yn ddigonol bellach ar gyfer holl ofynion y ddinas a mannau cyfagos.
Ar ôl chwilio sawl lle yng Nghymru, penderfynwyd yn y pen draw mai'r lle mwyaf addas i'w foddi oedd un o bentrefi bach Cymreiciaf Meirionnydd, pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn. Yn nilyw Eisteddfod Ystradgynlais ym 1954, cyn i neb glywed am fwriad y Llywodreath i foddi unrhyw gwm neu ddyffryn yng Nghymru, cadeiriwyd John Evans am awdl broffwydol, 'Yr Argae '. Sôn am foddi Llanwddyn yr oedd John Evans, gan baratoi ei gyd-Gymru ar gyfer brwydr arall; brwydr a oedd ar fin cychwyn yn y rhyfel parhaus i warchod tir Cymru: y frwydr i atal Tryweryn rhag troi'n Llanddwyn.
Rhaglen
4...
|