麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Yr oes oer

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

1938 - 1955 Yr Oes Oer

Hon oedd oes aur y cyfrwng newydd, y radio. 'Roedd cyfrwng y ffilm hefyd yn mynd o nerth i nerth; hwn oedd y cyfnod pan oedd Hollywood yn ei anterth. Ond nid cyfrwng adloniant yn unig oedd ffilm. 'Roedd cynulleidfa'r sinem芒u yn awr yn gallu gweld 芒'u llygaid eu hunain brif ddigwyddiadau'r byd, boed hwyl, boed hunllef.

Er mor boblogaidd oedd y cyfuniad o lun a sain yn y sinem芒u, 'roedd y wasg yn gyfrwng pwerus o hyd. Y wasg oedd y cyfrwng a gyflwynai'r newyddion gyntaf, hyd nes i'r radio ddatblygu gwasanaeth newyddion cyflawn.

Nid radio oedd yr unig gyfrwng i ddatblygu rhwng y ddau Ryfel Byd. Ond 'doedd neb o ddifri yn meddwl fod llawer o ddyfodol i'r 'radio-olwg' neu'r 'radio-lygad', er i'r 麻豆社 ddechrau darlledu rhaglenni teledu yn rheolaidd ym 1936. Yn y cyfamser 'roedd darlledu sain yn cyrraedd y rhan fwyaf o gartrefi. Daeth darlledu i Gymru ym 1923 pan agorwyd gosraf 5WA yng Nghaerdydd. Darlledwyd y rhaglen Gymraeg gyntaf ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, ond ar y cyfan trahaus oedd agwedd y 麻豆社 at yr iaith, a bu'n rhaid brwydro i gael rhaglenni Cymraeg.

Franco a Ffasgiaeth...

 

Radio a Teledu

 
 

Franco a Ffasgiaeth

Erbyn 1937 'roedd y 麻豆社 wedi sefydlu gwasanaeth rhanbarthol ar gyfer Cymru. Un o'r eitemau newyddion a oedd o ddiddordeb mawr i Gymry oedd datblygiad Rhyfel Cartref Sbaen. Cych 1936 d y rhyfel hwnnw ym 1936 ac 'roedd nifer o Gymry wedi gwirfoddoli i ymuno 芒'r Frig芒d Ryng-genedlaethol i ymladd ar ochr y gweriniaethwyr. Rhyfel i sefydlu Ffasgiaeth fel grym gwleidyddol a milwrol oedd Rhyfel Cartref Sbaen. Ymladdodd y ddwy wlad Ffasgaidd fawr , Yr Almaen a'r Eidal, ar ochr byddin Ffasgaidd Franco yn erbyn y gweriniaethwyr, anarchwyr, sosialwyr a chomiwnyddion. 'Roedd y cyrchoedd awyr gan awyrennau'r Eidal a'r Almaen ar Guernika a mannau eraill yn Sbaen wedi dychryn y byd. 'Doedd sifiliaid hyd yn oed ddim yn ddiogel mwyach.

Daeth Rhyfel Cartref Sbaen i ben gyda buddugoliaeth i Franco a'r Cenedlaetholwyr. Ni chododd yr un wlad i gadw Sbaen rhag syrthio i ddwylo'r Ffasgwyr. 'Roedd hadau rhyfel byd arall yn dechrau cael eu plannu. Erbyn diwedd y tridegau 'roedd yr awyr yn duo uwch Ewrop. Eisteddfod dan gysgod y rhyfel oedd Eistedfod Dinbych ym 1939. Yn fuan ar 么l Eisteddfod Dinbych, goresgynnwyd Gwlad Pwyl gan Fyddin Nats卯aidd Hitler. 'Roedd Ffrainc a Phrydain wedi ymrwymo i amddiffyn Gwlad Pwyl rhag oresgynwyr, ac aeth Prydain i ryfel yn erbyn Yr Almaen ddeuddydd ar 么l goresgyniad Gwlad Pwyl. Ymunodd Ffrainc ar ochr Prydain. 'Roedd yr Ail Ryfel Byd wedi cychwyn.

ymlaen...



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy