Mae'r storïau llawn hud a lledrith yn seiliedig ar chwedlau Myrddin a'r Brenin Arthur ac yn cael eu hadrodd gan yr actorion Ioan Gruffudd, Sara McGaughey, Richard Elfyn a Sharon Morgan.
Antur Sabrina
Ewch ar antur hudol gyda Sabrina i ben mynydd Pumlumon a darganfod pa gymeriadau chwedlonol y daw wyneb yn wyneb â nhw.
Ynys Gudd Morgana
Beth ddigwyddodd i Gareth ac Elen wrth iddyn nhw fynd allan yng nghwch bysgota eu tad ar un noson dywyll? Gwrandewch ar Ioan Gruffudd yn adrodd y stori.