Â鶹Éç

Santes Dwynwen

Croes ar Ynys Llanddwyn. Hawlfraint: Croeso Cymru

21 Ionawr 2010

Mae diwrnod y cariadon yn cael ei ddathlu yng Nghymru ar Ionawr 25, sef Dydd Santes Dwynwen, sy'n cyfateb i ŵyl San Ffolant a ddethlir ar Chwefror 14.

Yn ôl yr hanes, roedd Dwynwen yn byw yn y bumed ganrif yn un o ferched prydferthaf y brenin Brychan Brycheiniog. Mae sawl fersiwn o'r stori sy'n egluro sut y daeth Dwynwen yn nawddsant cariadon Cymru.

Yn y fersiwn fwyaf cyffredin mae Dwynwen yn syrthio mewn cariad â Maelon Dafodrill ond mae ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Mae Maelon mor gandryll o glywed hyn mae'n treisio Dwynwen.

Mae Dwynwen yn dianc i'r goedwig i alaru. Yno, mae'n gweddïo ar Dduw i'w helpu i anghofio Maelon. Pan mae'n syrthio i gysgu, mae angel yn ymweld â Dwynwen ac yn rhoi diod arbennig iddi sy'n gwneud iddi anghofio am Maelon a'i droi i fewn i dalp o rew. Yna mae Dwynwen yn cael tri dymuniad. I ddechrau, mae'n dymuno i Maelon gael ei ddadmer, yn ail, bod Duw yn gwireddu holl freuddwydion a gobeithion unrhyw un sy'n glaf o gariad ac yn olaf na fyddai hi fyth yn priodi.

Gwireddwyd ei thri dymuniad ac i ddiolch am hynny, cysegrodd Dwynwen ei bywyd i Dduw gan fyw fel lleian ar ei phen ei hun ar Ynys Llanddwyn a sefydlu eglwys yno.

Eglwys Llanddwyn
Olion hen eglwys Llanddwyn

Ystyr Llanddwyn ydy Llan + Dwyn sef Eglwys y Sant, neu Santes, Dwyn neu Dwynwen. Mae olion yr eglwys i'w gweld ar yr ynys hyd heddiw.

Daeth yr eglwys a'r ffynnon gerllaw yn fan pererindota a thros y blynyddoedd bu pobl yn ymweld â'r ffynnon er mwyn cael eu hiacháu.

Nawddsant cariadon

Er mai dim ond yn lled ddiweddar mae Dydd Santes Dwynwen wedi dod yn boblogaidd fel gŵyl y cariadon, gyda sefydliadau fel Bwrdd yr Iaith yn annog pobl i ddathlu'r diwrnod fel achlysur mwy 'Cymreig' na gŵyl San Ffolant, mae Dwynwen wedi cael ei hadnabod fel santes y cariadon ers canrifoedd.

Mae disgrifiad o gleifion yn cael eu hiacháu wrth ei ffynnon mewn barddoniaeth o'r 16eg ganrif gan Dafydd Trefor ac mae Dafydd ap Gwilym hefyd yn gofyn i Dwynwen fynd yn llatai drosto at wrthrych ei serch, Morfudd, yn y 14edd ganrif.

Mae sawl fersiwn gwahanol o'r stori i'w gael, yn eu mysg, fersiwn yn llawysgrifau Iolo Morgannwg (1747 - 1826) sy'n honni i Maelon dorri'r dyweddïad ac i Dwynwen dorri ei chalon. Yn y fersiwn hwn mae Maelon yn cael ei rewi fel cosb gan Dduw.

Hefyd, mae cyfeiriad at Dwynwen yn 1494 mewn tair gweddi Ladin a ychwanegwyd at Lyfr Offeren Bangor sy'n dweud iddi gerdded dros Fôr Iwerddon oherwydd fod arni ofn Maelgwn Gwynedd.


Llyfrnodi gyda:

Dysgu

Celtiaid

Celtiaid

Straeon a ffeithiau difyr am fyd y Celtiaid o Oes yr Haearn yng Nghymru.

History for kids

Sabrina

Myths

Journey into the world of Welsh myths in animated tales of adventure.

Merlin

Merlin

Ar y wefan

Fideos a gemau, gwybodaeth am y gyfres a mwy ar wefan Merlin.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.