Rheinallt Thomas yn trafod Iddewiaeth
Hanes
Iddewiaeth yw'r enw a roddir ar grefydd yr Iddewon.
I'r Iddewon, pedwar gŵr yn arbennig fu'n gyfrifol am sefydlu'r grefydd, sef:
- Abraham,
- Isaac,
- Jacob a
- Moses.
Roedd Abraham yn byw tua 2000 CC mewn rhan o'r byd sydd heddiw yn rhan o Irac.
Gellir darllen amdano yn Llyfr Genesis o'r Hen Destament ac yno hefyd y ceir hanes Isaac a Jacob.
Mae hanes Moses i'w gael yn bennaf yn llyfr Exodus ac ef arweiniodd y bobl o wlad yr Aifft o'u "caethiwed" i Wlad yr Addewid.
Ef hefyd roddodd iddynt Y Deg Gorchymyn (Exodus 20)
Man addoli
Bydd Iddewon yn addoli mewn Synagog. Mae'r enw'n golygu man cyfarfod a bydd pobl yn cyfarfod yno i gydweddïo ac i rannu eu credoau crefyddol.
Gyda'r Iddewon yn adeiladu mwy a mwy o synagogau yr oedd nifer fawr ohonynt erbyn amser geni Iesu.
Seren Dafydd
Gall synagogau fod ar unrhyw ffurf, ac o unrhyw faint ond bydd Seren Dafydd ar bob un ohonynt, fel arwydd mai synagog ydyw.
Seren Dafydd hefyd yw arwydd cenedlaethol Israel.
Yn y synagog bydd addolwyr yn wynebu Jerusalem wrth weddïo ac yng ngwledydd Prydain mae hynny'n golygu wynebu tua'r dwyrain.
Arch a Bimah
Prif nodweddion y synagog yw'r Arch a'r Bimah.
Fel rheol cwpwrdd yw'r Arch lle cedwir sgroliau'r Gyfraith Iddewig a elwir yn Torah.
Hefyd yn y cwpwrdd cedwir copi o'r Deg Gorchymyn a thynnir llen ar ei draws pan na ddefnyddir y sgroliau.
O bob ochr i'r Arch gwelir yn aml ganwyllbren saith braich a elwir yn Menorah.
Mae'r Bimah y tu blaen i'r cwpwrdd.
Math ar lwyfan yw hwn, lle bydd y Rabbi (offeiriad ac athro) yn annerch y gynulleidfa.
Yn aml bydd merched a dynion yn eistedd ar wahân yn ystod y gwasanaeth.
Ysgrythyrau sanctaidd
Mae gan yr Iddewon Feibl sydd wedi ei rannu'n dair prif ran:
- Y Torah;
- Y Proffwydi;
- Yr Ysgrfeniadau.
Y Torah yw'r rhan sy'n dweud wrth gredinwyr sut berthynas ddylai fod rhyngddynt â Duw ac mae'n cynnwys pum llyfr Y Gyfraith sef pum llyfr cyntaf y Beibl.
Yn adran Y Proffwydi ceir hanes y genedl Iddewig ac yn yr ail ran, hanesion a phroffwydoliaethau proffwydi fel Eseia, Jeremia ac eraill.
Yn Yr Ysgrifeniadau ceir hanes y genedl Iddewig ac yn ogystal lyfrau fel Llyfr y Salmau.
Credoau
Mae'n debyg mai'r Shema, sydd i'w chael yn y Torah, sy'n crynhoi credoau'r Iddewon orau.
Mae i'w gweld yn llyfr Deuteronomium Pennod 6. adn 5-7.
Mae
- Caru cymydog,
- Y Deg Gorchymyn,
- Credu yn Nyfodiad y Meseia,
- Yn Atgyfodiad y Meirw a Bywyd wedi Marwoaleth
i gyd yn gredoau allweddol.
Dylai dynion neilltuo amser i weddïo yn y bore, ganol dydd a gyda'r nos a byddant yn gwisgo cap corun - Yarmulkah - wrth weddïo.
Mae deddfau bwyd yn rhan annatod o'u credoau a rhaid i gig gael ei baratoi yn ôl deddfau Kosher.
Gwyliau
Mae'r Flwyddyn Newydd yn adeg bwysig iawn i Iddewon ac fe'i dethlir (yn dibynnu ar y lleuad) fis Medi/Hydref.
Rosh Hasanah yw diwrnod cyntaf y flwyddyn newydd a gorffennir y dathlu gyda Yom Kippur.
Gwyliau pwysig eraill yw: Gŵyl y Pebyll neu Ŵyl y Tabernaclau;
Chanukah - Gŵyl y Bara Croyw neu'r Pesach a
Pentecost.
Bar-Mitzvah
Y Bar-Mitzvah yw'r achlysur pan ddaw bechgyn yn ddynion yn y grefydd Iddewig.
Digwydd y ddefod ar y Saboth (y dydd Sadwrn) agosaf i ben-blwydd y bachgen yn 13.
Bydd y plentyn yn cael ei hyfforddi gan y Rabbi gan ddysgu digon o Hebraeg i allu darllen o'r ysgrythurau Sanctaidd.
Ar ddiwedd y gwasanaeth disgwylir i'r bachgen fyw yn unol â'r gyfraith Iddewig am y gweddill o'i fywyd.
I'r teulu mae hon yn ddefod hollbwysig yn natblygiad y bachgen, a cheir parti mawr.
Ar gyfer genethod ceir Bat-Mitzvah sy'n digwydd yn agos i'w pen-blwydd yn 12 oed.
Felly disgwylir i enethod gadw at y gyfraith Iddewig flwyddyn yn gynharach na bechgyn.
Iddewon a Chymru
Mae Iddewon ar hyd y canrifoedd wedi teithio o'u gwlad ac ymsefydlu mewn gwledydd eraill.
Gwyddom am y miliynau yng ngwlad Pŵyl a'r Almaen a ddioddefodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Daeth llawer i Brydain a Chymru.
Ym mhob gwlad maent wedi bod yn weithwyr diwyd ac yn fasnachwyr llwyddiannus.
Yn Ngogledd Cymru mae enwau fel Polecoff, Wartski a Schwartz yn rhai cyfarwydd a chofir am y modd y bu Jack Polecoff, nid yn unig yn fasnachwr llwyddiannus, ond yn Faer Tref Pwllheli ac yn siarad Cymraeg.
Sefydlwyd synagogau mewn nifer o leoedd gan gynnwys Bangor a Llandudno yn y Gogledd a Chaerdydd ac Abertawe yn y De ac mae dau synagog gweithredol yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.