Rheinallt Thomas yn trafod Bwdhaeth
Hanes
Crefydd a gychwynnodd yn yr India tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl yw Bwdhaeth ac erbyn heddiw yng ngwledydd Dwyrain Pell Asia y mae amlycaf.
Y sylfaenydd y oedd Siddartha Guatama a anwyd 560 C.C.
Roedd ei fywyd yn un a weddai i dywysog nes yr oedd yn 29 oed ond pan welodd dlodi'r bobl, yr afiechydon a'r anobaith, gadawodd ei fywyd moethus, diogel, i chwilio am ateb i'r holl ddioddefaint a ddeuai i ran dynoliaeth a cheisio heddwch i'r enaid.
Treuliodd gyfnod gyda mynaich o wahanol urddau ond heb gael yr ateb a ddymunai.
Pan gyrhaeddodd Bodh-Gaya (yr enw modern) eisteddodd dan goeden ffigys a myfyrio am 46 diwrnod nes cyrraedd yr hyn y cyfeiria Bwdhiaid heddiw ato fel goleuedigaeth eithaf.
Cyflwr o fyfyrdod yw hwn sy'n galluogi person i weld bywyd yn union fel ag y mae ac i ganfod atebion i broblemau dynol.
O hyn allan galwyd ef y Bwdha, sy'n golygu 'yr un goleuedig'.
Teithiodd y Bwdha i Benares lle pregethodd ei bregeth gyntaf.
Hyd ei farw yn 80 oed, teithiodd ar hyd a lled yr India yn pregethu ei ffordd newydd o feddwl a elwir 'y ffordd ganol'.
Dwy gangen
- Heddiw ceir dwy gangen o Fwdhaeth:
- Ysgol y Gogledd sef Mahayana,
- Ysgol y De sef Theravada.
Mae hanfodion y grefydd yn gyffredin i'r ddwy gangen, ond cred y Mahayaid mai bod tragwyddol yn hytrach na bod dynol oedd y Bwdha, tra chred y Theravadiaid mai bod dynol oedd, ond gyda galluoedd eithriadol.
Man addoli
Bydd Bwdhiaid yn gweddïo mewn mynachlogydd, cysegrfannau neu demlau sy'n amrywio'n fawr o ran maint a chynllun.
O fewn y rhan fwyaf o fynachlogydd bydd mynaich yn edrych ar ô1 y lle.
Symlrwydd yw'r allwedd i'w ffordd o fyw. Bydd cysegrfan y fynachlog yn am1 yr adeiladwaith mwyaf disglair a chymhleth yn y lle gyda llun, neu fwyaf tebyg, gerflun o Bwdha yno.
Bydd lle wedi ei neilltuo gerllaw i dderbyn offrymau, yn ogysta1 â lle i bobl eistedd a gweddïo neu fyfyrio.
Caiff temlau a chysegr fannau eu hadeiladu lle bynnag y bo galw amdanynt.
Ym Mhrydain gallwch ganfod allor mewn tai, neu unrhyw adeilad arall sydd yn fan cyfarfod i'r Bwdhiaid.
Pum elfen
Mae symbolau pum elfen y ffydd ym mhob cysegrfan.
- Y pump yw:
- Daear
- °Õâ²Ô
- Dwr
- Awyr
- Doethineb
Gosodir symbolau o'r elfennau hyn yn strategol o gylch y gysegrfan.
Mae myfyrio yn hynod o bwysig i Fwdhiaid, a bydd llawer yn treulio awr neu ddwy bob diwrnod yn myfyrio mewn cysegrfan neu fan arall.
Ysgrythurau sanctaidd
Ar y cychwyn lledaenwyd credoau Bwdhaidd drwy adrodd hanesion a'u trosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth.
Yr ysgrythurau cynharaf sydd wedi goroesi hyd heddiw yw arysgrifau ar feini carreg o tua 250 C.C.
O'r ail ganrif y daw'r fersiwn gyflawn gyntaf i oroesi o'r Ffordd Rinweddol.
Geilw Bwdhiaid ysgol y Theravada eu llyfr cysegredig hwy yn Tri-Pitake, ac mae iddo dair adran:
- Mae'r rhan gyntaf yn ymdrin â'r bywyd disgybledig y disgwylir i fynaich ei ddilyn.
- Mae'r ail ran yn cynnwys dysgeidiaeth y Bwdha.
- Yn y drydedd ran ceir esboniad ar ddysgeidiaeth y Bwdha, ac eglurhad ar brif ddaliadau'r grefydd.
Yr ail lyfr yw'r un a ystyrir bwysicaf, a cheir ynddo 540 o hanesion am y Bwdha.
Yr adran bwysicaf o bosibl yw, Y Llwybr Rhinweddol.
Y mae llawer o Fwdhiaid yn gwybod yr adran hon ar eu cof.
Mae Bwdhiaid ysgol y Mahayana yn defnyddio llawysgrifau (Sutrau) eraill yn ogystal, wedi eu hysgrifennu mewn Sanskrit a ieithoedd Hindwaidd hynafol eraill.
Y pwysicaf o' r rhain yw Ysgrythur y Lotws.
Credoau
Y ddwy gred bwysicaf o fewn Bwdhaeth yw:
- Samsara - sef y gred y bydd person wedi ei farwolaeth yn cael ei aileni, naill ai yn fod dynol neu yn anifail neu greadur. Yr unig ffordd i osgoi aileni yw cyrraedd y stad o Nirvana, drwy fyfyrdod, sy'n codi'r ymwybyddiaeth uwchlaw cylch geni ac aileni.
Karma - sef y gred fod yr hyn a wna person mewn bywyd wedi ei gofnodi.
I'r Bwdhiaid mae Pedwar Gwirionedd Urddasol, sef:
- Mae dioddef yn rhan o fywyd
- Trachwant hunanol sy'n achosi dioddef
- Mae dioddefaint yn peidio os llwyddir i drechu'r chwantau.
- Gellir trechu'r chwantau drwy ddilyn y llwybr wythplyg:
Derbyniwch ddysgeidiaeth y Bwdha;
Gweithredwch ddysgeidiaeth y Bwdha;
Peidiwch a dweud celwydd na siarad yn gas;
Peidiwch a lladd dim,
Osgowch gyffuriau,
Peidiwch â dwyn,
Peidiwch a godinebu;
Dilynwch yrfa sy'n eich galluogi i fyw yn ôl dysgeidiaeth y Bwdha;
Drwy fyw yn gywir mae'n haws cyrraedd Nirvana;
Rheolwch eich meddwl drwy fyfyrdod;
Myfyriwch a chanolbwyntiwch yn ddwys i gyrraedd NirvanaGwyliau
Dethlir Magha Puja yn ystod lleuad llawn mis Chwefror.Dethlir Wesak am dri diwrnod yn Mai.
Mae Asala yn dathlu genedigaeth y Bwdha.
Dethlir Oban yn Siapan i gofio hynafiaid.
Mae gan y Chineaid wyl debyg, Ddydd yr Eneidiau Coll.
Gwyl Siapaneiadd arall yw Higan, lle'r offrymir gweddïau i'r meirw.
Mae'r FIwyddyn Newydd yn wyl hynod o bwysig i Fwdhiaid gyda dathliadau yn amrywio o wlad i wlad ond ceir elfennau tebyg, fel anrhydeddu'r Bwdha, rhyddhau pysgod i afonydd, rhyddhau adar a gaethiwyd a chynnal gorymdeithiau.
Yng Nghymru
Mae canolfannau Bwdhaidd yng Nghaerdydd, Penrhos ger Raglan , Cwmbrân a Llangunllo (Powys).