Gŵyl Chanukah
Neal Belkin sy'n sgrifennu am Ŵyl 'Nadoligaidd' yn Israel - Gŵyl Chanukah
Fel y Nadolig, gŵyl goleuadau yw Chanukah sy'n digwydd yn y gaeaf.
Mae'n ddiddorol iawn i Iddewon a Christnogion fel ei gilydd bod yr Å´yl yn dal i gael ei dathlu, ers dros dwy fil o flynyddoedd. Mae'n Å´yl ddeiniadol iawn gyda goleuadau prydferth yng nghanol y gaeaf.
Gyda'r nosau yn hir, mae'n bosibl fod y bobl ers talwm yn ofni fod yr haul yn marw ac roedden nhw am ei gynorthwyo i gael ei eni eto trwy gynnau canhwyllau.
Mae crefyddau eraill yn dathlu gwyliau goleuadau yn y gaeaf hefyd. Mae'r Hindwiaid yn dathlu Diwali ddiwedd mis Hydref gyda thân gwyllt a'r Rhufeiniaid, cyn y cyfnod Cristnogol, gyda gŵyl o'r enw Saturnalia, a oedd yn cynnwys canhwyllau.
Wyth diwrnod
Mae Chanukah yn ŵyl sy'n parhau am wyth diwrnod rhwng Rhagfyr 8 a'r 16 yn 2012 a chyneuir canhwyllau bob nos.
Ar y noson gyntaf, un gannwyll, ar yr ail noson, dwy gannwyll ac yn y blaen nes bod wyth cannwyll ar y noson olaf.
Mae canhwyllbren arbennig, Chanukiah, i ddal y canhwyllau.
Dydy hwn ddim yr un peth â'r Menorah ond yn dal naw cannwyll yn hytrach na saith.
Mae'r gannwyll ychwanegol yn cael ei galw'n 'shamash' - y gair Hebraeg am 'gofalwr' - sy'n cael ei ddefnyddio i gynnau'r canhwyllau eraill.
Cysylltiadau hanesyddol
Fel y Nadolig, mae cysylltiad rhwng dathlu'r ŵyl heddiw a digwyddiadau hanesyddol a chrefyddol.
Yn y flwyddyn 168 CC, roedd Israel wedi ei meddiannu gan y Syriaid ag addolai'r duwiau Groegaidd. Cafodd y Deml Iddewig yng Nghaersalem ei throi yn allor ar gyfer y duwiau hynny.
Dan eu harweinydd, Yehudah Macabi, gwrthryfelodd yr Iddewon yn erbyn y Syriaid ac yn y flwyddyn 165 CC, fe wnaeth yr Iddewon ryddhau Caersalem a'r Deml.
Roedd y Macabiau eisiau adfer y Deml i'w defnydd blaenorol a chynnau'r fflam arferai losgi'n barhaol yno.
Ond doedd dim digon o olew sanctaidd - dim ond un botelaid, digon am un diwrnod gyda'r cyflenwad newydd o olew yn daith wyth diwrnod i ffwrdd.
Serch hynny, fe gyneuo nhw'r fflam a digwyddodd gwyrth - fe losgodd yr olew am yr wyth diwrnod nes i'r olew sanctaidd newydd gyrraedd.
Felly, mae'r Iddewon yn dathlu eu buddugoliaeth a'r wyrth yma trwy oleuo canhwyllau am wyth noson.
Ac oherwydd bod y Deml yn cael ei hailgysegru adnabyddir yr Å´yl wrth y gair Hebraeg am ailgysegru, Chanukah.
Rhannu anrhegion
Er bod gwasanaethau crefyddol yn y Synagog ar gyfer Chanukah, yn y cartrefi mae'r prif ddathliadau, eto fel y Nadolig.
Rydym yn rhannu anrhegion ymysg y teulu - yn enwedig i'r plant - ac yn cynnau'r canhwyllau yn y nos yn ein cartrefi, pan fo'r teulu i gyd gyda'i gilydd.
Darperir bwydydd arbennig, yn enwedig rhai sy'n cael eu paratoi ag olew, fel toesenni a levivot neu latkes - crempogau sy'n cael eu gwneud o datws.
Mae hyn er mwyn ein hatgoffa o'r wyrth pan losgodd yr ychydig bach o olew am wyth diwrnod.
Amser llawen
Cyfnod llawen yw Chanukah, yn enwedig i blant ac yn Israel heddiw dydyn nhw ddim yn mynd i'r ysgol yn ystod yr wyth diwrnod a hynny'n creu awyrgylch ddymunol o wyliau yn y gweithleoedd ac ar y strydoedd.
Unwaith, pan ddychwelais i Israel o ymweliad tramor yn ystod Chanukah, roedd merched yn y maes awyr yn cynnig toesenni i bawb oedd yn cyrraedd y wlad. Croeso cynnes a melys, yn wir!
Cyhoeddwyd yr erthygl hwn yn wreiddiol ar wefan Â鶹Éç Cymru'r Byd.