麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Pin-yp
Straeon dwsin o ferched noeth
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Pin-Yp gan Janice Jones. Gwasg y Bwthyn. 194 tudalen. 拢7.


  • Cefais fy nenu fel gwenynen at bot m锚l gan glawr y llyfr yma gan ei fod yn cyfleu neges hwylus, sionc a llawn bywyd a obeithiwn y byddai'n cael ei hadlewyrchu yn y llyfr.

    'Roedd y broliant yn ennyn diddordeb hefyd - yn gryno iawn.
    Dim syndod, felly, imi gipio'r llyfr oddi ar y silff.

    Pob mis
    Mae'r nofel wedi'i seilio ar fisoedd y flwyddyn gyda chymeriad gwahanol ar gyfer pob mis.

    O edrych ar glawr y llyfr, tybiwn mai merched ifainc, nwyfus, yn eu hugeiniau cynnar, fyddai'n ganolbwynt y nofel.
    Sioc, felly, oedd darganfod taw 12 o fenywod yn mynychu cyfarfodydd Merched y Wawr oedd y "pin-yps".

    Menywod a oedd yn fodlon sefyll dros eu credoau ac yn fodlon brwydro tan y diwedd dros eu hachos - er, ambell un yn llai bodlon na'r gweddill.

    Rheswm y menywod hyn dros gymryd pethau i'w dwylo eu hunain yw bygythiad i ddymchwel neuadd eu pentref - newyddion torcalonnus gan fod y neuadd yn allweddol ym mywydau'r rhan fwyaf ohonynt.

    Yno y cynhelir yr ysgol feithrin a chyfarfodydd Merched y Wawr er enghraifft.

    Er mwyn tynnu sylw at yr anfadwaith mae'r deuddeng merch yn y stori yn penderfynu ymddangos ar galendr noeth yn dilyn awgrym Sara Watcyn, cadeirydd y gangen.

    Deuddeg safbwynt
    Ymdrinnir 芒'r stori o ddeuddeg safbwynt yn y nofel.
    Gwelwn faint o wrthwynebiad a chefnogaeth a dderbyn y menywod ac y mae pob stori yn amrywio o eithaf i eithaf.

    Er imi hoffi stori Brenda, Sioned a Nia, heb os nac oni bai stori Phyllis aeth 芒 fy mryd.

    Teimlais gymaint o dosturi tuag ati a rhyfeddu at ei dewrder yn herio ei g诺r sy'n ei thrin fel baw ac yn mwynhau ei gweld yn dioddef.

    Mae'r nofel yn cyffwrdd 芒 phob sefyllfa dan haul o gam-drin i boeni am bwysau, o wrywgydiaeth i farwolaeth un 芒 garwch.

    Mae'r nofel hon yn un arbennig iawn ac yn berthnasol i fywyd pob dydd.

    Chwarddais yn uchel mewn mannau tra'n ceisio atal y dagrau mewn mannau eraill.

    Unig wendid y nofel hyd y gwelaf i yw'r ffaith fod y stori yn mynd yn fflat wrth inni ddarllen am yr un cyfarfod dro ar 么l tro.

    Gwell fyddai fod wedi s么n am y cyfarfod reit ar ddechrau'r nofel - fel rhyw fath o brolog? - cyn symud ymlaen at ymateb y "pin-yps" fesul mis.

    Modd i fyw
    Heblaw am hynny, cefais fodd i fyw wrth ddarllen Pin-Yp ac rwy'n argymell y nofel i unrhyw oedran gan ei bod mewn iaith seml, ddealladwy.

    Hoffais y stori'n fawr ac rwy'n meddwl fod y plot yn un clyfar.
    Rwy'n sicr o ddarllen y llyfr hwn eto yn y dyfodol agos gan obeithio am ddilyniant!
    Mae'n haeddu saith allan o ddeg.
  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Adolygiad arall o Pin-Yp
    Holi Janice Jones


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy