|
Pin-yp Dinoethi merched noeth
Adolygiad Glyn Evans o Pin-yp gan Janice Jones. Gwasg y Bwthyn. 194 tudalen. 拢7.
Pan gyhoeddodd merched Rylstone, Swydd Efrog, eu calendr noeth cyntaf ar gyfer y flwyddyn 2000 yr oedd y syniad o aelodau WI canol oed, parchus, yn ymddangos yn noeth ar galendr yn un beiddgar a gwreiddiol.
Mor wreiddiol, y codwyd 拢600,000 tuag at ymchwil leucaemia ac y gwnaed ffilm lwyddiannus o'r fenter yn 2003, gyda Helen Mirren a Julie Walters.
Baglu ar draws ei gilydd Ers hynny, fodd bynnag, mae'n ymddangos bod pob yn ail sefydliad yn baglu ar draws ei gilydd, hyd syrffed, i gynhyrchu calendrau noeth o'r fath.
Yn sicr dydi'r syniad ddim yn un gwreiddiol mwyach ac mae ymhell o fod yn feiddgar.
Gyda hynny mewn golwg yr oedd rhywun yn troi at nofel gyntaf Janice Jones, Pin-yp sy'n s么n am aelodau Merched y Wawr pentref dychmygol Nant-yr-Onnen yn Sir Cedog (ydi'r -sillafiad bron yn aflednais yn fwriadol?) yn mynd ati i gynhyrchu calendr noeth er mwyn codi arian i achub y neuadd bentref.
Y cyfarfod lle codir y syniad yw cychwyn y nofel sydd wedi ei rhannu yn bennod ar gyfer pob mis o'r flwyddyn.
Mwy na hwyl Ond mae Pin-yp yn amcanu at fod yn rhywbeth mwy na hwyl beiddgar a mentrus.
Er enghraifft gall rhywun ddychmygu sut y byddai rhywun fel Dafydd Meirion wedi trafod deunydd crai o'r fath a chymharu hynny a'r hyn a gawn yma ac yr ydym mewn bydoedd a chydag awduron gwahanol iawn i'w gilydd.
Nid doniolwch yw bwriad Janice Jones. Defnyddia hi'r achlysur yn gyfrwng i edrych y tu 么l i gyrtans ffenest y merched dan sylw gan ddinoethi, nid eu cyrff, ond eu bywydau.
Ac fe welwn fod Nant-yr-Onnen yn grochan o wewyr, angst, rhwystredigaethau, tensiynau a thyndra benywaidd.
Dydi bywyd fawr neb ddim yr hyn yw'n ymddangos ar yr wyneb.
Nant-yr-Onnen, debygwn i, yw'r lle olaf i fynd i chwilio am 诺r gan fod mwy nag un o'r merched wedi paru a dynion diarhebol o anystyriol a di-feind ohonyn nhw. ,br>Mae gwraig weddw ifanc yn teimlo tynfa at wraig arall; mae un arall sy'n briod a mochyn o ddyn yn troi am gysur at yrrwr ystyriol y llyfrgell deithiol!
Er gwaethaf y syniad canolog o aelodau syber Merched y Wawr yn dinoethi ar gyfer calendr nid nofel ddoniol mo hon ond un sy'n dadberfeddu priodasau a theimladau personol.
Ond dydi hynny ddim gyfystyr a dweud ei bod yn feichus. I'r gwrthwyneb.
Gormod o goflaid Ac os oes bai o gwbl, y bai hwnnw yw fod yr awdur yn ceisio gwneud gormod gyda gormod o gymeriadau.
Er i 11 o ferched fod yn rhan o fenter WI Rylstone; pan aed ati i wneud ffilm am y digwyddiad dewiswyd canolbwyntio ar ddwy brif gymeriad gyda rhannau ymylol i'r gweddill ac fe lwyddodd hynny yn wych.
Mae Janice Jones, fodd bynnag, am roi yr un faint o sylw i bawb a hynny yn ei dro yn trethu ac weithiau'n cymysgu'r darllenydd.
Yr oeddwn i'n cael fy hun yn troi'n fynych i ddalennau - anhepgor - 12 a 13 lle mae'r oll oedd yn bresennol yng nghyfarfod misol tyngedfennol Merched y Wawr Nant-yr-Onnen yn cael eu rhestru gyda brawddeg fer o ddisgrifiad.
"Marian Tomos, trysorydd y gangen a chyd-berchennog siop a llythyrdy Nant-yr-Onnen . . . Tina Roberts, cynorthwywraig y cylch meithrin, barforwyn ran-amser y Llew Coch, a morwyn lawn-amser i'w g诺r di-waith," er enghraifft.
Y tu 么l i'r disgrifiadau cryno hyn mae stori fwy wrth gwrs a'r straeon hynny yw cynnwys y nofel a ninnau'n dod i sylweddoli fod mwy i fywyd Caryl Harper, er enghraifft, na'i phwysigrwydd a'i chrandrwydd arwynebol a bod bywyd Phyllis Gruffydd gyda mochyn o 诺r yn hunllef a hithau yn gweld y cyfle i ymddangos mewn calendr yn "un weithred herfeiddiol" i ddial arno.
Ond byddai coflaid llai o gymeriadau wedi bod yn fwy effeithiol gan fod gormod o debygrwydd rhwng rhai sefyllfaoed a'i gilydd.
Ystrydebau Mae'n nofel gyda rhywfaint o bregethu ynddi hefyd ac yr oedd yn rhywfaint o ofid gweld rhai ystrydebau fel pe byddent wedi eu codi yn syth o ddatganiadau Cymdeithas yr Iaith neu Cymuned yn cael eu defnyddio - "Roedd yn rhaid i rywun yn rhywle wneud safiad i warchod cymunedau cefn gwlad" - yn hytrach na gadael i ddigwyddiadau a stori gyfleu y pethau hyn.
I ferched Go brin fod wiw dweud hynny y dyddiau hyn ond ni chredaf y byddwn yn annheg 芒'r awdur na darllenwyr yn dweud mai nofel sy'n mynd i apelio'n bennaf at ferched yw hon gyda'i gwyr anystyriol a'i gwragedd slaf.
Ond wedi dweud hynny, rydw innau'n digon balch i minnau gael cip ar fywyd o'r safbwynt hwnnw.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|