麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Janice Jones
Edmygu'r Fam Teresa a Lilly Savage
Enw
Janice Jones

Beth yw eich gwaith?
Awdures, myfyrwraig 么l-radd, hyfforddwraig gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin, gwniadwraig.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Nifer o swyddi gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin, gweithio yn llyfrgelloedd Bangor a Bethesda.

0 ble'r ydych chi'n dod?
Wedi'm geni a'm magu ym Mangor.

Lle'r ydych chin byw yn awr?
Tregarth, ger Bethesda.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Ar adegau!

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Pin-yp yw enw'r llyfr, ac mae'n adrodd hanes criw o ferched sy'n byw mewn pentref yng nghefn gwlad Cymru ac sy'n codi arian i achub eu neuadd bentref trwy gynhyrchu calendr bronnoeth.

. Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Llyfr i blant sy'n hercian drwy goridorau'r Cyngor Llyfrau.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Hoff iawn o lyfrau megis y Famous Five a'r Secret Seven.

A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
Na fyddaf, wir yr!

Pwy yw eich hoff awdur?
Yn mwynhau gwaith nifer o awduron Cymraeg ac eraill megis Bethan Gwanas, T. Rowland Hughes, Caradog Prichard, Roddy Doyle, Terry Mc Millan, J.B. Priestley.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Eto, mae nifer ohonynt, megis Un Nos Ola Leuad, Lost Empires, ac yn ddiweddar A Gathering Light gan Jennifer Donnelly

Pwy yw eich hoff fardd?
T.H. Parry-Williams.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Dychwelyd.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwda ff么l, Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn 么l.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
A Fish Called Wanda, prin yn gwylio'r teledu heblaw am y newyddion a materion cyfoes, ac ambell stori gyfres.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
William Jones yw fy hoff gymeriad. Tydw i ddim yn credu y byddwn yn darllen fawr pellach na'r dudalen gyntaf am gymeriad nad oeddwn yn hoff ohono neu ohoni.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Peidiwch 芒 barnu dyn heb gerdded milltir yn ei sgidiau.

Pa un yw eich hoff air?
Ansbaradigaethus!

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Chwarae'r delyn.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Dyfal,
Distaw,
Creadigol.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy ngwallt yn gwynnu ac angen ei beintio'n rheolaidd a lensys fy sbectol yn mynd yn fwy a mwy trwchus!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Y Fam Teresa am ei daioni a'i doethineb, a Lily Savage am ei dyfeisgarwch a'i dillad chwaethus.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Darganfod caws.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Elisabeth y Cyntaf. Byddwn yn gofyn a oedd hi o ddifrif yn Forwyn Frenhines?
!

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Cerdded ar lan Afon Glaslyn ym Meddgelert , clywed y d诺r yn murmur ac anghofio am y byd a'i bethau am ychydig.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cyri llysiau a gwin coch.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen a gwaith crefft.

Pa un yw eich hoff liw?
Pinc llachar.

Pa liw yw eich byd?
Pinc!

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Bod yn rhaid i ni i gyd fod fesur helaeth yn fwy goddefgar.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, nofel o'r enw Bol Buwch, a phan fydd 30 awr ym mhob dydd, fe fyddaf wedi ei gwblhau mewn chwinc!

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Un diwrnod, amser maith yn 么l . . .?

Cysylltiadau Perthnasol

Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy