|
Brithyll Nofel gyntaf Dewi Prysor - ac mae mwy i ddod
Lowri Rees yn holi Dewi Prysor Mae Dewi Prysor yn chwerthin yn braf wrth gael ei holi dros y ffon am ei nofel gyntaf, Brithyll, sydd wedi ennill cryn ganmoliaeth yn dilyn cyfarfod i'w lawnsio nos Iau, Tachwedd 9, 2006, yn y Ring Llanfrothen.
Disgrifiodd yr awdur o Lan Ffestiniog y nofel fel comedi dywyll, amharchus ac afreolus am gymeriadau brith sy'n byw mewn pentref dychmygol yng ngogledd Meirionnydd.
Criw anystywallt
"Direidi gwallgof, criw o ffrindiau anystywallt," meddai wrth geisio disgrifio'r nofel mewn brawddeg.
Dywedodd iddi fod ar y gweill ers blynyddoedd ac i Twm Miall ei annog yn aml i barhau 芒'r nofel yn dilyn ei ddyddiau yn y carchar.
"Dyma gychwyn ar y llyfr bymtheng mlynedd yn 么l tra yn y carchar. Yn ystod y cyfnod hwnnw roeddwn I wedi darllen Cyw Haul a Chyw Dol, nofelau oedd wedi eu hysgrifennu mewn iaith gyffredin ac roeddwn wrth fy modd," meddai.
"Dwi'n cofio meddwl y baswn i'n gallu ysgrifennu deunydd tebyg.
"Bu Twm Miall yn hwb mawr imi yn anfon nofelau imi yn y carchar a fy annog i ysgrifennu.
"Cofiwch iddi fod yn fy mhen ers tro, ac roedd yn rhaid ei chael hi allan o fy system."
Mae Dewi Prysor, yn disgrifio ei awch i ysgrifennu nofel fel cael praidd o bryfaid genwair yn symud yn ei ben ac yntau yn dyheu am gael eu chwydu allan ar bapur!
Pleser pur
"Dwi wedi cael pleser pur yn ysgrifennu'r nofel, mae'n swydd ddelfrydol cael sgwennu hiwmor drwy'r dydd, bob dydd.
"Cael ysgrifennu am droeon trwstan a mwynhau pob eiliad o fy ngwaith. Yn sicr, mae o'n bleser pur. Ysgrifennu ydi fy myd i, ac o'r diwedd dwi mor falch bod y cwch ar y d诺r," meddai.
Ac mae eisoes wedi cael canmoliaeth ei arwr Twm Miall a ddywedodd:
"Dyma nofel fendigedig o ddi-chwaeth a dyma fro'r chwareli fel nas gwelwyd hi erioed o'r blaen. Mae Prysor yn awdur newydd, grymus sy'n mynd i gorddi dyfroedd tawel llenyddiaeth Gymraeg am flynyddoedd i ddod. Melys moes mwy."
Hollol ddychmygol Er bod cymeriadau Brithyll yn ymddangos yn fyw ac yn real iawn dywed Dewi mai hollol ddychmygol yw'r rhan fwyaf ohonynt.
"Ond mae 'na wastad elfennau o gymeriadau go iawn ynddyn nhw. Fel y gwelir wrth ddarllen y llyfr mae nifer o gymeriadau ymylol yn seiliedig ar gymeriadau go iawn, yn enwedig yr hen stejars. Ac mae nifer fawr o'r sefyllfaoedd wedi datblygu o gnewyllyn sefyllfa go iawn," meddai.
Mae'n cyfaddef iddo ei chael hi'n anodd ysgrifennu ar adegau ac iddo ddod i gredu bod yna'r fath beth a 'bloc ysgrifennu'.
"Dwi mwy neu lai yn ysgrifennu drwy'r dydd bob dydd ond yn wir weithiau gall rhywun eistedd i lawr a dim byd yno.
"Yr adeg honno byddaf yn mynd am beint a chael fy mwydo gan y gymuned. Cael straeon newydd a chael rhyw fath o recharge," meddai.
Smocio d么p Gobaith yr awdur yw y bydd y llyfr yn apelio at yr union fath o bobl sy'n cael eu darlunio ynddo! Pobl werinol, wrthryfelgar, sy'n byw ar ymylon cymdeithas - yn yfed, yn smocio d么p ac yn anwybyddu'r gyfraith.
Meddai, "Mae angen torri yn rhydd o'r arfer diogel o sgwennu at leiafrif diwylliedig a'u Cymraeg safonol a'u parchusrwydd cartrefol eisteddfodol. Rhaid i lenyddiaeth Gymraeg fod yn berthnasol i arferion Cymry Cymraeg heddiw.
"Dwi'n gobeithio fy mod wrth ysgrifennu Brithyll wedi adlewyrchu beth yw gwir natur bywyd, arferion a hiwmor cymdeithas gyfoes Gymraeg gan dorri ffiniau ffug-barchusrwydd."
Mae Dewi Prysor, sy'n byw yn Llan Ffestiniog gyda'i deulu, eisoes wedi cyhoeddi casgliad o limrigau, a pherfformiwyd hanes ei gyfnod yn y carchar gan Lwyfan Gogledd Cymru.
Ac yn dilyn lansiad llwyddiannus nos Iau ddiwethaf dywed Dewi fod y pryfaid genwair yn cyniwair eto yn ei ben - arwydd sicr fod dilyniant ar y gweill!
Cyhoeddir Brithyll gan y Lolfa. 拢7.95.
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Dewi Prysor
Limrigau Dewi Prysor - adolygiad
DW2416 - adolygiad
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|