Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Gorffennaf 2010

Cwis Haf (3)

Vaughan Roderick | 14:20, Dydd Gwener, 30 Gorffennaf 2010

Sylwadau (6)

arholiadau.jpg

Mae gan ddarllenwyr "aeddfed" fantais y tro hwn. Mae'r cwis yn ymwneud â gwelidyddiaeth Cymru yn y cyfnod cyn datganoli.

1. Dim ond pedair menyw oedd wedi cynrychioli Cymru yn NhÅ·'r Cyffredin cyn 1997. Enwch nhw.

2. Beth neu bwy sy'n cysylltu Ynys Môn, Cwm Cynon a Gorllewin Casnewydd â hen etholaeth Dinbych?

3. Cyn 1918 pa chwe bwrdeistref oedd yn etholaeth Lloyd George?

4. Pa ffigwr amlwg o fyd chwareon wnaeth sefyll yn erbyn Jim Callaghan yn Ne Ddwyrain Caerdydd yn 1950au?

5. Pwy oedd y Comiwnydd cyntaf i gael ei ddyrchafu'n faer yng Nghymru?

6. Pa un o'r 22 o gynghorau lleol yng Nghymru a ddaeth i fodolaeth yn y nawdegau sy ddim yn cynnwys etholaeth seneddol gyfan?

7. Pa sir yng Nghymru oedd â'r bleidlais "na" fwyaf (fel canran) yng Nghymru a Lloegr yn refferendwm Ewrop yn 1975?

8. Ynghylch beth y gwnaeth pobol Cymru (neu rhai ohonyn nhw) bleidleisio yn 1961,1968. 1975, 1982 a 1989?

9. Pwy oedd awdur y gwaith dychanol "They Went to Llandrindod" a phwy oedd testun ei ddychan?

10. Ym mha tair etholaeth y safodd Rod Richards fel ymgeisydd Ceidwadwol?

Atebion trwy'r blwch sylwadau neu drwy e-bost i Vaughan.Roderick@bbc.co.uk

Yn sgil y cyfeiriad at Ramsay MacDonald yn y cwis diwethaf cefais nodyn difyr gan Gareth yn dweud hyn;

"Mae cwestiwn 6 yn fy atgoffa o'm plentyndod yn y 50au cynnar pan fyddai plant High Street yn canu pennill ar don Gwyr Harlech.

There was a man who came from Scotland
Shooting peas up a nanny-goat's bottom
There was a maaan who came from Scotlaaaaand
Ramsey was his name.

Can yn dyddio o etholiad Aberavon yn 1922, mae'n debyg, pan etholwyd Ramsey Macdonald yn aelod seneddol. Shwd ddaeth y gan o'r de i strydoedd Aberystwyth 30 mlynedd yn ddiweddarach, wn i ddim. Oes rhywun yn gwybod mwy?"

Fel mae'n digwydd rwy'n cofio canu honna yng Nghaerdydd hefyd! Mae'n amlwg bod Ramsay Mac. wedi gadael ei farc ar Gymru - er nid y marc mwyaf dymunol efallai!


Help Llaw

Vaughan Roderick | 12:44, Dydd Gwener, 30 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Mae llygaid nifer yng Nghymru ar etholiadau Awstralia lle mae Julia Gillard yn cario baneri Llafur, Cwmgwrach a'r Barri. Ond nid gwylio yn unig y mae un o gymeriadau mwy dadleuol Llafur Cymru.

Na phoenwch, Julia mae David Taylor ar ei ffordd i roi help llaw!

Mae Cwmgwrach yn etholaeth cyflogwr presenol David, Peter Hain wrth gwrs. Efallai mai dyna yw'r cysylltiad. Neu efallai bod yr ALP yn chwennych y sgiliau ymgyrchu y mae Peter a David wedi eu harddangos yn y gorffenol?

Ymddiheuriadau a hwn a'r llall...

Vaughan Roderick | 11:07, Dydd Gwener, 30 Gorffennaf 2010

Sylwadau (1)

b00lxh2g_640_360.jpgMae gen i ambell i ymddiheuriad i wneud. Yn gyntaf sori am esgeuluso'r blog rhyw ychydig. Gyda bron pawb o fy nghydweithwyr ar wyliau fe laniodd llwyth o botas S4Caidd yn fy ngharffed ddoe gan adael fawr o amser i ddim byd arall!

O safbwynt beth yn union wnaeth ysbarduno'r digwyddiadau ym Mharc TÅ· Glas mae rhai yn credu bod a wnelo cynnwys cyhoeddiad blynyddol nid anenwog rhywbeth a'r peth. Lol fyddai hynny!

Mae gen i ymddiheuriad arall i drefnwyr "Sesiynau'r Pierhead" a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Fe wnes i rwgnach ar y pryd bod y sesiynau i gyd yn Saesneg. Mae'r trefnwyr yn cyflwyno cyfres o sesiynau tebyg, yn Gymraeg y tro hwn, yn yr Eisteddfod. Efallai mai dyna oedd y bwriad o'r cychwyn. Os felly sach luan a lludw i Mr Roderick.

A son am yr Eisteddfod (a lludw) mae gen i eiriau o gyngor. Sgidiau cryfion. Mae 'na bethau anhygoel ynghylch y maes (yn arbennig y Lle Celf) ond dyw safon y tir dan droed ddim yn un ohonyn nhw!

Yn olaf ymddiheuriad ynghylch y cwis. Roeddwn i wedi anghofio bod 'na broblem yn gallu digwydd wrth geisio defnyddio'r sylwadau i gynnig atebion.

Os ydych chi'n treulio gormod o amser yn crafu'ch pen mae'r sylw yn gallu amseru allan. Mae angen naill ai paratoi atebion cyn agor y blwch sylwadau neu wrth gwrs eu danfon trwy e-bost at "Vaughan.Roderick@bbc.co.uk".

Roedd nifer yn gywir y tro hwn gan gynnwys Dewi yn y sylwadau a Siôn Aled a Bill Efans ar e-bost. Roedd Guto o fewn y dim unwaith yn rhagor! Mae cwis 3 ar y ffordd!

Um-geiswyr

Vaughan Roderick | 16:15, Dydd Mawrth, 27 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

33470.jpgO flog daw'r newydd bod Angela Jones-Evans wedi trechu David Melding am yr enwebiad Ceidwadol ym Mro Morgannwg. Mae hynny'n dipyn o sioc. Roedd David yn weddol o hyderus ynghylch cael yr enwebiad ar ôl canfod nad oedd Andrew R.T. Davies nac arweinydd Cyngor y Fro, Gordon Kemp am gynnig eu henwau. Dim ond ar y funud olaf y penderfynodd Angela rhoi cynnig arni gan roi ei henw ymlaen yng Ngorllewin Casnewydd hefyd.

Yn eironig ddigon mae'n bosib mai Andrew RT yw'r un ar ei golled yn fan hyn. Mae rheolau'r Ceidwadwyr yn golygu bod aelodau rhestr sy'n dymuno sefyll eto yn cael ei gosod yn awtomatig ar frig y rhestr. Pe bai David wedi sicrhau'r enwebiad yn y Fro Andrew fyddai ar frig y rhestr. Gyda Angela wedi ei dewis mae'n ddigon posib y bydd Andrew yn ail fel oedd e dro diwethaf. Pe bai Angela'n ennill y sedd etholaethol gallai hynny olygu y byddai gan Andrew fwy o amser i dreulio gyda'i dractor!

Cwis Haf (2)

Vaughan Roderick | 12:21, Dydd Mawrth, 27 Gorffennaf 2010

Sylwadau (5)

question_mark_203x152.jpgGwleidyddion a chysylltiadau Cymreig gwnaeth wneud eu marc y tu allan i Gymru yw thema'r cwis y tro hwn. Unwaith yn rhagor ni fydd atebion na sylwadau'n ymddangos am rai dyddiau.

1. Mae nifer o Gymry Cymraeg wedi cynrychioli etholaethau y tu allan i Gymru. Pwy oedd y Cymry wnaeth gynrychioli South Bedfordshire a Newcastle upon Tyne North?

2. Pa gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Efengylaidd y Barri wnaeth ddiweddu ei yrfa wleidyddol fel Prif Weinidog?

3. Ar thema debyg pa dduw (ac eithrio'r un amlwg) oedd a chysylltiad agos a Choleg Beiblaidd Cymru yn Abertawe?

4. Yn lle mae "palas" presenol brenin Kalat?

5. Pwy yw'r unig Gymro Cymraeg sy'n arwain plaid Brydeinig ar hyn o bryd?

6. Enwch y pump aelod seneddol ac etholaethau yng Nghymru sydd wedi arwain Llafur ar lefel Brydeinig.

7. Beth yw cysylltiad Dr Barham Salih, Prif Weinidog Kwrdistan a Chymru?

8. Pa wladweinydd amlwg wnaeth ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1908 fel gwestai i Lloyd George?

9. Pa wleidydd o Lanelli wnaeth gynrychioli'r erlyniad yn Nuremburg a phwy o blith y diffynyddion wnaeth dreulio rhan helaeth o'r rhyfel yn y Fenni?

10. Pa stryd sy'n cysylltu Ysgrifennydd Cartref a dau o sêr yr opera? Enwch y stryd, y pentref, y gwleidydd a'r ddau ganwr.

Hwn, Llall ac Arall

Vaughan Roderick | 09:49, Dydd Sadwrn, 24 Gorffennaf 2010

Sylwadau (1)

all_the_presidents_men.jpgDiawch, rwy'n falch nad oeddwn i yn y gwaith ddoe! Roeddem wedi bod yn ceisio cael cadarnhad ynghylch toriadau posib i S4C ers rhai wythnosau. Yn y diwedd fe'n curwyd gan y Guardian. Does dim byd gwaith i newyddiadurwr na cheisio dal lan gyda stori yr oeddech chi'ch hun yn awchu i'w chael!

Does gen i fawr ddim byd newydd na gwreiddiol i ddweud am y stori ond mae'n werth nodi efallai nad yw'r toriadau posib yn wahanol o safbwynt eu maint i'r toriadau mae'r DCMS yn gorfodi ar gyrff eraill mae'n ariannu.

Toriadau o 6% y flwyddyn am y pedair blynedd nesaf yw'r union doriadau y mae'r adran yn disgwyl gan Amgueddfeydd Cenedlaethol Lloegr er enghraifft. Yn yr ystyr hynny does 'na ddim tystiolaeth o gwbl bod yr adran yn "pigo" ar S4C oherwydd ffigyrau gwylio'r sianel neu unrhyw reswm arall. Gyda llaw, os oes unrhyw un o'r farn y gallai'r Sianel droi at y Cynulliad am achubiaeth mae'n werth darllen y post yma o eiddo Betsan ynghylch peryglon gwneud hynny.

Yn y cyfamser roedd 'na isetholiad yn ward y Cymmer yn Rhondda Cynon Taf echdoe. Dyma'r canlyniad;

Llafur 740 (52.3%;-0.3)
Plaid 470 (33.2%;-14.3)
Ann. 142 (10.0%;+10.0)
Ceid. 41 (2.9%;+2.9)
Gwyrdd 23 (1.6%;+1.6)

Mae'n ymddangos taw'r cyfan wnaeth ddigwydd yn fan hyn oedd bod Plaid Cymru wedi colli peth o'i phleidlais i'r ymgeisydd annibynnol. Fe safodd hwnnw i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Etholiad Cyffredinol. Fe adawodd y blaid gan gredu fod ganddo well siawns ennill sedd cyngor fel ymgeisydd annibynnol. Cam gwag os buodd un erioed!

Mae atebion y cwis wedi eu cyhoeddi. Cafodd Dewi 9/10 ac roedd nifer eraill yn agos iawn at y gamp lawn. Fe wnaeth pawb fethu'r ateb i gwestiwn pump sef "Pe Symudai y Ddaear" gan Griffith Jones. Mae fy nghyfaill pedantig Tomos Livingstone o'r Western Mail yn cael pwynt bonws am nodi gwall mewn un cwestiwn. Yn rhif deg ac nid yn DoSAC yr oedd Malcolm Tucker yn gweithio! Dewi sy'n derbyn y goron ac fe fydd 'na gwis arall cyn bo hir.

Troi Tudalen

Vaughan Roderick | 09:47, Dydd Iau, 22 Gorffennaf 2010

Sylwadau (6)

transmitter_bbc226.jpgTra eich bod yn crafu eich pennau dros y cwis haf cyntaf rwyf am droi at y rhestr ddarllen ac un neu ddwy o gyfrolau difyr.

Dydw i ddim wedi darllen gan Jamie Medhurst eto ond eisoes mae'n destun dadlau ffyrnig. Mae Huw Davies cyn brif weithredwr HTV Cymru wedi danfon homar o e-bost i'r byd a'i wraig (neu aelodau'r Royal Television Society o leiaf) yn lambastio'r llyfr. Mae Huw'n addo y bydd ei adolygiad llawn yn cael ei gyhoeddi yn y man ond dyma flas ohono;

I am not familiar with the ways of higher academe, but since this is presented as an academic work from a senior lecturer at Aberystwyth University and published by the University of Wales Press one might have presumed that the final draft was shown to the chair of the faculty or the relevant Professor. Can one imagine the conversation? Would it have been this kind of thing?

Senior Person: Why is it, Medhurst, that you write the History of Independent Television in Wales and to all intents and purposes ignore the largest section of your subject?

Author: "I'm afraid, sir, that the dog ate my homework for that period. However, last night I put together a few pages of impressions from some assorted sources and I'm sure that will suffice.

Senior Person: Very well then. You may go to press. Good luck.

Prif gŵyn Huw yw bod llyfr yn dwyn yr enw "A History of Independent Television in Wales" mwy neu lai'n anwybyddu Harlech/HTV gan ganolbwyntio ar ddyddiau TWW a Theledu Cymru. Os felly mae teitl y llyfr yn anffodus a dweud y lleiaf.

Cyfrol arall rwy'n ei darllen ar hyn o bryd yw astudiaeth Graham Davies o agweddau tuag at Islam mewn llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig dros yr wyth gan mlynedd diwethaf. Mae 'na lawer mwy o gyfeiriadau na fyddai dyn yn disgwyl ac fel y gyfrol gyffelyb ynghylch Iddewiaeth mae'n agoriad llygad.

Ar ffurf llawysgrif mae llyfr Graham ar hyn o bryd - fe fydd yn rhaid i chi aros am ychydig felly!

Yn y cyfamser mae'n werth darllen "" cyfrol hynod ddarllenadwy sy'n adrodd hanes tranc y Teigr Celtaidd yn yr Iwerddon. Fe ddes i ambell i gasgliad perthnasol wrth ei ddarllen. Yn eu plith mae'r rhain.

1. Doedd torri'r dreth gorfforaethol ddim yn syniad da, wedi'r cyfan.

2. Dyw'r ffaith bod pawb ar delerau enw cyntaf a gwleidydd ddim yn gwarantu ei onestrwydd.

3. Dyw system gynrychiolaeth gyfrannol STV ddim hanner cystal â hynny.

Cwis Haf

Vaughan Roderick | 13:08, Dydd Mercher, 21 Gorffennaf 2010

Sylwadau (5)

_41444174_chair_bbc_203.jpgDyma fe- cwis cynta'r Haf. Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth yw'r thema y tro hwn.

Ni fydd sylwadau/atebion yn ymddangos nes i rywun fod yn weddol o agos!

1. Ym mha tair nofel y mae'r gwleidydd Francis Urquhart yn ymddangos?

2. Beth yw enw anthem gwreiddiol yr anifeiliaid yn "Animal Farm"?

3. Ym mha gylchgrawn Fictorianaidd (a roddodd ei enw i garfan wleidyddol) y cyhoeddwyd y nofel; "Lady Gwen- a fantasy of Wales in the year 2000"?

4. Beth yw enw'r gwyddonydd wnaeth alluogi i Ifan Powell deithio i'r dyfodol yn "Wythnos yng Nghymru Fydd"

5. Ym mha nofel y mae Cymru a Lloegr yn cael ei gwahanu gan ddaeargryn sydd hefyd yn hollti Maes yr Eisteddfod yn ddwy?

6.Ym mha gyfrol enwog o farddoniaeth wleidyddol y mae'r cerddi 'Hen Genedl' a 'Tir Iarll' yn ymddangos?

7. Beth yw enw neu acronym adran Malcolm Tucker yn "The Thick of It" a beth yw enw adran Jim Hacker yn "Yes Minister ?

8. I ba blaid yr oedd D. J. Williams yn perthyn cyn ymuno a Phlaid Cymru?

9.Ar ba is-etholiad Cymreig go iawn yr oedd llyfr arswyd Phil Rickman "Candlenight" wedi ei seilio?

10. Pa Aelod Seneddol Llafur o Loegr wnaeth ysgrifennu'r gyfrol "Seneddwr ar Dramp"?


Hirfelyn Tesog

Vaughan Roderick | 10:08, Dydd Mawrth, 20 Gorffennaf 2010

Sylwadau (1)

beach_donkey_203x152.jpgMae'r haf wedi cyrraedd a bydd, fe fydd 'na gwis yn y man!

Cyn hynny mae 'na wythnos fach ddifyr o'n blaenau. A siarad o brofiad weithiau mae 'na ambell i gyhoeddiad y mae llywodraethau'n dymuno ei wneud ar ôl i'r gwleidyddion ddiflannu. A fydd un o'r rheiny'r wythnos hon? Fe gawn weld.

Yn y cyfamser mae 'na bost hynod ddifyr draw ar ynghylch pa mor anodd fydd hi i Lafur sicrhau mwyafrif yn y Cynulliad flwyddyn nesaf hyd yn oed os oes 'na gynnydd sylweddol yn ei phleidlais.

Heb os mae Cai yn llygad ei le wrth ddweud bod natur rannol gyfrannol system bleidleisio'r Cynulliad yn milwrio yn erbyn Llafur y tro nesaf. Mae hynny oherwydd ei bod wedi gweithio o'i phlaid yn 2007 pan enillodd hi 43% o'r seddi gyda 32% o'r bleidlais.

Y cwestiwn syml i Lafur yw o ble mae'r mwyafrif i ddod? Yn 2003, yr unig dro i Lafur ennill rhyw fath o fwyafrif gwnaethpwyd hynny trwy ganolbwyntio'i holl egni ac adnoddau ar bedair sedd o eiddo Plaid Cymru sef Islwyn, Rhondda, Llanelli a Chonwy. Mae 26 sedd gan Lafur ar hyn o bryd. O gymryd bod y blaid yn gallu eu dal nhw i gyd ( ac mae un neu ddwy yn ymddangos yn simsan) o ble mae'r pedair sedd i ddod y tro nesaf?

Blaenau Gwent sydd ar frig y rhestr, wrth reswm. Ar ôl yr hyn ddigwyddodd yno yn yr Etholiad Cyffredinol fe fyddai dyn yn disgwyl i honno ddisgyn yn weddol hawdd. Mae'r fathemateg yn awgrymu bod 'na sedd i'w hennill yn rhanbarth y Gorllewin a'r Canolbarth hefyd. Trydedd sedd restr fyddai honno fwy na thebyg ond fe fyddai'n rhaid ymdrechu'n galed ym mrwydrau etholaethol seddi Sir Benfro a Llanelli i'w chael hi.

Ar ôl hynny mae popeth yn "long shot" i Lafur. Fe fyddai'n rhaid edrych ar seddi fel Gorllewin Clwyd a Gogledd Caerdydd y mae Llafur wedi eu dal yn y gorffennol neu obeithio am drychineb i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd neu i Blaid Cymru ar Ynys Môn. Dydw i i ddim yn rhagweld y bydd y naill drychineb na'r llall yn digwydd.

Serch hynny mae 'na un arweinydd Plaid allai golli ei sedd tro nesaf ac nid Ieuan yw hwnnw. Pe bai'r Ceidwadwyr yn llwyddo i gipio sedd etholaeth Maldwyn fel gwnaethon nhw yn yr Etholiad Cyffredinol mae hi bron yn sicr y byddai Nick Bourne yn colli ei sedd restr.

Yn wir mae ambell Ceidwadwr wedi awgrymu i mi y dylai Nick ymgeisio yn erbyn Kirsty ym Mrycheiniog a Maesyfed yn y gobaith na fydd pobol Ystradgynlais yn rhoi pleidlais dactegol i Kirsty y tro nesaf. Dyw Nick ddim am wneud hynny.

Piti. Fe fyddai hi'n gythraul o ffeit!

Slacio

Vaughan Roderick | 11:51, Dydd Gwener, 16 Gorffennaf 2010

Sylwadau (5)


Rydym yn dechrau cau pen y mwdwl lawr yn y Bae cyn heglu hi i Landaf ar gyfer yr haf.

Fe fydd y blogio'n ysgafnach o hyn ymlaen ond na phoenwch. Mae 'na un podlediad i ddod y prynhawn yma ac mae na wledd o ddarllen yn .

Yn dewach na dŵr

Vaughan Roderick | 11:21, Dydd Gwener, 16 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

mandelson_bbc.jpgMae dyddiau'r cŵn wedi cyrraedd!

Sut arall mae esbonio'r cyffro ynghylch sylw'r Arglwydd Mandelson bod rhai o'i gyfeillion yn Llafur Cymru yn anghytuno a pholisi "dŵr coch clir" Rhodri Morgan? Wedi'r cyfan dyw'r bobol hynny ddim wedi bod yn swil wrth ddweud eu dweud.

Dyma i chi Don Touhig yn 2008;

In Wales, we face many challenges to improve our economy, educational opportunities, health care and transport, but those are not peculiarly Welsh issues requiring a Welsh-only solution.

A dyma i chi o 2007;

Mae ASE Llafur wedi beirniadu strategaeth y blaid yng Nghymru o ymbellhau oddi wrth y blaid yn Lloegr. Yn ôl Eluned Morgan, mae canlyniadau Etholiad y Cynulliad eleni yn profi fod y strategaeth wedi methu - a bod rhaid i'r blaid edrych y tu hwnt i'w chefnogwyr craidd. Roedd hi'n annerch cyfarfod yn y gynhadledd Lafur yn Bournemouth, tra oedd y Prif Weinidog Rhodri Morgan, pensaer y polisi "dŵr clir coch," wrth ei hymyl.

Cofiwch ar ddiwrnod pan mae'r brif stori'n ymwneud a chwch ar ei ochor fe wnaiff unrhyw beth y tro!

Rhywle mae Gwynfor yn gwenu

Vaughan Roderick | 10:38, Dydd Iau, 15 Gorffennaf 2010

Sylwadau (5)

210px-Garden_Castle_St_Fagans_12.jpgMae Cyfarwyddwr Amgueddfa Cymru Michael Houlihan ar fin heglu hi am Seland Newydd i gymryd yr awenau yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Wellington. Roedd ymddiriedolwyr yr Amgueddfa honno wedi chwilio'n bell ac agos am bennaeth newydd gan ddewis Michael Houlihan oherwydd yn eu geiriau nhw "his particular skills in complex cultural and bilingual museum establishment and management."

Neithiwr fe draddododd Michael Houlihanyn yr Amgueddfa ond nid araith "diolch am y cloc a'r cerdyn a phob lwc i chi gyd yn y dyfodol" oedd hon. Roedd ganddo bethau mawr i ddweud ar roedd e'n ddi-flewyn ar dafod wrth eu dweud nhw.

Roedd bwrdwn y neges yn amlwg o'r paragraff cyntaf.

For thousands of years, the story of culture in Wales has been about preservation and protection in the face of many overt and insidious threats; mostly originating in the east! The threats have been military, religious, political, linguistic, social and economic. But, over time, it's worked; a distinctive culture has survived thanks to geography, resistance, persistence and community.

Y frwydr honno i ddiogelu ei hiaith, diwylliant ac arwahanrwydd yw hanfod Cymru yn ôl Michael Houlihan ac mae'n ofni bod gormod o bobol Cymru yn ogystal â'u hawdurdodau yn methu sylweddoli hynny.

...there needs to be a more overt recognition, particularly in a time of financial pressure, that what sets Wales apart from, say, Surrey is its culture; that the reason we have an Assembly is because of that unique culture; and that, effectively, culture is Wales and Wales is culture. This should have been a project for the good times; in the bad it becomes essential.

Mae'n hallt ei feirniadaeth o ymdrechion i geisio gwerthu neu "brandio" Cymry ar sail ei thirwedd yn hytrach na'i diwylliant ac mae'n amlwg ei fod wedi digalonni'n llwyr wrth frwydro dros roi portread cywir o Gymru yn ŵyl y Smithsonian yn Washington.

Yn ôl y cyfarwyddwr roedd canllawiau'r Smithsonian yn gwbwl eglur. Roedd yr Amgueddfa Americanaidd am weld portread o ddiwylliant gwerin Cymru trwy gerdd, crefft, celf a dawns. Mewn cyfarfod ar ôl cyfarfod bu'n rhaid i Michael Houlihan wrando ar rai o fawrion Cymru yn dadlau y byddai hynny yn groes i "brand" Cymru fel "gwlad fodern dechnolegol y byddai pobol yn dymuno ymweld â hi a buddsoddi ynddi".

The basic point was being missed; the singular, sometimes unsophisticated, sometimes contemporary but always authentic expression of a small nation's culture can be far more attractive and engaging to the outsider than the marketing messages that make it look indistinguishable from any other western, industrialised complex.

Mae Michael Houlihan yn gwrthgyferbynnu'r ffordd y mae diwylliant a hanes yn rhan hanfodol o ddelwedd ac apêl Iwerddon tra bod hanes Cymru yn cael ei hanwybyddu a hyd yn oed ei chelu. Cyfaddefodd nad yw Amgueddfa Cymru'n ddieuog o hynny gyda Sain Ffagan yn cyflwyno darlun "Hollywood" o Gymru nad yw hi erioed wedi bodoli. Dywedodd fod gwir drysorau'r Amgueddfa Werin sef y miloedd o oriau o dapiau o atgofion, straeon a chaneuon gwerin o dan glo yn yr archif.

Hanfod y broblem yn ôl y cyfarwyddwr yw'r ffordd y mae hanes Cymru'n cael ei dysgu yn ein hysgolion. Er cystal newidiadau i'r Cwricwlwm dywedodd fod Hanes Cymru o hyd yn cael ei drin fel atodiad neu'n cael ei ddysgu o bersbectif Seisnig. Awgrymodd fod y Cymry Cymraeg yn tueddu deall hanes Cymru ond bod angen datblygu dealltwriaeth ymhlith y di-Gymraeg.

"the hidden and passionate history of Wales... is more likely to be found in the Welsh language with its shared stories of memories, events and people contributing to preserving a sharp sense of identity, but one which is not effectively articulated in the English language. As a result, those with some responsibility for telling the history of Wales, in the fields of education, heritage and tourism do so in ways that reflect the broad sweep of European and English history rather than... a story that, when taken in the round, is truly distinctive."

Nawr, fel mae'r pennawd yn awgrymu dyw'r dadleuon yma ddim yn newydd ond mae clywed pennaeth Amgueddfa Cymru yn eu cefnogi yn dipyn o ryfeddod.

Mae'r ddarlith yn haeddu llawer mwy o sylw nac mae hi wedi cael hyd yma a gellwch ei darllen yn ei chyfanrwydd yn.

Carwyn Mewn Caftan

Vaughan Roderick | 14:54, Dydd Mercher, 14 Gorffennaf 2010

Sylwadau (1)

default.jpg

Beth yw'r logo yma, tybed? Rhywbeth ynglŷn â Woodstock a'r "Summer of Love" efallai?

Nage wir, logo yw'r pennawd. Mae'n ffab, ddyn. Grwfi bebi...

Um-geiswyr (3)

Vaughan Roderick | 13:53, Dydd Mercher, 14 Gorffennaf 2010

Sylwadau (2)

_44292966_wispa203body_pa.jpgMae'n bryd mentro i ffau'r ymgeiswyr unwaith yn rhagor i weld gwaed pwy sydd ar ba fur erbyn hyn.

Yn dilyn fy sgŵp bach ynghylch Ron Davies wythnos yn ôl mae'n ymddangos bod cyn aelod cynulliad arall am geisio atgyfodiad. Deallir bod John Marek yn trio am yr enwebiad Ceidwadol yn Wrecsam.

Fel yn achos Ron fe fyddai cyfanswm ei bleidleisiau fel ymgeisydd annibynnol yn 2007 ynghyd a phleidleisiau ei blaid newydd yn ddigon i ennill y sedd. Ar y llaw arall mae'n gythreulig o anodd credu y bydd cefnogwryr "Forward Wales" yn bwrw pleidlais dros Dori. Dyw Llafur ddim yn torri eu boliau mewn ofn.

Efallai bod fwy o le i boeni gan Bethan Jenkins. Mae , ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli yn yr etholiad cyffredinol yn ceisio am enwebiad ar restr Gorllewin De Cymru. O gymryd bod Dai Lloyd yn sefyll eto mae'n anodd gweld Myfanwy a Bethan yn cyrraedd y Bae.

Yn ôl yn y Gogledd mae'n ymddangos bod Alun Pugh yn ceisio ennill yr enwebiad Llafur yn Ne Clwyd. Mae Llafur wedi dal y sedd ers 1999 ac mae'n bosib y byddai'n well gan y blaid weld Alun yn sefyll yn ei hen etholaeth, Gorllewin Clwyd.

Mae'n anodd gweld Llafur yn sicrhau mwyafrif heb ennill y sedd honno a siawns mai gan Alun y mae'r gobaith gorau o'i chipio.

Diweddariad; Mae ysbiwr yng Nghlwyd yn ychwanegu hyn am sefyllfa John Marek.

Mae'r Toriaid am gynnal "Open Primaries" yn Ne Clwyd a Wrecsam. Alla'i ddim credu fod JM yn hapus a bod Bourne wedi cynnig gwell del na hynny iddo er mwyn croesi'r bont. Mae carfan o'r Toriaid lleol yn cefnogi'r cynghorydd o Rossett Hugh Jones i sefyll yn ei erbyn. Gweler blog Plaidwrecsam am fwy ar hyn. Yn achos De Clwyd, mae na ambell i enw difyr yn ymgeisio - Bell eto, cynghorydd ifanc o Brymbo o'r enw Paul Rogers... a'r Tori wnaeth gystal yn Sir Fon. Chwech enw i gyd dwi'n deall. Dwi'n amau fydd y Toriaid yn difaru mynd am Open Primaries oherwydd y bydd eu cecru mewnol yn dod allan i'r goleuni!

Sgyrsiau

Vaughan Roderick | 17:43, Dydd Mawrth, 13 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

alunf.jpgUn o'r pethau difyr yn y job yma yw cadw llygad ar bwy sy'n siarad a phwy o gwmpas y lle a cheisio dyfalu beth yw testun eu sgyrsiau.

Does dim angen bod yn athrylith i synhwyro mai trafod moch daear oedd Elin Jones, John Griffiths a hanner dwsin ac aelodau Ceidwadol yn yr ystafell de'r prynhawn yma. Ond beth am sgwrs fach arall rhwng y cyfreithiwr Emyr Lewis, sydd wedi bod yn feirniadol o'r Mesur Iaith, Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth a Huw Onllwyn Jones gwrw iaith y Llywodraeth? Beth oedden nhw'n trafod, tybed?

"Ffwtbol" medd Huw. Y piti yw bod hynny'n gwbwl credadwy!

Hanner o beth gymrwch chi, hogiau?

Elin, o Elin...

Vaughan Roderick | 12:38, Dydd Mawrth, 13 Gorffennaf 2010

Sylwadau (3)

_1109309_badger_bbc_150.jpg"Gwnes i bron bwrw mochyn daear ar y lôn y noson o'r blaen ond roedd y diawl yn symud yn rhy gyflym i fi!" Fe wna i ddim enwi'r aelod o'r gwrthbleidiau wnaeth ddweud hynny ond mae barn/rhagfarn gwleidyddion y gwrthbleidiau ynghylch moch daear efallai'n esbonio'u hamharodrwydd i geisio manteisio'n wleidyddol yn sgil dyfarniad yr Uchel Lys heddiw.

Yn sicr fe fyddai modd i'r gwrthbleidiau alw am ymddiswyddiad gweinidogol ar gynsail Crichel Down sy'n awgrymu bod yn rhaid i weinidog dderbyn y cyfrifoldeb am fethiannau ei adran. Does dim arwydd bod y Ceidwadwyr na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu gwneud hynny ond os oedden nhw mae cwestiwn arall yn codi sef hwn. Pa weinidog ddylai dderbyn y cyfrifoldeb - Elin Jones sy'n bennaeth yr adran berthnasol neu John Griffiths y Cwnsler Cyffredinol?

Nid pwynt bach yw hynny. Pan ffurfiwyd y glymblaid bresennol fe drodd Rhodri Morgan swydd y Cwnsler yn un gwleidyddol fel ffordd o gynyddu'r nifer o weinidogion yn ei gabinet.

Mae'r sefyllfa o'r fath yn codi cwestiynau ynghylch safon y cyngor cyfreithiol y mae'r llywodraeth yn ei dderbyn a hefyd yn cymylu atebolrwydd Gweinidogion am gamgymeriadau cyfreithiol.

Efallai nad yw'r gwrthbleidiau am alw am ben Elin Jones sy'n cael ei gweld fel gweinidog poblogaidd ac effeithiol. Ar y llaw arall onid yw hi'n bryd cwestiynu'r arfer o ddefnyddio penodiad prif swyddog cyfreithiol y llywodraeth fel modd i ddyrchafu a gwobrwyo gwleidydd.

Ie Dros Gymru

Vaughan Roderick | 11:51, Dydd Mawrth, 13 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

tn-DARE05.jpgDydw i ddim yn deall pam mae'r peth wedi cymryd mor hir ond mae'n ymddangos bod yr ymgyrch "ie" ar gyfer refferendwm y Cynulliad ar fin cael ei ffurfio.

Trwy hap a damwain bron mae enwau aelodau'r pwyllgor llywio wedi dod i'r amlwg. Dyma nhw; Rhodri Morgan (Llafur), Leanne Wood (Plaid Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr) a Rob Humphries (Democratiaid Rhyddfrydol).

Does dim cyfarfod wedi ei drefnu eto nac unrhyw ddyddiad wedi pennu ar gyfer un.

Mae'n ymddangos bod y pleidiau'n ddigon hapus i "Gymru Yfory" barhau i baratoi'r tir ond onid yw'r egin-ymgyrch yn colli cyfle i bregethu ei neges a chasglu cefnogaeth yn Llanelwedd a Glyn Ebwy?

Oren a Melyn

Vaughan Roderick | 09:50, Dydd Llun, 12 Gorffennaf 2010

Sylwadau (2)

SDPPoster.jpgMae'n debyg y bydd rhai o ddarllenwyr y blog yma yn cofio Tim Hirsch, gohebydd gwleidyddol rhadlon a chraff Â鶹Éç Cymru yn y dyddiau cyn datganoli.

Ers rhai blynyddoedd mae Tim wedi troi ei law at ffermio a newyddiadura ym Mrasil ac mae clywed ei ddadansoddiad o'n gwleidyddiaeth wastod yn ddiddorol. Fel yn achos Andy Bell yn Awstralia mae clywed barn rhyw un sy'n ddeall pob twll a chornel o wleidyddiaeth Cymry ond sydd uwchlaw niwl y bore a stormydd Awst yn gallu bod yn ddadlennol.

Mae Tim yn ôl o'r jyngl ar hyn o bryd ac fel y byswch chi'n disgwyl mae'r ddau ohonom wedi bod yn pendroni ynghylch y sefyllfa bresennol. Fel mae'n tueddu gwneud fe ddywedodd Tim rywbeth amlwg ond hawdd ei anghofio sef hyn "mae'n rhaid cofio mai plaid newydd yw'r Democratiaid Rhyddfrydol... dyw hi ddim yn gyfluniad na charfan hanesyddol".

Mae'n bwynt da a phwysig. Rhannu, gwahanu ac yna dod yn ôl at ei gilydd oedd hanes y Rhyddfrydwyr yn y ganrif ddiwethaf. Fe rannodd y blaid yn ddwy garfan yn y dauddegau ac yn dair yn y tridegau cyn i ystyfnigrwydd Clement Davies a hud a lledrith Jo Grimmond codi ffenics o'r lludw.

Daeth chwalfa arall yn sgil y briodas gyda'r Democratiaid Cymdeithasol. Fe ddisgynnodd y gefnogaeth i'r blaid newydd i lai na 5% yn ei blwyddyn gyntaf. Treuliodd y blaid rhan helaeth o'r flwyddyn honno yn ymgecru ynghylch ei henw.

Mae Leighton Andrews yn rannol gyfrifol am y ffaith mai "Democratiaid Rhyddfrydol" ac nid "Democratiaid" yw enw'r blaid heddiw gyda'i ble mewn cynhadledd "just let's get on with Paddy's party" yn ddigon i gnocio synnwyr mewn i ambell i ben.

I raddau helaeth roedd y blaid newydd yn cyfuno rhyddfrydiaeth gymdeithasol a syniadau economaidd oedd a'u gwreiddiau mewn democratiaeth gymdeithasol.

Roedd y briodas honno'n un naturiol. Wedi cyfan mae'n debyg mai Roy Jenkins, pen-bandit yr SDP, oedd ysgrifennydd cartref mwyaf rhyddfrydol yr ugeinfed ganrif ac roedd democratiaeth gymdeithasol wedi bod yn ddylanwad pwysig o fewn y Blaid Ryddfrydol ers dyddiau "Llyfr Melyn" Lloyd George a Keynes.

Yr hyn nad oedd yn rhan o'r briodas rhwng y Rhyddfrydwyr a'r SDP oedd rhyddfrydiaeth economaidd oes Fictoria gyda'i phwyslais ar fasnach rydd a daioni'r marchnadoedd. Fe geisiodd grŵp o Ddemocratiaid Rhyddfrydol atgyfodi rhai o'r syniadau hynny yn y "Llyfr Oren" a gyhoeddwyd yn 2004 llyfr oedd, ac sydd, yn wrthun i sawl Ddemocrat Rhyddfrydol. Roedd pedwar allan o'r pum Democrat Rhyddfrydol yng nghabinet gwreiddiol David Cameron yn gyfranwyr i'r "Llyfr Oren". Does rhyfedd eu bod yn teimlo'n gysurus!

Rwy'n synhwyro ar hyn o bryd bod trwch aelodaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn credu nad oedd gan y blaid fawr o ddewis ond ffurfio clymblaid a'r Ceidwadwyr a'u bod yn deisyfu gweld y glymblaid honno yn llwyddo. O dan yr wyneb ar y llaw arall mae 'na wahaniaeth barn, gwahaniaeth athronyddol bron, rhwng etifeddion y "Llyfr Melyn" a selogion y "Llyfr Oren".

Dyw'r peth ddim yn rhwyg nac yn hollt, dim eto o leiaf, ond fe allai fod yn ffactor bwysig mewn blynyddoedd i ddod. Yn sicr mae ambell un o fewn y blaid Lafur yn gweld y potensial i geisio cymryd mantais o'r gwahaniaeth barn hwnnw. Wrth gyflwyno yn Aberpennar y noson o'r blaen fe ddywedodd David Miliband hyn;

Hardie said, repeatedly, that although there were many things that we can agree on with liberals, when it came to the conflict between capital and labour, between the banks and the real economy, they would always side with the Conservatives. He didn't have a crystal ball, but he would have predicted that Nick Clegg would be busy defending a Conservative Budget over 100 years after he was elected MP for Merthyr Tydfil and Aberdare. We must retain a strong connection with that tradition of social liberalism that recognises that liberty and solidarity are two sides of the same coin, while being vigilant in opposing that form of economic liberalism that rules the world in the interests of the richest.

Does dim angen bod yn athrylith i synhwyro beth yw bwriad David Miliband yn fan hyn. Mae'n amlwg mai tacteg u Blaid Lafur yn ystod y blynyddoedd nesaf, pwy bynnag yw'r arweinydd, fydd ceisio polareiddio gwleidyddiaeth rhwng y 'ni' a'r 'nhw'. Y 'ni' yw'r "progressive majority" y mae Peter Hain mor hoff ohoni, y 'nhw' yw'r glymblaid yn San Steffan. Os ydy'r dacteg yn llwyddo fe allai'r canol hollti, ond fel gwnaeth Tim f'atgoffa dyna mae'r canol yn tueddu gwneud.

Canlyniadau

Vaughan Roderick | 11:39, Dydd Gwener, 9 Gorffennaf 2010

Sylwadau (6)

mckenzie1970_150.jpgRoedd 'na ddau is etholiad cyngor diddorol ddoe. Dyma'r canlyniadau;

Blaenau Gwent

Canol a Gorllewin Tredegar

Llafur 797
Ann 334

Llafur yn cadw (2008; Laf 808, 740, 712, 691, Plaid Cymru 587, Llais y Bobol 544, 516
Dem Rhydd 539)

Caerffili

Y Coed Duon

Llafur 545
Ann 469
Plaid Cymru 355
Ceid. 170

Llafur yn cipio (2008; Ann 1794, 962, 817, Llaf 700, 681, 513, Plaid Cymru 505, 504, Ceid. 219, 212, 197)

Mae'r ddau ganlyniad yn dystiolaeth bellach bod y gefnogaeth i Lafur yn cryfhau yn ei chadarnleoedd. Mae angen bod ychydig yn garcus ynghylch canlyniad Y Coed Duon. Cyn ei gwymp mewn helynt ynghylch treuiliau roedd y cynghorydd anibynnol Kevin Etheridge yn arbennig o boblogaidd. Dyw methiant yr ymgeisydd annibynol ddim yn syndod efallai ond mae'n ganlyniad sal iawn i Blaid Cymru.

Pen Draw'r Byd

Vaughan Roderick | 10:05, Dydd Gwener, 9 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

kangaroo_bbc_203long.jpgDisgwylir i etholiad cael ei alw yn Awstralia o fewn yr wythnos nesaf. Fe fydd llygaid anoracs Cymru ar yr ornest wrth i Julia Gillard geisio ennill y swydd yn ei rhinwedd ei hun. Ar y meinciau Llafur mae 'na dipyn o gystadleuaeth rhwng Jane Hutt a Gwenda Thomas ynghylch p'un ai'r Barri neu Cwmgwrach sy'n cael ei hawlio. Gallwn droi at rifyn Awstralia o'r am ddyfarniad niwtral.

Cwm Nedd sy'n mynd a hi yn ôl y cylchgrawn hwnnw mewn erthygl dan y teitl "Old South Wales socialism made Gillard who she is."

Sut ras fydd hi rhwng Julia Gillard a Tony Abbot? Mae'r fideo yma'n cynnig blas!

Diolch i Andy Bell am y doleni. Gallwch ddilyn yr etholiad ar flog gwliedyddol Cymraeg gorau Awstrialia (ac mae 'na gryn gystadeluaeth am y teitl hwnnw) yn .

Um-geiswyr (2)

Vaughan Roderick | 16:20, Dydd Iau, 8 Gorffennaf 2010

Sylwadau (4)

_203759_druid_150.jpgMae Plaid Cymru ar fin dewis ei hymgeisydd yng Nghaerffili ar gyfer 2011. Mae'n debyg mai un enw ac un enw yn unig sydd yn y ffram.

Enw Ron Davies yw hwnnw.

Deallaf fod Ron wedi gwneud tipyn o farc o flaen y panel cenedlaethol sy'n asesu ymgeiswyr posib. Roedd ei ateb i'r cwestiwn "pa bwerau sydd wedi eu datganoli i'r cynulliad?" yn fodel, mae'n debyg.

Fe fydd e'n brofiad rhyfedd i Ron sefyll yng Nghaerffili heb Lindsay Whittle fel gwrthwynebydd. Rwy'n meddwl mai dim ond unwaith o'r blaen mae hynny wedi digwydd a hynny yn etholiad cynulliad 1999.

Beth fydd tynged Lindsay tybed? A fydd arweinydd Cyngor Caerffili yn ymgeisio ar restr y de ddwyrain, tybed?

Os felly fe fydd e'n cystadlu yn erbyn William Graham, dyn sydd a'i fys ar bỳls etholwyr yr ardal. Dyma'r datganiad barn diweddaraf y mae William am osod gerbron y cynulliad.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn talu teyrnged i fywyd a chyfraniad Charles Rolls

Ar 12fed Gorffennaf 2010, bydd can mlynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth Charles Rolls o Langatwg, sir Fynwy. Ef oedd yr arloeswr cyntaf yng Nghymru ym maes moduro a hedfan. Ar y cyd â Frederick Henry Royce, gwnaethant sefydlu cwmni gweithgynhyrchu ceir Rolls-Royce, un o'r cwmnïau gweithgynhyrchu peiriannau- awyrennau mwyaf eiconig a llwyddiannus yn y byd.

Fe aiff hwnna lawr yn dda yn Nhredegar!


Ar dy feic

Vaughan Roderick | 11:52, Dydd Iau, 8 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

_39039913_gwyrdd203.jpgMae 'na beryg mewn darllen gormod mewn i arolygon barn. Fe ges i fy atgoffa o hynny gan ddatganiad o eiddo Jake Griffiths o'r Blaid Werdd y bore 'ma. Mae Jake wedi bod yn palu ym mherfeddion arolwg YouGov/ITV ac wedi canfod bod hwnnw'n cofnodi cefnogaeth o 9% i'r Gwyrddion yn rhanbarth Canol De Cymru.

Mae Jake yn gywir wrth nodi y gallai hynny fod yn ddigon i ennill sedd rhestr ond nefoedd, mae seilio'ch gobeithion ar yr hyn mae 18 o bobol allan o sampl o 200 yn dweud yn gythreulig o beryglus.

Dydw i ddim yn diystyrru gobeithion y Gwyrddion trwy ddweud hynny ac mae didoliad y seddi etholaethol yn golygu mai yng Nghanol De Cymru y mae eu cyfle gorau ond fe fydd angen llawer mwy o dystiolaeth i fy arghyhoddi y bydd Jake yn beicio i'r Bae yn 2011!

Dyma'r Newyddion

Vaughan Roderick | 17:21, Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

harpicas.jpgDydw i ddim yn sgwennu'n aml ynghylch darlledu ar y blog yma. Mae gwneud hynny'n llosgachol braidd ond mae rhywbeth diddorol iawn wedi ymddangos ar wefan ITV Cymru. Nid stori newyddion sydd wedi denu fy sylw ond . Mae'r cwmni yn chwilio am bum newyddiadurwr i weithio ar ei wasanaeth newyddion Saesneg ac mae'r swyddi hynny yn rhai parhaol.

Efallai eich bod yn cofio bod ITV y llynedd wedi honni nad oedd hi'n bosib cynnal y gwasanaeth hwnnw a rhai "rhanbarthol" eraill bellach. O ganlyniad fe benderfynodd y Llywodraeth Lafur gynnig cytundebau ac arian o'r drwydded deledu i gwmnïau annibynnol lenwi'r bwlch.

Roedd 'na dri arbrawf i fod - un yng Nghymru a dau arall yn yr Alban a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Yn achos Cymru fe enillwyd y cytundeb gan Ulster Television yn erbyn cystadleuaeth gan Tinopolis, cynhyrchwyr Wedi Saith, a "Taliesin", consortiwm yr oedd ITV ei hun yn ffafrio.

Fe roddodd y Llywodraeth newydd y gorau i'r cynlluniau ond mae'n ymddangos bellach bod ITV ei hun yn benderfynol o barhau i ddarparu gwasanaeth newyddion Saesneg i Gymru beth bynnag sy'n digwydd yn rhanbarthau Lloegr. Y sibrwd yw bod y cwmni hefyd yn bwriadu i'r gwasanaeth fod yn un llawer caletach nac yw e ar hyn o bryd. Hynny yw, fe fydd na fwy o newyddion go iawn a llai o eitemau cylchgrawn a selebs.

Mae'r ffaith bod cadeirydd newydd ITV Archie Norman a Cheryl Gillan wedi cwrdd yng Nghroes Cyrlwys yr wythnos hon yn arwydd o'r ymrwymiad newydd, dybiwn i. Mae gen i syniad go dda hefyd pam mae rheolwyr newydd ITV wedi newid cynlluniau eu rhagflaenwyr.

Pan enillodd UTV y cytundeb newyddion roedd rheolwyr y cwmni hwnnw'n gwbwl eglur eu bod yn gweld y cytundeb fel ffordd o roi troed yn y drws ar gyfer y drwydded Gymreig lawn sydd i'w hysbysebu yn 2012.

Yn sgil methiant "Taliesin" mae'n ymddangos bod ITV wedi sylweddoli pa mor fregus oedd ei gafael ar hen drwydded HTV Cymru. Yn hynny o beth gellid dadlau bod arbrawf y Llywodraeth Lafur wedi llwyddo er iddo beidio digwydd!

Um-geiswyr

Vaughan Roderick | 15:52, Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

_47949323_chrissmart2_grab_226.jpgMae'n bryd i ni ddal lan gyda'r stranciau ynghylch dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiad 2011.

Fe wna i ddechrau gyda'r Ceidwadwyr y tro hwn a'r saga ddiddiwedd ynghylch rhestr Gorllewin De Cymru- y rhanbarth y mae Alun Cairns yn cynrychioli yn y Cynulliad. Mae'n debyg eich bod yn cofio cwynion Chris Smart, yr ail ar y rhestr yn 2007, ar ôl i'r blaid benderfynu na ddylai Alun ymddiswyddo yn sgil ei ethol i Dŷ'r Cyffredin.

Pe bai Alun wedi gadael fe fyddai Chris wedi cymryd ei le yn y cynulliad ac o ganlyniad i reolau'r blaid ef fyddai ar frig y rhestr flwyddyn nesaf. Fel mae pethau mae fe'n gorfod ymgeisio am ei le fel unrhyw un arall.

Dyw pethau ddim yn argoeli'n dda i Chris. Mae'r safle cyntaf ar y rhestr wedi ei glustnodi ar gyfer menyw ac fe fydd 'na gystadleuaeth ffyrnig am yr ail safle. Mae'n arwydd efallai o'r ffordd mae'r gwynt yn chwythu bod Chris wedi cael crasfa'r wythnos hon yn yr etholiad i ddewis cadeirydd y rhanbarth ac mai un o staff Nick Bourne wnaeth ei guro. Mae barwn Bourne o'r Bae yn amddiffyn ei gastell yn bur effeithiol mae'n ymddangos!

Mae 'na anniddigrwydd sylweddol gyda llaw ymhlith aelodau Ceidwadol a Llafur ar lawr gwlad bod aelodau rhestr yn cael ei hail-enwebu'n awtomatig. Mae rhai'n amau mai rhan o'r ddêl gyda Mohammad Ashgar yw'r rheol yn achos y Ceidwadwyr. Dyn a ŵyr beth yw'r rheswm yn achos y blaid Lafur.

Ta beth am hynny, mae aelodau rhestr y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn gorfod wynebu cynadleddau dewis. Fe fyddai rhai'n amau bod Janet Ryder yn difaru am hynny. Mae'n debyg bod y gystadleuaeth ffyrnig am enwebiadau rhestr Plaid Cymru yn y Gogledd yn rhannol gyfrifol am ei phenderfyniad i ymgeisio yn Ne Clwyd.

Mae'n rhyfeddod i mi fod 'na gymaint o ffwdan ynghylch y rhestr honno yn rhengoedd y blaid . Rwyf wedi bod yn derbyn negeseuon a galwadau di-ri yn pledio achos neu'n pardduo rhyw ymgeisydd neu'i gilydd.

Mae'n bryd i bobol y blaid gallio. Dim ond o drwch blewyn wnaeth Plaid Cymru ennill sedd rest yn y gogledd y tro diwethaf a does dim sicrwydd bod sicrhau safle ar frig y rhestr yn gyfystyr a thocyn tymor ar awyren Manx2!

Pwy sy'n mynd i ennill? Does gen i ddim clem. Fe wna i adael y proffwydo yn yr achos hwnnw i Paul yr wythdroed clirweledol ond fe wna i un broffwydoliaeth mewn rhanbarth arall. Adam Price fydd ar frig rhestr Plaid Cymru yn y Canolbarth a'r Gorllewin. Wrth gwrs os oedd Nerys Evans yn ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin...

Pwyll Pwyllgor

Vaughan Roderick | 13:41, Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

david_davies_bbc226.jpgDydw i ddim yn meddwl fy mod wedi crybwyll hyn o'r blaen ond mae Swyddfa Â鶹Éç Cymru yn NhÅ· Hywel syth o dan ystafell y Cabinet. Hyd yma rydym wedi gwrthsefyll y demtasiwn i ddal gwydr i'r nenfwd i geisio clywed beth sy'n mynd ymlaen!

Efallai bod fy nghlustiau yn fy nhwyllo ond rwy'n credu fy mod wedi clywed sŵn llestri'n cael eu taflu ac ambell i waedd o ddicter yn dod o'r pumed llawr y bore 'ma.

Tybed oes a wnelo'r stori yn y Scotsman unrhyw beth a hynny?

Os ydy'r papur yn gywir mae Pwyllgorau Dethol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bwriadu cynnal archwiliad i weld ydy datganoli wedi delifro ar gyfer pobol y ddwy wlad a'r dalaith.

Mae'n ddigon teg credu y byddai'r llywodraethau datganoledig yn wyllt gacwn pe bai ymchwiliad o'r fath yn cael ei gynnal. Wedi'r cyfan dyw'r llywodraethau ddim yn atebol i San Steffan ond i'w cynulliadau a senedd eu hun.

Coeliwch neu beidio mae Cadeirydd y pwyllgor Dethol Cymreig, David Davies yn llwyr ddeall y sensitifrwydd. Mae David wedi arllwys dŵr oer ar adroddiad y Scotsman gan awgrymu mai dyfodol pontydd Hafren fydd testun ymchwiliad cyntaf y pwyllgor.

Cyfraith Ryder

Vaughan Roderick | 13:51, Dydd Mawrth, 6 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

moses-radiant-face.jpgMae'n ddiwrnod am gyfreithiau newydd.

Yn sgil Cyfraith Gyntaf BourneTM mae Janet Ryder wedi datgelu ei chyfraith ei hun yn y siambr. Ni fedr neb wadu ei gywirdeb. Dyma hi;

"One of the reasons over 55s have mobility problems is that they have something wrong with their feet"

Ydy meddygon yn sylweddoli hynny, tybed?

Cyfraith Bourne

Vaughan Roderick | 12:06, Dydd Mawrth, 6 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

vtnls.gifYchydig iawn o wleidyddion sy'n llwyddo i sicrhau rhyw fath o anfarwoldeb trwy gael rhywbeth wedi ei henwi ar eu holau. Wellington a'i fŵt, Hore-Belisha a'i oleufa a Joel Barnett a'i fformiwla yw'r enghraifftiau amlwg. Mae'n sicr bod 'na ambell i un arall er bod ymdrechion Kenneth Baker i anfarwoli ei hun trwy'r "Baker Day" wedi mynd i'r gwellt.

Mae llai fyth o bobol yn llwyddo i gael cyfraith wyddonol (neu un sy'n esgus bod yn wyddonol) wedi ei henwi ar ei holau. Mae Newton ac Einstein a chyfreithiau go iawn, wrth gwrs. Dydw i ddim yn gwybod pwy oedd y Murphy wnaeth roi ei enw i "Murphy's Law" ond rwy'n weddol sicr taw nad Paul oedd yn gyfrifol!

Ta beth rwy'n amau bod Nick Bourne wedi anfarwoli ei hun (ar y blog yma o leiaf) gyda'r dyfyniad yma o'i gynhadledd newyddion heddiw;

"There is a clear political connection even if there is no logical one".

Waw! Dyma hi felly, Cyfraith Gyntaf Bourne;

"Nid oes angen cyfiawnhad rhesymegol dros benderfyniad gwleidyddol".

Fe fyddaf yn ei dyfynnu'n helaeth o hyn ymlaen!

Fe fathodd Nick ei gyfraith wrth geisio esbonio polisi Llywodraeth y DU o beidio ag ystyried diwygio fformiwla Barnett tan ar ôl pleidlais gadarnhaol yn y refferendwm ynghylch cynyddu pwerau deddfu'r Cynulliad.

Roedd Gerry Holtham ei hun yn ddirmygus o'r safiad hwnnw'r bore 'ma gan ddweud hyn; "Mae'r cwestiwn o gyllid yn gyfan gwbl ar wahân i'r cwestiwn o bwerau. Does 'na ddim cysylltiad. Dim cysylltiad o gwbl."

Mae anodd dadlau a hynny. Os ydy Cymru'n cael llai na'i haeddiant o safbwynt arian cyhoeddus a'r Alban yn cael mwy mae hynny'n annheg beth bynnag yw'r trefniadau llywodraethol. Roedd hi'n annheg yn nyddiau'r Swyddfa Gymreig, mae'n annheg heddiw ac fe fydd hi'n annheg flwyddyn nesaf beth bynnag yw canlyniad y refferendwm. Diolch byth bod Cyfraith Gyntaf Bourne yno i achub y Torïaid!

Fe fyddai Cyfraith Gyntaf Bourne wedi bod o gymorth i Kirsty Williams heddiw hefyd.

Fe geisiodd Kirsty esbonio pam fod cynnal refferendwm ynghylch y bleidlais amgen ar yr un diwrnod ac etholiad y Cynulliad yn dderbyniol pan oedd y blaid oedd mor ffyrnig yn erbyn refferendwm ynghylch pwerau'r cynulliad ar y dyddiad hwnnw. Gwadodd Kirsty hefyd bod y refferendwm ynghylch y bleidlais amgen yn gosod cynsail ynghylch newidiadau i'r drefn bleidleisio, hynny yw y byddai'n rhaid cael refferendwm cyn cyflwyno STV ar gyfer y Cynulliad, y Senedd neu'r Cynghorau.

I fod yn deg roedd gan Kirsty atebion resymegol i'r ddau gwestiwn ond pa angen rhesymeg pan mae Cyfraith Gyntaf Bourne yn bodoli?

Mae dydd Plaid Y Gyfraith Naturiol wedi gwario o'r diwedd!

Am wythnos!

Vaughan Roderick | 17:27, Dydd Gwener, 2 Gorffennaf 2010

Sylwadau (2)

Mae hon wedi bod yn wythnos hir. Os ydych eisiau gwybod sut rwy'n teimlo cymerwch gip ar flog .

Mae gen i ychydig o glecs ynghylch ymgeiswyr cynulliad i gyd o'r de-ddwyrain y tro hwn. Mae'n debyg bod Angela Jones Evans am herio David Melding am enwebiad Ceidwadol Bro Morgannwg. Efallai na fydd David yn cael pethau mor hawdd â'r disgwyl!

Mae Neil McEvoy o Blaid Cymru sy'n ddirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd yn wynebu sefyllfa debyg yng Ngorllewin Caerdydd lle mae son bod Elin Tudur yn cynnig ei henw.

Draw yng Nghanol Caerdydd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi llunio rhestr fer o ymgesiwyr i olynnu Jenny Randerson. Mae'n cynnwys dau aelod arall o Gabinet Cyngor Caerdydd sef arweinydd y Cyngor Rodney Berman a Nigel Howells.

A son am Ganol Caerdydd mae Llafur yn hynod o obeithiol yn ei chylch o gofio bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill dros hanner y pleidleisiau yn 2007 ac yn dal pob un sedd cyngor. Mae'n wir bod pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gostwng yn sylweddol yn yr etholaeth yn yr etholiad cyffredinol ond mae 'na glamp o fwyafrif i'w gwyrdroi. Oes arf dirgel gan Lafur, tybed?

Sibrydion

Vaughan Roderick | 13:41, Dydd Iau, 1 Gorffennaf 2010

Sylwadau (3)

wispa203body_pa.jpgMae'n bryd dal fyny a'r sibrydion diweddaraf ynghylch ymgeiswyr cynulliad flwyddyn nesaf.

Fe wna i gychwyn gyda Llafur lle mae'n debyg y bydd cyhoeddi'r arolwg barn diweddaraf yn achosi tipyn o ail-feddwl.

Cymerwch Christine Gwyther fel esiampl. Roeddwn i'n cymryd bod penderfyniad cyn AC Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro i sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol yn arwydd ei bod yn anelu am enwebiad ar restr Llafur yn y Gorllewin a'r Canolbarth. Gallai hynny fod yn beryglus yn etholiadol o gofio bod rheolau'r blaid yn gwarantu mai Joyce Watson fydd ar frig y rhestr. A fydd Christine efallai'n dod i'r casgliad mai yn ei hen etholaeth y mae ei chyfle gorau i ddychwelyd i'r Bae? Os nad yw Christine yn cael ei themtio mae enw arall yn cael ei grybwyll mewn cylchoedd Llafur sef y cyn Aelod Seneddol Nick Ainger. Os oedd Nick yn sefyll does dim dwywaith yn fy meddwl mai Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro fyddai'r ras fwyaf difyr yn etholiad 2011.

Mae hi bron yn sicr mai Nerys Evans fydd yn cario baner Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin. Yn hynny o beth mae Nerys yn cydymffurfio a chynlluniau strategwyr y blaid i roi'r "bobol orau" yn yr etholaethau.

Mae'r sefyllfa'n wahanol iawn yn y Gogledd yn sgil arwyddion cryf na fydd Dafydd Wigley yn sefyll yn 2011. Mae rhai o bobol fawr y blaid yn awyddus iawn i weld LlÅ·r Hughes Griffiths a Heledd Fychan yn sefyll mewn etholaethau'r tro nesaf. Gorllewin Clwyd a Maldwyn yw'r etholaethau hynny, dybiwn i, ond ar hyn o bryd mae'n ymddangos mai anelu am frig rhestr y Gogledd mae'r ddau. Dyw hynny ddim yn plesio rhai o'r penaethiaid ond fel dywedodd un "ar ddiwedd y dydd mae'n fater iddyn nhw".

Yn sicr mae'r rhesymeg bersonol yn amlwg. Yn achos Gorllewin Clwyd, er enghraifft mae'r arolwg diweddaraf yn cynyddu'r tebygrwydd y bydd Alun Pugh yn mentro'i law ac er nad yw'n gyfan gwbwl amhosib dychmygu Plaid Cymru yn ennill sedd cynulliad Maldwyn mae'n gythraul o "long-shot"

Wrth gwrs fe fyddai'r sefyllfa'n wahanol LlÅ·r a Heledd ac eraill pe bai Gareth Jones yn penderfynu peidio sefyll yn Aberconwy ond ar hyn o bryd does na ddim arwydd bod hen ben meinciau Plaid Cymru am roi'r ffidl yn y to.

Fe fydd darllenwyr selog y blog yma yn gwybod bod y llun yna o far "Wispa" yn ymddangos yn weddol gyson yma. Mae 'na reswm arbennig dros ei gynnwys heddiw.

Mae Veronica German newydd gymryd ei llw fel Aelod Cynulliad. Hi yw aelod newydd cyntaf y Democratiaid Rhyddfrydol ers i Elinor Burnham gymryd lle Christine Humphries yn 2001. Yn fwy pwysig fel gwyddonydd i gwmni Cadbury hi wnaeth ddyfeisio ffordd o roi swigod mewn siocled nad oedd yn torri patent "Aero". Yn ogystal â bod yn Mrs* German felly, hi yw mam y Wispa Bar.

*Sori, Ledi German!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.