Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sibrydion

Vaughan Roderick | 13:41, Dydd Iau, 1 Gorffennaf 2010

wispa203body_pa.jpgMae'n bryd dal fyny a'r sibrydion diweddaraf ynghylch ymgeiswyr cynulliad flwyddyn nesaf.

Fe wna i gychwyn gyda Llafur lle mae'n debyg y bydd cyhoeddi'r arolwg barn diweddaraf yn achosi tipyn o ail-feddwl.

Cymerwch Christine Gwyther fel esiampl. Roeddwn i'n cymryd bod penderfyniad cyn AC Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro i sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol yn arwydd ei bod yn anelu am enwebiad ar restr Llafur yn y Gorllewin a'r Canolbarth. Gallai hynny fod yn beryglus yn etholiadol o gofio bod rheolau'r blaid yn gwarantu mai Joyce Watson fydd ar frig y rhestr. A fydd Christine efallai'n dod i'r casgliad mai yn ei hen etholaeth y mae ei chyfle gorau i ddychwelyd i'r Bae? Os nad yw Christine yn cael ei themtio mae enw arall yn cael ei grybwyll mewn cylchoedd Llafur sef y cyn Aelod Seneddol Nick Ainger. Os oedd Nick yn sefyll does dim dwywaith yn fy meddwl mai Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro fyddai'r ras fwyaf difyr yn etholiad 2011.

Mae hi bron yn sicr mai Nerys Evans fydd yn cario baner Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin. Yn hynny o beth mae Nerys yn cydymffurfio a chynlluniau strategwyr y blaid i roi'r "bobol orau" yn yr etholaethau.

Mae'r sefyllfa'n wahanol iawn yn y Gogledd yn sgil arwyddion cryf na fydd Dafydd Wigley yn sefyll yn 2011. Mae rhai o bobol fawr y blaid yn awyddus iawn i weld LlÅ·r Hughes Griffiths a Heledd Fychan yn sefyll mewn etholaethau'r tro nesaf. Gorllewin Clwyd a Maldwyn yw'r etholaethau hynny, dybiwn i, ond ar hyn o bryd mae'n ymddangos mai anelu am frig rhestr y Gogledd mae'r ddau. Dyw hynny ddim yn plesio rhai o'r penaethiaid ond fel dywedodd un "ar ddiwedd y dydd mae'n fater iddyn nhw".

Yn sicr mae'r rhesymeg bersonol yn amlwg. Yn achos Gorllewin Clwyd, er enghraifft mae'r arolwg diweddaraf yn cynyddu'r tebygrwydd y bydd Alun Pugh yn mentro'i law ac er nad yw'n gyfan gwbwl amhosib dychmygu Plaid Cymru yn ennill sedd cynulliad Maldwyn mae'n gythraul o "long-shot"

Wrth gwrs fe fyddai'r sefyllfa'n wahanol LlÅ·r a Heledd ac eraill pe bai Gareth Jones yn penderfynu peidio sefyll yn Aberconwy ond ar hyn o bryd does na ddim arwydd bod hen ben meinciau Plaid Cymru am roi'r ffidl yn y to.

Fe fydd darllenwyr selog y blog yma yn gwybod bod y llun yna o far "Wispa" yn ymddangos yn weddol gyson yma. Mae 'na reswm arbennig dros ei gynnwys heddiw.

Mae Veronica German newydd gymryd ei llw fel Aelod Cynulliad. Hi yw aelod newydd cyntaf y Democratiaid Rhyddfrydol ers i Elinor Burnham gymryd lle Christine Humphries yn 2001. Yn fwy pwysig fel gwyddonydd i gwmni Cadbury hi wnaeth ddyfeisio ffordd o roi swigod mewn siocled nad oedd yn torri patent "Aero". Yn ogystal â bod yn Mrs* German felly, hi yw mam y Wispa Bar.

*Sori, Ledi German!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:03 ar 1 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Iwan Rhys:

    Gobeithio y bydd Ledi German yn gwneud mwy na llanw'r Cynulliad gyda swigod o aer! (Bwm bwm!)

  • 2. Am 15:58 ar 2 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Adam Jones:

    Wi'n credu base Heledd Fychan ei hun yn gwneud aelod cynulliad gwych ac yn cydymffurfio ar ochr radical Plaid Cymru yn bendant, Mae tân yn ei bol hi ac mae hynny'n gallu bod yn rhywbeth arwyddocaol iawn. Hoffwm i Weld Adam Price yn ceisio castell nedd hefyd.

  • 3. Am 17:44 ar 2 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Matt :

    Beth am y si y bydd Penri James sefyll ar gyfer yr Canolbarth a Gorllewin Cymru yn rhanbarth?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.