Canlyniadau
Roedd 'na ddau is etholiad cyngor diddorol ddoe. Dyma'r canlyniadau;
Blaenau Gwent
Canol a Gorllewin Tredegar
Llafur 797
Ann 334
Llafur yn cadw (2008; Laf 808, 740, 712, 691, Plaid Cymru 587, Llais y Bobol 544, 516
Dem Rhydd 539)
Caerffili
Y Coed Duon
Llafur 545
Ann 469
Plaid Cymru 355
Ceid. 170
Llafur yn cipio (2008; Ann 1794, 962, 817, Llaf 700, 681, 513, Plaid Cymru 505, 504, Ceid. 219, 212, 197)
Mae'r ddau ganlyniad yn dystiolaeth bellach bod y gefnogaeth i Lafur yn cryfhau yn ei chadarnleoedd. Mae angen bod ychydig yn garcus ynghylch canlyniad Y Coed Duon. Cyn ei gwymp mewn helynt ynghylch treuiliau roedd y cynghorydd anibynnol Kevin Etheridge yn arbennig o boblogaidd. Dyw methiant yr ymgeisydd annibynol ddim yn syndod efallai ond mae'n ganlyniad sal iawn i Blaid Cymru.
SylwadauAnfon sylw
Spin 鈥渄iddorol鈥 o ganlyniad Caerffili. Pleidlais Llafur yn cymwpo 155 pleidlais (o'r bleidlais ucha tro diwethaf), a pleidlais Plaid Cymru yn cwympo 150 pleidlais yng nghanol y tymor mewn Cyngor lle maent yn rheoli. Felly swing o Llafur i Blaid Cymru os unrhywbeth ag eto canlyniad 鈥渟al iawn i Blaid Cymru鈥. Diddorol.
Duw a 诺yr pam y byddai unrhyw un yn pleidleisio Lafur ar 么l y 13 mlynedd trychinebus diwethaf.
Vaughan - dim i wneud 'da'r pwnc yma ond dwi'n gegrwth. Miliwn o bobl (ffigurau'r heddlu) yn gorymdeithio yn Barcelona yn galw ar Sbaen i barchu canlyniad refferendwm ar Stadud Newydd i'r Wlad a gynhalwyd yn 2006 ... a dim gair ar wefan 麻豆社 Cymru, 麻豆社 Llundain (heb son am Euronews, France24 neu Aljazeera na Golwg360.
Dwi'n derbyn mwy o wybodaeth ar Twitter na gyda'r 'gwasanaethau newyddion' proffeisynnol. Beth sy'n cyfri fel 'newyddion' dyddie 'ma. I feddwl fod dros filiwn o bobl yn gorymdeithio a hynny ar drothwy gem ffeinal Cwpan y Byd pan gellid disgwyl fod 'na lot o genedlaetholdeb Sbaenaidd ar hyd y wladwriaeth, mae hyn yn stori fawr.
Af n么l at Twitter am fy newyddion a holi i fy hun pam ydw i'n talu ffi leisans a pam fod angen newyddion 麻豆社 Cymru?
Newyddion: www.vilaweb.cat (g诺glgyfieithwch)
Pwynt diddorol. Mae 'na elfen o "herd mentality" mewn newyddiaduraeth weithiau. Yn sicr fe fyddai'r brotest o ddiddordeb i wylwyr Cymreig.
Fe wna i godi'r peth yn fan hyn ond does gen i ddim lot o ddylanwad dros Euronews, France24 nac Aljazeera!
Flach mai ti ddwedodd fod elfen o 'herd mentality' gan newyddiadurwr. Gallwn i byth ddweud na meddwl y fath beth! Gweld fod stori ar wefan newyddion 麻豆社 Saesneg a France24.com ... rwyt ti'n rhy wylaidd Vaughan.
Mwy stwff ar yr orymdaith a gwleidyddiaeth Catalwnia ar wefan Saesneg yma am Gatalwnia:
... mae 'na hefyd digon o bobl sy'n siarad Catalaneg a Chymraeg alle esbonio beth sy'n arwain i 1.3 miliwn o bobl gymryd i'r strydoedd.
Tybed pa effaith a gaiff llwyddiant tim Spaen ar hunaniaeth Catalonia ?
Mae'r tim wedi ei seilio ar gryfderau tim Barcelona, a mawr y bu'r dathlu yno . Y canlyniad gwaethaf posibl i genedlaetholwyr yno .Mae'n un maes lle mae Cymru gyda mantais dros pob un cenedl leiafrifol arall - mae tim peldroed ein hunain gennym . Yr ydym ni'n cwyno fod baner st Sior yn frit yma- dychmygwch petaech yn Gataloniad gwrth-Sbaenaidd heddiw !