Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2010

Wyt ti'n cofio...

Vaughan Roderick | 21:10, Dydd Sul, 28 Mawrth 2010

Sylwadau (2)


Efallai eich bod yn cofio y blaid fach fyrhoedlog "Cymru Ymlaen" neu "Forward Wales".

Mae'n ymddangos bod un o'i dau "enw mawr", Ron Davies, o fewn blewyn i fod yn ymgeisydd cynulliad Plaid Cymru yng Nghaerffili.

Ond beth am "enw mawr" arall y blaid, John Marek?

Fe, wedi'r cyfan, wnaeth sefydlu'r blaid ar ôl iddo golli'r enwebiad Llafur yn Wrecsam (chwedl Llafur) neu ar ôl i Lafur troi ei chefn ar sosialaeth (chwedl John Marek).

Sut mae John am barhau a'r frwydr dros sosialaeth? Ydy e wedi cefni ar wleidyddiaeth, tybed?

Jyst gofyn.


Diweddariad
Dydd Llun. Mae John Marek wedi ymuno a'r Ceidwadwyr. Dyna i chi gyd-ddigwyddiad!

A dyma'r newyddion

Vaughan Roderick | 15:20, Dydd Iau, 25 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

harpicas.jpgDoeddwn i ddim yn gwybod bod llais canu go dda gan Gareth Hughes, hen ben gwleidyddol ITV a Golwg, nes i mi ei glywed yn canu y "Londonderry Air" yn y lifft y bore 'ma!

Ymateb cellweirus i'r newyddion bod cwmni UTV wedi ennill y drwydded i ddarparu gwasanaeth newyddion Saesneg ar ITV oedd Gareth wrth gwrs. Doedd dim modd iddo wybod y byddai ganddo fe reswm go iawn i ganu cyn diwedd y dydd.

Y prynhawn yma cynhaliodd UTV gynhadledd newyddion i drafod y gwasanaeth gan addo rhaglen newyddion fyddai a llawer llai o "selebs" ac eitemau ysgafn a llawer mwy o newyddion caled, gwleidyddiaeth a darnau dadansoddol.

Roeddwn wedi mynd i'r gynhadledd i ofyn un cwestiwn penodol. Gan fod enwau'r cwmnïau unigol wedi diflannu o'r sgrin mae'n hawdd anghofio bod ITV o hyd yn darlledu ar sail hen drwyddedau rhanbarthol fel rhai HTV, Granada a Central. Er bod 'na lai o werth iddyn nhw yn yr oes ddigidol maen nhw o hyd yn bodoli ac i fod i gael eu hail-hysbysebu cyn bo hir.

Y gair o gwmpas y lle yw mai pedair trwydded yn unig (neu efallai pump os oes 'na un i ynysoedd y sianel) fydd yn cael eu hysbysebu. Y tebygrwydd yw y bydd 'na drwydded i Loegr gyfan, un yr un i'r Alban a Gogledd Iwerddon a thrwydded i Gymru gan dorri'r cysylltiad hanesyddol a Bryste.

Fy nghwestiwn syml i oedd hwn. "Ydy UTV yn bwriadu ceisio am drwydded Cymru".

Roedd ateb Michael Wilson, rheolwr gyfarwyddwr UTV yr un mor syml. "Absolutely" meddai.

Dywedodd y byddai UTV yn dwli cael y drwydded gyfan er mwyn cynhyrchu ystod eang o raglenni Cymreig. Edrychodd i fyw llygad Gareth gan ychwanegu y byddai eich "rhaglen wleidyddol benigamp chi" yn eu plith. Roedd 'na gythraul o wen a'r wyneb Gareth ac rwy'n sicr fy mod wedi hanner clywed rhywbeth...

"...Oh Danny boy, the pipes, the pipes are calling..."

air

Vaughan Roderick | 13:31, Dydd Iau, 25 Mawrth 2010

Sylwadau (2)

CambrianLogo1.jpgDyw pobol Plaid Cymru erioed wedi bod yn or-hoff o'r enw "Ieuanair" ar y gwasanaeth awyr rhwng y Fali a Chaerdydd. Mae'r pleidwyr yn llygaid eu lle wrth ddweud bod y gwasanaeth wedi cychwyn cyn ffurfio'r glymblaid. Ar y llaw arall doedd y blaid ddim yn cwyno'n ormodol am y llysenw cyn i Highland Airways fynd i drafferthion!

Ta beth fe fydd y llywodraeth yn cynnig tender dros dro i gynnal y gwasanaeth ddydd Llun yn y gobaith o ail-gychwyn hedfan yn fuan wedi'r Pasg.

Ond o ble y daw achubiaeth ? Yn y siambr ddoe honnodd un A.C ei fod wedi clywed bod y llywodraeth yn ystyried gwasanaeth hofrennydd. Byswn i'n tybio bod hynny'n annhebyg o ystyried y gost a pherfformiad anwadal y dechnoleg mewn tywydd garw. Ta beth, os oedd Ieuan yn casáu "Ieuanair" siawns y byddai'r holl jôcs am "chopars" gan waith gwaith.

Ar y diwrnod y daeth achubiaeth posib i newyddion ITV Cymru o du hwnt i Fôr Iwerddon ai o'r cyfeiriad hwnnw y daw achubiaeth air hefyd? Un ymgeisydd amlwg i gamu i'r bwlch yw cwmni sydd a'i wreiddiau'n ddwfn yn y Gaeltacht sef .

Ers rhai blynyddoedd bellach hwn yw'r cwmni fu'n darparu gwasanaethau awyr rhwng Caerdydd a'r weriniaeth. Yn ddiweddar arwyddodd y cwmni i ddatblygu'r gwasanaethau ymhellach yn fwyaf arbennig er mwyn marchnata gwasanaethau rhwng Cymru a Gogledd America trwy Ddulyn.

Ers tro byd mae hyrwyddwyr maes awyr Môn wedi bod yn ceisio sicrhau cysylltiad rhwng y Fali a Dulyn. A fydd tranc Highland Airways yn dod a'r freuddwyd gam yn agosach? Gan fod ei wraig yn Wyddeles efallai y byddai "Carwynair" yn enw addas i'r gwasanaeth hwnnw. Gallai neb gwyno wedyn!

Dafydd yn doethinebu

Vaughan Roderick | 14:32, Dydd Mercher, 24 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

dafyddelisthomas203x300.jpgYr unig ddarn o fusnes go iawn yn y Cynulliad heddiw oedd dadl ynghylch y mesur i sefydlu corff annibynnol i bennu taliadau'r aelodau. Gwireddu argymhellion Pwyllgor Syr Roger Jones mae'r mesur a chan fod y pleidiau i gyd yn ei gefnogi doedd dim lot o ots bod meinciau'r llywodraeth yn wag.

Fel y nodais i ddoe, roedd y Llywydd yn bresennol gan ymateb i'r ddadl o'i sedd ar lawr y siambr tra bod William Graham yn llywio pethau o'r set fawr. Cyhoeddodd Dafydd Elis Thomas ei fod yn bwriadu derbyn argymhellion y pwyllgor craffu sydd wedi bod yn ystyried y mesur.

Wrth gwrs dyw Dafydd ddim yn un sy'n gallu gwrthsefyll y temtasiwn i dynnu blew o drwyn. Fe wnaeth hynny heddiw trwy gyfeirio at weinidogion sy'n gwrthod syniadau da "ar y sail nad nhw oedd wedi eu cael nhw"!

Oedd e'n cyfeirio at unrhyw weinidog yn arbennig, tybed, ac ai drwg neu dda o beth oedd y ffaith nad oedd yr un Gweindiog yno i'w glywed?

Wele gaethion y cystudd hirfaith...

Vaughan Roderick | 12:48, Dydd Mawrth, 23 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

XM7441_52.jpgDyw'r peth ddim yn cymharu â Streic y Glowyr na Streic y Penrhyn mewn gwirionedd ond mae gweision sifil y cynulliad yn streicio eto fory. Unwaith yn rhagor mae aelodau Llafur a Phlaid Cymru yn bwriadu parchu'r llinell biced er mwyn profi nad oes bradwr yn y tŷ hwn!

Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu gweithio ac yn wahanol i'r streic flaenorol fe fydd y cynulliad yn cwrdd gan mai busnes y gwrthbleidiau nid y Llywodraeth sydd ar yr agenda.

Mae'r gwrthbleidiau am achub ar eu cyfle hefyd gan gynnig pob math o feirniadaethau o'r Llywodraeth gan wybod y bydd pob un yn cael ei basio'n unfrydol.

Gall neb feio'r ddwy blaid am gael tipyn o sbort. Wedi'r cyfan fe wnaethon nhw benderfynu peidio defnyddio'r opsiwn niwclear trwy gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder- cam a fyddai wedi gorfodi i bobol Llafur a Phlaid Cymru groesi'r llinell er mwyn rhwystro cwymp y Llywodraeth.

Mewn gwirionedd, mae'n debyg y byddai'r Llywydd wedi gwahardd trafodaeth o'r fath. Fe fydd Dafydd Elis Thomas wrth ei waith yfory, gyda llaw. Does neb yn ei feirniadu am hynny, er bod un aelod wedi awgrymu'n gellweirus y byddai'n anodd i'r Llywydd ddadlau ei fod yn "gweithio yn yr etholaeth".

Dyna mae'r rhan fwyaf o'r aelodau absennol yn gwneud, wrth gwrs. Does dim arwydd o gwbwl bod unrhyw un ohonyn nhw'n mynd i ymateb i her y Democratiaid Rhyddfrydol a cholli diwrnod o gyflog fel mae'r streicwyr go iawn yn gwneud.

Tri a Deg

Vaughan Roderick | 10:53, Dydd Mawrth, 23 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

_38788029_shillings_238.jpgI bobl fel fi, cafodd eu magu yn nyddiau arian go iawn dyw tri a deg ddim yn swm enfawr- rhyw 19c mewn gwirionedd! Ni fyddai canfod arbediad o'r fath yn fawr o dasg hyd yn oed i'r Syr Wmffra mwyaf afradlon! Pam felly mae wynebau gweinidogion a mandarins fel ei gilydd yn gwelwi wrth glywed y geiriau "tri a deg" y cael eu sibrwd yng nghoridorau TÅ· Hywel?

Yn anffodus i'r llywodraeth canrannau nid sylltiau a cheiniogau yw'r tri a deg yma! Yn ôl y sibrwd mae'n rhaid canfod toriadau o dri y cant yng ngwariant cyfredol y Llywodraeth a deg y cant yn y gwariant cyfalaf yn y flwyddyn ariannol 2011-2012. Nid torriadau swllt a naw yw'r rheiny! Gellir cymryd nad geiriau gwag felly yw'r addewidion i "edrych ar bob llinell o'r gyllideb" a "gwneud penderfyniadau poenus".

Mae'n bosib y gallai cau'r gwasanaeth awyr rhwng y Fali a Chaerdydd fod yn un o'r "penderfyniadau poenus" hynny. Yn ôl y sôn os nad oes 'na gwmni awyr sy'n fodlon cynnal y gwasanaeth am fwy neu lai'r lefel presennol o gymhorthdal mae'n ymddangos bod dyddiau "Ieuanair" wedi eu rhifo.

O leiaf mae'r Llywodraeth yn awr yn gwybod na fydd 'na doriadau yn y flwyddyn ariannol sydd ar fin cychwyn os oes 'na Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Fe ddaeth y newydd hynny yn y ffordd fwyaf rhyfedd posib.

Cyhoeddodd y Torïaid dros y Sul y byddai cyllideb Llywodraeth yr Alban ar gyfer 2010-2011 yn "cael ei pharchu". Roedd y cyhoeddiad yn ganlyniad trafodaethau rhwng yr SNP a'r Ceidwadwyr ond mae'n ymddangos nad oedd Ceidwadwyr Cymru na chwaer blaid yr SNP, Plaid Cymru, yn gwybod affliw o ddim am y trafodaethau hynny!

Yn sicr doedd Carwyn Jones ddim yn gwybod am y peth pan ofynnwyd cwestiwn am y cytundeb mewn cynhadledd newyddion heddiw. Na phoener! Ar ôl galwad ffôn sydyn gan Nick Bourne i swyddfa George Osborne cafwyd addewidion cyffelyb ynghylch cyllidebau Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae hynny'n newyddion da i bawb, byddai dyn yn tybio, ac eithrio, efallai, y Democratiaid Rhyddfrydol. Wedi'r cyfan mae'n ein hatrgoffa nad y blaid honno yw'r unig un y gallai'r Ceidwadwyr wahodd i'r ddawns os oes 'na senedd grog.

Elin, o Elin...

Vaughan Roderick | 11:47, Dydd Gwener, 19 Mawrth 2010

Sylwadau (1)

33488.jpgRwy'n cadeirio trafodaeth banel i sefydliad Bevan yn hwyrach prynhawn yma. Dydw i ddim yn edrych ymlaen at y profiad. Ar ôl darllen y sylwadau y mae Elin Jones wedi paratoi mae'r geiriau "hard act to follow" yn dod i'r meddwl!

Dyma flas o'i haraith gan gychwyn gyda'i hymateb fel merch deuddeg oed i bleidlais "Na" 1979.

"Ar ôl '79 bues i'n Gomiwnydd, yna'n gristion a hyd yn oed am gyfnod byr yn llysieuwraig cyn i mi gallio yn fy arddegau hwyr."

Mae Elin hefyd yn cyfaddef iddi bleidleisio yn erbyn agor tafarndai ar y Sul nid oherwydd ei bod hi yn erbyn yfed ar y Saboth ond am fod ganddi syniad rhamantus am Geredigion fel "perl bach gwahanol ar fwclis unffurf"

Mae 'na ddigon o gig yn yr araith hefyd ac nid dim ond hanes troeon trwstan yr LCO cig coch rwy'n golygu trwy ddweud hynny!

Mae Elin yn dadlau bod angen mynd ati yn syth ar ôl yr etholiad cyffredinol i drefnu ymgyrch "ie" ac mae'n rhybuddio yn erbyn disgrifio'r bleidlais fel un ynghylch "tacluso'r setliad". Mae sawl un i mewn ei phlaid ei hun wedi defnyddio'r union eiriau hynny ond yn ôl y Gweinidog mae hynny'n gamgymeriad.

"Fe fydd y refferendwm yn gofyn cwestiwn sylfaenol bwysig sef 'ydych chi'n credu y dylai'r cynulliad gael yr hawl i ddeddfu heb ofyn caniatâd San Steffan?' Mae hynny'n benderfyniad pwysig a ni ddylid ei guddio trwy esgus bod e'n ddim byd mwy na makeover."

Mae'n ymddangos nad dim ond trefnu ymgyrch "ie" sydd angen ond cytuno ynghylch y neges.

Crypto

Vaughan Roderick | 16:45, Dydd Iau, 18 Mawrth 2010

Sylwadau (1)

_46447295_carwynjones203x300.jpgUn o'r pethau oedd yn poeni trefnwyr ymgyrch Carwyn Jones am yr arweinyddiaeth Llafur oedd y canfyddiad gan rai ei fod yn rhyw fath o genedlaetholwr cudd neu "crypto-nat" i ddefnyddio geiriau rhai o gefnogwyr ymgeiswyr eraill.

Aeth pobol Carwyn allan o'u ffordd i danseilio'r cyhuddiad hwnnw gyda'u hymgeisydd yn brolio ym mron pob araith ei fod yn falch o fod yn Brydeiniwr yn ogystal â Chymro

Heddiw cafodd newyddiadurwyr y Cynulliad eu gwahodd i barlwr y Prif Weinidog am de a bara brith i nodi ei ganfed diwrnod wrth y llyw a dyma i chi Gareth Hughes yn gofyn cwestiwn gan gyfeirio at y "papurau cenedlaethol". Dyma union ymateb Carwyn;

"Don't call them national papers. They're not national papers. They're London papers."

Mae hynny'n swnio braidd yn "crypto" i fi! Wedi'r cyfan fel mae David Cornock wedi nodi ar ei mae ymosodiadau ar "Lundain" yn rhan ganolog o strategaeth Plaid Cymru.

Doethineb Solomon

Vaughan Roderick | 10:35, Dydd Iau, 18 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

solomon_judge.jpgYmhlith cynyrchiadau llai amlwg uned wleidyddol Â鶹Éç Cymru mae'n rhaglenni byw o'r Cynadleddau Cymreig. Maen nhw'n sbort i wneud ac mae 'na fwy o bobol yn gwylio na fyddech chi'n meddwl. Dyw'r cynulleidfaoedd ddim cystal â "Cash in the attic" neu "Murder She Wrote" ond mae 'na griw go lew o bobol sy'n dewis treulio'u prynhawniau yn dilyn digwyddiadau yn Venue Cymru, y Brangwyn neu le bynnag.

Mae hanes y darllediadau yma'n ddiddorol. Yn ôl ar ddechrau'r wythdegau fe wnaeth Plaid Cymru gwyno bod y Â鶹Éç ac S4C yn darlledu'n fyw o gynhadleddau "cenedlaethol" (h.y Prydeinig) y pleidiau eraill ond nid o'i chynhadledd "genedlaethol" hi. O ganlyniad i hynny dechreuwyd darlledu'n fyw o gynhadledd Plaid Cymru.

O fewn byr o dro daeth cwynion gan y pleidiau eraill yn dadlau bod hi'n annheg ein bod ni'n darlledu o un gynhadledd "Gymreig" ond nid o'r lleill.

Hanfod y broblem wrth gwrs oedd bod cynhadledd Plaid Cymru yn un "genedlaethol" ond hefyd yn un "Gymreig". Ar ôl hir drafod cytunwyd ar gyfaddawd. Fe fyddai 'na ddarllediadau o'r cynadleddau "Cymreig" i gyd gan glustnodi cynhadledd wanwyn Plaid Cymru fel ei chynhadledd "Gymreig". Ar yr un pryd fe fyddai na ddarllediadau o'r pedair cynhadledd "genedlaethol" gan gynnwys cynhadledd hydref Plaid Cymru.

Mae'r drefn honno wedi para am ddeng mlynedd ar hugain heb unrhyw gwynion ond mae'n enghraifft o'r fath o artaith resymegol sydd angen er mwyn ceisio sicrhau cydbwysedd gwleidyddol yng Nghymru o fewn gwladwriaeth a chyfundrefn ddarlledu Prydain gyfan.

Mae'n debyg eich bod wedi synhwyro erbyn hyn fy mod am drafod ychydig ar y dadleuon rhwng arweinwyr y pleidiau fydd yn cael eu darlledu rhwng nawr a'r etholiad cyffredinol. Mae'r trefniadau sydd wedi eu gwneud i gyd yn hysbys ac mae trafodaethau a'r pleidiau'n parhau. Dydw i ddim yn rhan o'r trafodaethau hynny.

Y cyfan ddwedaf i yw hyn. Does 'na ddim ateb "cywir" i'r pethau yma. Chwilio am yr ateb gorau posib mae'r darlledwyr.

Dyw cwynion Plaid Cymru ddim yn ddi-sail. Mae'n ddigon posib dadlau, er enghraifft, nad oes gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol siawns go iawn o fod yn brif weinidog ac y gallai'r penderfyniad i gynnwys Nick Clegg yn y rhaglenni ddylanwadu ar y canlyniad yng Ngheredigion.

Ar y llaw arall a fyddai'n deg torri plaid wnaeth ennill chwe miliwn o bleidleisiau yn 2005 allan o'r ddadl?

Ar ddiwedd y dydd dyw tegwch llwyr a phlesio pawb ddim yn bosib. Yn eu calonnau rwy'n meddwl bod arweinwyr Plaid Cymru yn gwybod hynny. Ar y llaw arall dydw i ddim yn beio nhw am geisio sicrhau'r del gorau posib!

Rwy'n falch bod rhyw Solomon yn rhyw le yn penderfynu'r pethau 'ma! Byswn i ddim yn hoffi gwneud!

Perlau Oscar

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Iau, 18 Mawrth 2010

Sylwadau (1)

200px-Hywel_Dda_at_Cardiff_City_Hall.jpgMae hi wastad yn bleser gwrando ar Mohammad Ashgar. Does wybod pa berl y bydd dyn yn clywed. Y bore 'ma yn y pwyllgor diwylliant cyfeiriodd at y "world-class Welsh hurdler, Michael Jackson" cyn symud ymlaen i ganmol Ian Woosnam am ennill y "top award in US Golf". Rwy'n cymryd mai cyfeiriad at y "US Masters" oedd hwnna!

Roedd pethau'n fwy gwaraidd ac addysgedig yng nghyfarfod y pwyllgor Cynaladwyedd lle'r oedd yr aelodau yn trafod rhandaliadau- alotments i chi a fi.

Cafodd y Pwyllgor wers hanes difyr gan Dan Morris o Gymdeithas y Rhandalwyr am yr hyn yr oedd gan gyfraith Hywel Dda i ddweud am berchnogaeth tir, dwr a physgod. Diolchodd Mike German i Dan gan nodi fod ei atebion yn "hynod ddefnyddiol". Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn cellwair wrth ddweud hynny!

Llythyr yn post...

Vaughan Roderick | 16:46, Dydd Mercher, 17 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Emyr Lewis, Dr Robyn Lewis, y Barnwr Dewi Watkin Powell, Michael Strain, Hywel Davies, Gwilym Prys Davies... dyma i chi restr o rai o sêr byd y gyfraith yng Nghymru. Mae 'na dri ar ddeg ohonyn nhw i gyd wedi llofnodi llythyr agored ynghylch y mesur iaith.

Barnu'r mesur yn erbyn addewidion Cymru'n Un mae'r llythyr ac yn ôl y Cyfreithwyr mae'n ddiffygiol. Dyma'u prif gasgliad.

Yn ein barn ni, i raddau'n unig y mae'r Mesur hwn yn cyflawni'r amcanion a amlinellwyd yng nghytundeb Cymru'n Un. Ofnwn fod y Mesur yn greadur llai effeithiol nag y gallasai fod i ddylanwadu'n gadarnhaol ar yr hinsawdd ieithyddol yng Nghymru.

Fe fydd y llythyr llawn yn ymddangos yn y wasg yfory. Cur pen arall i'r Gweinidog Diwylliant.

Mesur y mesur

Vaughan Roderick | 13:01, Dydd Mercher, 17 Mawrth 2010

Sylwadau (2)

_940628_morgan300.jpgMae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn westai ar CF99 heno ac yntau ar fin dathlu ei ganfed diwrnod yn y swydd. Roedd Rhodri Morgan arfer cynnal "photo-op" a theisen ar achlysuron o'r fath er mai'r newyddiadurwyr ac nid y gwleidydd oedd yn cael bwyta'r gacen. Doctors ordyrs!

Go brin y bydd Carwyn yn orawyddus i ddilyn esiampl neu dderbyn cyngor gan ei ragflaenydd am ddathliadau o'r fath nac unrhyw beth arall yn sgil ei sylwadau yn y pwyllgor deddfwriaeth sy'n ystyried y mesur iaith y bore 'ma. Fe roddodd Rhodri amser anghysurus i'r Gweinidog Treftadaeth a dweud y lleiaf.

Gofyn wnaeth y cyn brif weinidog a fyddai'n ddyletswydd ar y Comisiynydd Iaith i geisio sicrhau cydraddoldeb i'r Saesneg mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn iaith fwyafrifol. Roedd Betsan yn gwylio'r cyfarfod, ei blog hi felly yw'r lle i gael y manylion i gyd.

Does bosib nad yw Rhodri'n gwybod yn iawn mae nad hynny yw rôl y Comisiynydd. Siawns nad oedd e wedi trafod y peth droeon wrth i'r LCO iaith ymlwybro'i ffordd trwy goridorau San Steffan.

Mae'n ddigon posib mai ceisio sicrhau bod rôl y comisiynydd wedi ei ddisgrifio'n yn fwy manwl ac eglur yn y mesur oedd Rhodri. Dyna mae fe ei hun yn dweud ond fe fydd eraill yn ei weld fel enghraifft arall o'r berthynas ryfedd rhwng Rhodri a'r byd Cymraeg.

Ar y naill ochor mae'n siarad yr iaith a phob tro yn barod i'w defnyddio. Dyw e ddim yn un o'r gwleidyddion hynny sy'n gwrthod gwneud cyfweliadau Cymraeg os nad oes 'na gyfle i wneud un Saesneg hefyd. Mae 'na fwy o'r rheiny na fyswch chi'n meddwl. Gwna i ddim o'u henwi ond dyw Rhodri byth wedi bod yn un ohonyn nhw.

Ar y llaw arall mae Rhodri'n reddfol ddrwgdybus ynghylch unrhyw syniad neu awgrym sy'n deillio o'r hyn mae'n ystyried fel "y sefydliad Cymraeg". Mae agweddau Rhodri tuag at y sefydliad hwnnw (os ydy'r peth yn bodoli) wedi eu gwreiddio'n ddwfn ac a wnelo rhywbeth a'i ! Ta beth am hynny, maen nhw wedi eu hamlygu droeon ar hyd y blynyddoedd, yn natur gyfyngedig mesur iaith arfaethedig y llywodraeth ddiwethaf a'i agwedd tuag at addysg Gymraeg yn ei etholaeth, er enghraifft.

Serch hynny y tro hwn mae gan Rhodri bwynt dilys. Os nad yw'n rhan o rôl y Comisiynydd Iaith i fod yn bencampwr i'r Saesneg yng Ngwynedd oni ddylai'r mesur ddweud hynny?

Nid Rhodri yw'r unig un sy'n gweld diffygion y mesur. Fe fydd y rhai o ben-bandits byd y gyfraith yn mynegi eu hanfodlonrwydd mewn llythyr i'w wasg yfory. Mwy am hynny yn y man.

Chwalfa

Vaughan Roderick | 16:41, Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

_40478969_strikingcivilservants203.jpgMae'n sicr eich bod yn cofio'r helynt wythnos ddiwethaf ynghylch penderfyniad aelodau cynulliad Llafur a Plaid Cymru i beidio croesi llinell biced y PCS. Oherwydd hynny fe gafodd eisteddiad y Cynulliad ei ohirio ddydd Mawrth diwethaf gyda marathon o sesiwn ddydd Mercher er mwyn delio a'r busnes.

Roedd y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu'r penderfyniad hwnnw ond doedd na fawr ddim yr oedd y ddwy blaid yn gallu gwneud ynghylch y peth. Busnes y Llywodraeth yn unig sy'n cael ei thrafod ar ddydd Mawrth a thrwy dynnu'r holl fusnes yn ôl roedd modd i'r Llywodraeth rwystro'r sesiwn rhag cael ei chynnal.

Mae'r drefn yn wahanol ar ddydd Mercher pan mae'r gwrthbleidiau a dogn o amser i drafod pynciau o'u dewis ac fel mae'n digwydd mae streic nesa'r PCS ddydd Mercher nesaf.

Dyw'r llywodraeth ddim yn gallu defnyddio'r un tric i ohirio'r eisteddiad, felly. Oes 'na ffordd arall iddi gyflawni hynny neu a fydd yn rhaid iddi ddibynnu ar drugaredd y Llywydd? Os nad oes modd gohirio'r sesiwn a fyddai pobol Llafur a Phlaid yn croesi'r llinell biced? Pe bai aelodau'r llywodraeth yn cadw draw pa fath o ddrygioni y byddai'r gwrthbleidiau'n gallu cyflawni yn y siambr?

Mae 'na ddigon o gwestiynau felly ac mae mwy nac un person yn craffu ar y rheolau sefydlog i geisio canfod yr atebion!

Twll bach y clo

Vaughan Roderick | 12:52, Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

_1305224_lock-bbc300.jpgCafwyd tipyn o siarad yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol am y posibilrwydd o senedd grog. A phwy all feio'r blaid am egseitio'n lan am y posibilrwydd o gael dylanwad go iawn ar lywodraeth y Deyrnas Unedig? Ar y llaw arall dyw profiadau 2007 yng Nghymru ddim yn llenwi dyn a hyder y gall y blaid gymryd llawn mantais ar y sefyllfa!

Galwodd Nick Clegg ar y blaid i roi tipyn o ryddid dwylo iddo fe os nad oes llywodraeth fwyafrifol yn San Steffan. Mewn geiriau eraill dyw e ddim am i'r blaid seneddol gael ei chlymu'n ormodol gan y dieflig yna wnaeth achosi cymaint o drafferth i Mike German.

Yn y bôn mae'r clo hwnnw yn golygu bod angen cydsyniad pwyllgor gwaith y blaid ac mewn rhai amgylchiadau cynhadledd arbennig er mwyn cymryd unrhyw gam sy'n effeithio ar annibyniaeth y blaid, ffurfio clymblaid er enghraifft. Methiant Mike German i sicrhau cefnogaeth mwyafrif o'r pwyllgor gwaith Cymreig oedd y rhwystr yn llwybr yr "enfys" wnaeth agor y drws i Lywodraeth "Cymru'n Un".

Ond yn y sefyllfa economaidd bresennol lle gallai ansicrwydd gwleidyddol yn San Steffan gael effaith andwyol ar y marchnadoedd arian mae'n ymddangos bod ei harweinwyr Prydeinig wedi penderfynu y dylai buddiannau'r deyrnas fod yn drech na strwythurau'r blaid.

Ychydig dros flwyddyn sy 'na tan etholiad nesaf y Cynulliad, etholiad sydd hyd yn oed yn llai tebygol na'r etholiad cyffredinol o gynhyrchu llywodraeth fwyafrifol. Ydy Kirsty Williams yn rhannu pryderon Nick Clegg ynglŷn â'r clo triphlyg, tybed?

A barnu o'i sylwadau am hynny heddiw mae'n amlwg ei bod hi. Dyma ei hunion eiriau "I have no intention of the Welsh Liberal Democrats being in the same position as were were last time".

Awgrymodd Kirsty yn gryf y byddai'n gofyn i gynhadledd hydref y blaid ail-edrych ar y rheolau. Roedd hi'n bwysig meddai bod aelodau'r blaid yn ymddiried yn eu harweinwyr i wneud y penderfyniadau cywir.

Gellid maddau i Mike German pe bai'n siglo ei ben mewn anghrediniaeth wrth glywed hynny. Pwy, wedi cyfan oedd yn gwrthod ymddiried yn ei benderfyniadau ef gan ddefnyddio'r clos triphlyg i ddryllio ei gynlluniau? Rhywun o'r enw Kirsty Williams os ydw i'n cofio'n iawn.

Doethwr Bro Dyfi

Vaughan Roderick | 09:57, Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

_38486707_davidson150.jpg
Dim ond un o "Sesiynau'r Pierhead" y bues i ynddi. Doedd hi ddim lot o beth, mewn gwirionedd. Roedd nifer o'r bobl fawr oedd i fod i siarad wedi methu troi fyny a ches i fawr o flas arni.

Mae'n amlwg bod sesiynau eraill wedi bod yn fwy llwyddiannus ac wedi cynnig ysbrydoliaeth i rai.

Mae nifer o'r rhai wnaeth glywed araith Jane Davidson ddoe ynghylch creu Cymru carbon isel wedi sylwi ar y tebygrwydd rhyfedd rhyngddi ac araith y guru gwyrdd (a bwci bo Tescos Machynlleth) George Monbiot yn y Pierhead.

Fel mae'n digwydd Jane oedd yn cadeirio'r sesiwn yna.

Pa blaned?

Vaughan Roderick | 15:05, Dydd Gwener, 12 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

_288453_sunbed300.jpgLlongyfarchiadau i Alun Michael a Julie Morgan wnaeth weld eu mesurau seneddol preifat yn llwyddo yn NhÅ·'r Cyffredin heddiw.

Cafodd mesur Alun ynghylch rheolau priodasol yr Eglwys yng Nghymru fawr o drafferth ond fe osodwyd ambell i rwystr yn llwybr mesur Aelod Gogledd Caerdydd. Cyflwynwyd cyfres o welliannau i'r mesur fyddai'n rheoleiddio gwelyau haul gan yr aelod Ceidwadol Christopher Chope. Dyma flas o'r ddadl.

Mark Simmonds: It might be of assistance to my hon. Friend to learn that evidence was put before the House on Second Reading to suggest that it might be possible to get a session in a treatment salon for as little as 15p.

Mr. Chope: Fifteen pence? Well, that sounds pretty inexpensive to me--it is even less than the price of a Mars bar, or whatever young people eat these days. I read somewhere that the price was 25p in an unsupervised studio, but if the price can be as low as 15p, that suggests that the costs of provision are probably very low and that there is scope for the development of a black market, with substantial profits to be made. If sunbeds are driven out of the legitimate community and pushed underground, we could end up with another sub-culture being exploited by some of our friends from Albania or wherever, although that is speculation.

Beth sy 'na i ddweud?

Tra'n bod ni wrthi mae'r dyfyniad yma o ddadl y Cynulliad ynghylch y Mesur Iaith ddydd Mercher yn dipyn o berl;

"Yn ddiweddar, bûm mewn seminar diddorol dan arweiniad Gwion Lewis. Yr oedd yn traddodi'n fanwl ar faterion sydd y tu hwnt i'm dealltwriaeth i efallai, ond, o'r hyn yr wyf yn ei ddeall, mae pryderon."

Eiddo pwy oedd y geiriau? Fe wna i ond dweud ei bod hi'n Ddemocrat Rhyddfrydol Cymraeg ei hiaith!

Barnu'n deg

Vaughan Roderick | 10:35, Dydd Gwener, 12 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

schools_sub1.jpgFe gododd Guto Bebb bwynt diddorol ar CF99 y noson o'r blaen. Honnodd fod yr awgrymiadau cyson bod y ras rhwng y Ceidwadwyr a Llafur yn un agos wedi eu lliwio gan y ffaith bod arolygon YouGov yn cael eu cyhoeddi'n ddyddiol a bod y rheiny yn ffafrio Llafur. Yn ôl Guto mae arolygon gan gwmniau eraill yn awgrymu bod y Ceidwadwyr o hyd yn arwain yn gyffyrddus.

Nid ym Mhrydain yn unig y mae YouGov yn wynebu cyhuddiadau bod ei methodoleg yn ffafrio'r chwith. Yn yr Unol Daleithiau mae nifer o sylwebyddion gwleidyddol yn anwybyddu polau Rasmussen/ Noson Lawen a YouGov- y naill am ffafrio'r Gweriniaethwyr a'r llall am ffafrio'r Democratiaid. Mae hyd yn oed y "" un o brif wefannau'r chwith yn disgrifio arolygon YouGov fel hyn "crappy internet polls that lean Democratic".

Y safle gorau i weld canlyniadau'r holl arolygon diweddar yw "" ac wrth edrych ar yr ystadegau mae'n amlwg bod gan Guto bwynt. Yn ôl arolwg diweddaraf YouGov dim ond tri phwynt sy'n gwahanu'r ddwy blaid fawr ac mae'r gwahaniaeth wedi bod yn llai na chwech y cant ers wythnosau.

Mae cwmnïau eraill sy'n cyhoeddi eu canlyniadau yn llawer llai aml na YouGov yn awgrymu bod yr adwy llawer yn fwy. +9 oedd ffigwr ddiwethaf Ipsos Mori, er enghraifft.

Nid bod hynny'n golygu nad yw'r ras wedi closio. Roedd y cwmnïau i gyd o'r farn bod yr adwy mewn ffigyrau dwbl hydref diwethaf. Y cwestiwn yw ydy'r adwy wedi cau i'r graddau y mae YouGov yn honni? Fe gawn wybod yn ddigon buan.

Y broblem i'r Ceidwadwyr yw bod y polau yn gallu creu'r naratif trwy ddylanwadu ar ganfyddiad yr etholwyr. Dyna'r rheswm am y rheolau caeth iawn sydd gan y Â鶹Éç ynghylch comisiynu a chyhoeddi arolygon barn. Maen nhw'n boen weithiau ond mae 'na reswm da drostyn nhw.

Enw Da?

Vaughan Roderick | 14:49, Dydd Iau, 11 Mawrth 2010

Sylwadau (1)

_39172040_coins-bbc203.jpgHen foi gwydn yw Joel Barnett. Doedd y ffaith ei fod yn tynnu am ei nawdeg ddim yn ddigon i'w gadw i ffwrdd o'r ddadl ynghylch ei fformiwla enwog yn NhÅ·'r Arglwyddi heddiw.

Nid bod Arglwydd Barnett yn ffan o'i fformiwla ei hun. Mae wedi dadlau ers tro byd dros gael gwared o'r peth a chyflwyno cyfundrefn i ddidoli'r arian ar sail angen. Fe wnaeth hynny eto heddiw gan ddadlau bod parhau a'r gyfundrefn bresennol yn chwarae i ddwylo'r rheiny sy'n dymuno chwalu undod y deyrnas.

Dydw i ddim yn sicr ai chwedlonol ai peidio yw'r honiad bod gweision sifil y trysorlys wedi derbyn y gorchymyn hwn wrth lunio'r fformiwla "round everything up in Scotland and round it down in Wales". Beth bynnag yw'r gwir, mae Arglwydd Barnett wedi derbyn ers blynyddoedd bod Cymru wedi cael cam.

Serch hynny gellid maddau iddo be bai'n teimlo ychydig yn chwithig ar ôl yr hen fformiwla. Ychydig iawn o wleidyddion, wedi'r cyfan, sydd â rhywbeth wedi ei enwi ar eu holau. Mae goleuadau oren Hoare Belisha yn dal i oleuo'n croesfannau sebra a bŵts Wellington yn cadw'n traed yn sych ond ar wahân i'r rheiny prin yw'r enghreifftiau!

Beth fydd enw'r fformiwla newydd, tybed? Dyw "fformiwla Jones" ddim yn debyg o dycio ond clywais un awgrym difyr.

Y gwleidydd wnaeth fwy na neb i droi'r system yn bwnc llosg oedd y diweddar Phil Williams. Roedd ei gwynion yn ddi-baid- yn syffedus felly weithiau. Ond yn raddol fe drodd y twt twtian yn gytundeb.

Fe fyddai "Fformiwla Phil" yn hawdd ar y glust ac yn ddigon haeddiannol ym marn pobol Plaid Cymru!


Amser Chwarae

Vaughan Roderick | 21:18, Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

_38579959_iwj_pensive150.jpgCafwyd enghreifftiau ddoe o'r cynulliad ar ei orau ac ar ei waethaf. Y drwg i ddechrau. Os oedd angen prawf bod gwres yn gallu lladd goleuni fe gafwyd hynny yn y ddadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar raglen ffyrdd y Llywodraeth.

"Just because you're paranoid doesn't mean they're not out to get you" medden nhw. Mae'n ddigon posib bod gan y Dirprwy Brif Weinidog reswm i fod yn flin da'r pwyllgor ac i gredu bod rhai o'r aelodau wedi mynd allan o'i ffordd i bardduo ei enw da.

Serch hynny, roedd hyd yn oed ambell i aelod Plaid Cymru yn credu bod Ieuan Wyn Jones wedi gwneud camgymeriad dybryd trwy fod mor ymosodol a dirmygus yn ystod y ddadl.

Dydw i erioed wedi gweld unrhyw un mor grac yn y siambr a chadeirydd y pwyllgor, Anegla Burns. Does neb yn dod allan o hyn yn dda. Mae'n werth gwylio'r ddadl yn ei chyfanrwydd ond y pum munud olaf yw'r darn allweddol.

Dadl adeiladol a chwrtais oedd yr un ynghylch cynlluniau ad-drefnu ysgolion ar y llaw arall. Roedd yr aelodau'n canmol eu hun oherwydd hynny. Yn y maes hwn mae'n biti nad yw'r agweddau cwrtais ac adeiladol hynny'n ymestyn y tu hwnt i'r siambr bob tro.

Clywais stori'r dydd o'r blaen am blant sydd mewn dagrau wrth fynd i'r ysgol oherwydd ymddygiad bygythiol disgyblion ysgol gyfagos sydd o dan fygythiad. Nid beio'r plant y mae'r rhiant y clywais i'r stori ganddi ond rhai o'u rhieni.

Yn ogystal â bod yn gwrtais i'w gilydd yn y siambr fe ddylai gwleidyddion (boed hynny ar Gyngor yn y Cynulliad) wneud eu gorau i rwystro dadleuon o'r fath rhag troi'n chwerw yn eu cymunedau.

Twla fe, Alun

Vaughan Roderick | 16:45, Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010

Sylwadau (2)

ty_ddewi340.jpgUn o'r gwleidyddion sy'n gyson wrth amddiffyn y setliad cyfansoddiadol presennol, yn arbennig y gyfundrefn LCO, yw Alun Michael. Serch hynny mae darn bach arall o ddeddfwriaeth ynghylch y berthynas rhwng Cymru a Lloegr yn ei boeni'n arw. Deddf yr Eglwys yng Nghymru (1914) yw'r mesur hwnnw.

Efallai eich bod chi, fel fi, yn credu bod y mesur wnaeth ddatgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yn golygu bod ei haelodau'n feistri ar eu tomen eu hun. Dyw hynny ddim yn gyfan gwbwl wir. Mewn ambell maes San Steffan sydd a'r gair olaf.

Y rheolau ynghylch priodi sy'n poeni Alun- nid rheolau dadleuol ynghylch priodasau hoyw nac unrhyw beth felly, ond y rheolau yna sy'n mynnu eich bod yn byw yn y plwyf os am briodi yn y Llan.

Oherwydd bod Eglwys Loegr yn eglwys sefydledig mae ganddi'r hawl i amrywio'r rheolau (sy'n rhan o gyfraith gwlad) trwy'r hyn a elwir yn fesurau. Does dim angen LCO chwaith! Yn ddiweddar fe newidiodd Eglwys Loegr y rheolau er mwyn caniatáu i bobol briodi yn eglwysi lleol eu rhieni neu mewn eglwys lle maen nhw'n addolwyr cyson.

Mae'r Eglwys yng Nghymru ar y llaw arall yn gorfod glynu at y rheolau oedd yn bodoli yn 1914. Dim ond San Steffan sydd a'r hawl i newid y rheolau hynny ac fe fydd Alun yn cyflwyno mesur preifat i geisio gwneud hynny Ddydd Gwener.

Fe fyddai rhai, wrth gwrs, yn dadlau mai gwell fyddai cyflwyno mesur i atal hawl aelodau seneddol i hwpo'u trwynau ym musnes yr Eglwys unwaith ac am byth.

Mae'r bobol hynny yn anghofio bod yr Eglwys Gymreig wastad wedi bod yn fater o'r pwys mwyaf yn San Steffan.

Dyma ddywedodd F.E Smith, Iarll Penbedw, am fesur 1914; "it is a bill which has shocked the conscience of every Christian community in Europe"

Wrth gwrs efallai bod ymateb G.K Chesterton i'r sylw yna'n agosach at y gwir;

It would greatly, I must own,
Soothe me, Smith!
If you left this theme alone,
Holy Smith!
For your legal cause or civil
You fight well and get your fee;
For your God or dream or devil
You will answer, not to me.
Talk about the pews and steeples
And the cash that goes therewith!
But the souls of Christian peoples...
Chuck it, Smith!

Mae'r gerdd gyfan yn .


Dringo'r Ysgol

Vaughan Roderick | 16:12, Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Mae'n dipyn o farathon yn y Cynulliad heddiw wrth i'r aelodau geisio dal lan a'r busnes oedd i fod i gael ei ystyried ddoe.

Y datganiad ynghylch y Mesur Iaith sy'n hawlio'r sylw ond mae pwnc y gwnes i godi wythnos ddiwethaf hefyd ar yr agenda heddiw sef faint o amser y mae'r llywodraeth yn cymryd i astudio cynlluniau ad-drefnu ysgolion

Fe fydd 'na ddadl ynghylch cau ysgolion yn ddiweddarach y prynhawn yma ac fe gododd y pwnc yn ystod cwestiynau addysg heddiw.

Gyda llaw fe wnaeth rhywun ofyn i mi a fydd Aelodau Cynulliad wnaeth gadw draw o'r Bae ddoe yn colli diwrnod o gyflog. Dydw i ddim yn dal fy anadl. Rwy'n gallu clywed y geiriau "gweithio yn yr etholaeth" yn cael eu mwmian yn barod!

Anroracia

Vaughan Roderick | 14:37, Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

FT.jpgYmddiheuriadau. Rwyf wedi bod i ffwrdd o gyfrifiadur am ychydig ddyddiau. Rhoddodd y ffaith bod y cynulliad wedi ei gau gan streic y gweision sifil gyfle bach olaf i mi dacluso'r ardd cyn i'r storom etholiadol dorri o'n cwmpas!

Yn ôl yn y gwaith mae rhai cannoedd o e-byst yn fy nisgwyl. Diolch byth bod un gan Roger Scully o Adran Wleidyddiaeth Aber yno i godi calon dyn ymhlith yr holl ddatganiadau "newyddion" a stwnsh mewnol y gorfforaeth!

I'r rheiny sy ddim yn ei nabod Roger yw arch anorac yr anoracs, dyn sy'n llyncu ystadegau i frecwast- rhyw fath o x 100!

Tynnu sylw mae Roger at ganlyniadau cyfres o arolygon barn ynghylch bwriadau pleidleisio yng Nghymru sy'n dangos tuedd gyson tuag at Lafur dros y naw mis diwethaf. Yn fras mae'r gefnogaeth i Lafur wedi cynyddu o 28% yng Ngorffennaf 2009 i 37% yn arolwg diweddaraf YouGov/ITV. Mae'r gefnogaeth i'r Ceidwadwyr wedi gostwng o 33% i 29% dros yr un cyfnod.

Er cystal perfformiad y blaid mae'n werth nodi bod Llafur 21% ar y blaen i'r Ceidwadwyr yn etholiad 2005. Dyw bod 8% ar y blaen yn ddim byd sbesial felly.

Mae'n bosib mai hynny wnaeth ddarbwyllo Roger i sgwennu'r erthygl ar wefan Sefydliad Materion Cymru. Ynddi, mae'n dadlau bod cyfnod goruchafiaeth y blaid Lafur yng ngwleidyddiaeth Cymru eisoes wedi dirwyn i ben ac mai patrwm amlbleidiol fydd 'na yng Nghymru o hyn ymlaen.

Heb os mae 'na sylwedd i ddadl Roger ac mewn etholiadau Cynulliad, Cyngor ac Ewrop fe fyddai'n anodd anghytuno a'r ddamcaniaeth. Dydw i ddim yn sicr bod yr un peth yn wir am yr etholiad sydd bron ar ein pennau.

Mae'n weddol amlwg bod Llafur ar lefel Brydeinig yn ceisio efelychu ymgyrch John Major yn etholiad 1992 trwy ganolbwyntio ar ffaeleddau honedig a diffyg profiad yr wrthblaid yn hytrach nac ar ei record ei hun. Mae Llafur Cymru hefyd yn gwneud hynny ond rwy'n amau hefyd ei bod wedi dysgu gwersi o etholiad 1987.

Yn yr etholiad hwnnw fe lwyddodd y blaid i ennill bron pob un o'i seddi targed yng Nghymru tra'n methu ennill llawer o dir yn Lloegr. Roedd 'na sawl rheswm am y llwyddiant yng Nghymru, sgil effeithiau streic y glowyr a chnwd o ymgeiswyr deallus ac atyniadol yn eu plith. Ond y rheswm penna am berfformiad y blaid yng Nghymru oedd ei bod wedi llwyddo i bortreadu'r etholiad fel rhyw fath o wrthryfel Cymreig yn erbyn Thatcheriaeth. Yr un oedd y neges dro ar ôl tro; "It's Wales versus the Tories."

Dyna wrth gwrs yw neges gyson Peter Hain dros yr wythnosau diwethaf ac mewn ambell i etholaeth mae'n ddigon posib y bydd y dacteg yn gweithio. Ar lefel seneddol, o safbwynt nifer y seddi, fe fyddai'n gamgymeriad i feddwl bod yr oruchafiaeth Lafur o reidrwydd ar ben. Mae angen dyn dewr i anghytuno a Roger ond y tro hwn rwyf am wneud!


Paul a'r Pethe

Vaughan Roderick | 10:42, Dydd Sul, 7 Mawrth 2010

Sylwadau (6)

419Z3ezhhlL._SL210_.jpgAm amryfal resymau rwy'n colli cynhadledd y Ceidwadwyr yn Llandudno'r penwythnos yma. Mae hynny'n biti mewn sawl ystyr. Rwy'n colli cyfle i fesur tymheredd y blaid ar gyfnod nerfus iddi. Rwyf hefyd, mwy na thebyg, wedi colli fy nghyfle olaf i frecwasta ym mar llaeth Llanidloes ar y ffordd i fyny! Sic transit NMB!

Rwyf wedi bod yn cysuro fy hun trwy ddarllen hunangofiant Paul Flynn "". Mae Paul, wrth gwrs, yn dipyn o wleidydd "marmite"- rhywun y mae pobol naill ai'n dwli arno neu yn ei gasáu.

Rwy'n cymryd bod nifer o'i dargedi yn perthyn i'r ail ddosbarth. Dyna i chi Kim Howells sy'n esiampl yn ôl Paul o'r "woeful junior ministers on endless odysseys of futility"! Go brin y bydd ffans George Thomas yn falch o glywed e'n cael ei ddisgrifio fel "grovelling royal groupie" oedd yn euog o "emetic sentimentality".

Mae rhai o'r straeon yn "The Unusual Suspect" eisoes wedi ymddangos yng nghyfrol Gymraeg Paul "" ond mae'r gyfrol Saesneg yn werth ei darllen oherwydd safon yr ysgrifennu a'r ddawn eiriol.

Mae darlun Paul o'i blentyndod tlawd yn Grangetown, Caerdydd yn arbennig o lachar ac mae ei ddadansoddiad o natur Cymreictod y Gymru ddinesig yn hynod ddadlennol. Yn ôl Paul doedd plant y Grenj yn y tridegau ddim yn amau am eiliad eu bod yn Gymry yn yr ystyr eu bod wedi geni yng Nghymru ac nad oeddynt yn Saeson. Fe fydd unrhyw un sydd yn nabod Caerdydd neu Gasnewydd yn gyfarwydd iawn â'r diffiniad negyddol yna o Gymreictod!

Roedd mam Paul hefyd yn gwahaniaethu rhwng pobl Caerdydd a'r "real Welsh" sef trigolion y cymoedd a'r "proper Welsh" sef y Cymry Cymraeg. Roedd yr hen ledi wedi canfod model gwleidyddol y tri rhanbarth ddeugain mlynedd cyn i'r seffolegwyr wneud hynny!

Fel mae digwydd mae'r Grenj yn enghraifft berffaith o'r ffaith bod defnyddioldeb y model hwnnw yn tynnu at ei derfyn o ganlyniad i fewnfudo i Gaerdydd o rannau eraill o Gymru a thwf addysg Gymraeg.

Mae'n rhyfeddod i mi nad oes unrhyw un, hyd y gwn i, wedi gwneud gwaith ymchwil ynghylch y cysylltiad posib rhwng dewisiadau rhieni ynghylch iaith addysg eu plant a phatrymau pleidleisio. Mae 'na ddoethuriaeth i rywun yn fanna!

Ta beth yn 2001 roedd oddeutu 14% o boblogaeth y Grenj a rhyw fath o grap ar y Gymraeg. Rwy'n tybio bod y ffigwr yn agosach at ugain y cant neu'n uwch erbyn hyn. Dyma oedd cyfartaledd pleidleisiau'r pleidiau yn y ward yn 2007;

Democratiaid Rhyddfrydol; 1331
Llafur; 1124
Plaid Cymru; 1009
Ceidwadwyr; 520

Dydw i ddim yn gwybod beth i alw'r patrwm pleidleisio yna ond yn sicr dyw 'e dim yn perthyn i "Gymru Brydeinig"!

Fel mae'n digwydd mae 'na sibrydion o gwmpas y lle bod Cyngor Caerdydd a'r Egwlys Gatholig mewn trafodaethau i agor Ysgol Gatholig Gymraeg yn y ddinas oherwydd y galw gan Gatholigion am addysg o'r fath. O ystyried o ble mae'r galw'n debyg o ddod fe fyddai hi'n syndod pe na bai hen ysgol Paul Flynn, "Saint Pats" fel mae pawb yn ei galw hi, ar y restr fer o safleoedd posib.

Nawr, fe fyddai hynny yn dipyn o beth!

Hen linell bell...

Vaughan Roderick | 15:29, Dydd Gwener, 5 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

_40492757_strikeprotest203.jpgOs nad oes 'na ryw ddatblygiad annisgwyl fe fydd nifer o staff y Cynulliad (aelodau'r PCS) yn streicio am ddeuddydd wythnos nesaf. Mae ymateb y pleidiau i hynny yn cadarnhau ambell i sterioteip!

Fe fydd yr aelodau Llafur a rhai Plaid Cymru yn parchu'r llinell biced.

Fe fydd y Torïaid yn croesi'r llinell biced er mwyn gweithio fel arfer.

Dyw'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn siŵr iawn beth i wneud!

"Plus ça change plus c'est la même chose" fel maen nhw'n dweud yn Abergeirw.

Syr Deian Hopkin yw'r gwestai arbennig ar y podlediad. Mwynhewch!

Miaw...

Vaughan Roderick | 09:57, Dydd Gwener, 5 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur. Dim ond nawr yw wyf wedi cael y cyfle i ddarllen araith Leighton Andrews ynghylch y ffordd y mae Addysg Uwch yng Nghymru yn cael ei llywodraethu. Fe'i traddodwyd gerbron llond ystafell o bobol fawr ein colegau ac mae'n cynnwys clasur o slap i bwysigion. Mae'n werth dyfynnu'n llawn yn y Saesneg gwreiddiol.

"I have read the press release issued overnight by the Chairs of CHEW and HEW. I am glad they welcome the review of governance I have announced.

I am disappointed that their press release both misquotes and quotes selectively from our HE Strategy For our Future.

The press release states that page 9 of our strategy recognises the "existing well run, and high performing higher education sector in Wales." It does say that. But the sentence in full, referring to reports from the National Assembly's Enterprise and Learning Committee and the Wales Employment and Skills Board states 'All recognise the existing well run, and high performing higher education sector in Wales, capable of achieving excellence on an international platform, but emphasise the need for significant change, and a different way of working to meet the challenges ahead.'

The HEW and CHEW press release also states that page 19 of For our Future says that "HE Governance in the higher education system is strong". It does not. It says that - and I quote - "institutional governance in Wales' higher education system is strong".

And It then goes on immediately to say "However, it is having to work in an increasingly complex environment in which assessment of the institution's responsiveness to learner, staff and external stakeholder need; scrutiny of the senior executive team; and evaluation of the quality of learning delivery have become increasingly demanding. It is therefore critical to ensure that governors of higher education institutions operate within a system that promotes good practice, have the understanding and competencies to carry out their responsibilities and are able to carry out their responsibilities within a framework of support, guidance and professional development."

If the author of your press release had been one of my postgraduate students in Cardiff University's School of Journalism, Media and Cultural Studies, I would have had questions to ask."

Dyna beth yw tynnu blew o drwyn!

Mesur wrth Fesur

Vaughan Roderick | 16:46, Dydd Iau, 4 Mawrth 2010

Sylwadau (4)

Mae'r erthygl yma hefyd yn ymddangos ar y gwefan newyddion yn . Mae Croeso i chi adael sylwadau.

Ar ôl yr holl ddadlau ynghylch yr LCO iaith gellid maddau i unrhyw un oedd yn credu na fyddai'r mesur cyntaf i'w gyflwyno yn ei sgîl yn bwnc llosg.

Wedi'r cyfan, mae cynnwys y Gorchymyn Cymhwysedd ei hun yn rhwystro'r cynulliad rhag cyflwyno rhai mesurau a allai fod yn ddadleuol, er enghraifft gorfodaeth ar fusnesau bach i ddefnyddio'r iaith.

Ond megis cychwyn mae'r dadlau mewn gwirionedd.

Mae'n debyg y bydd rhai cwmnïau a sefydliadau yn dadlau bod y mesur yn mynd yn rhy bell, yn enwedig darparwyr gwasanaethau fel telathrebu fydd yn cael eu gorfodi i ddarparu gwasanaethau Cymraeg am y tro cyntaf.

Hefyd mae'n debyg y bydd rhai o aelodau Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn cwestiynu aneglurder y llywodraeth ynghylch cost gwireddu'r mesur.

Ond o gyfeiriad arall y mae'r cwynion cyntaf wedi dod - oddi wrth fudiadau iaith sy'n anhapus nad yw'r mesur yn rhoi'r hawliau i unigolion fynnu gwasanaethau yn Gymraeg.

Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Fe addawodd y llywodraeth hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Byddai'r llywodraeth yn torri addewid os na fyddan nhw'n delifro hawliau ... heb hawliau unwaith eto bydd rhaid i bobl Cymru ddibynnu ar agwedd fympwyol gwleidyddion a swyddogion yn lle adeiladu ar ewyllys da pobl gyffredin."

Safonau

Dadl y llywodraeth yw y bydd y mesur yn rhoi hawliau i bobl er nad yw'n dweud hynny'n benodol.

Fe fydd comisiynydd yn cael ei benodi i osod safonau gwasanaeth y bydd rhaid i gwmnïau a chyrff cyhoeddus ufuddhau iddyn nhw.

Os nad ydyn nhw'n cyrraedd y safon fe fydd modd eu dirwyo. Mae gorfodi rhywun i ddarparu gwasanaeth yn gyfystyr â rhoi'r hawl i ddefnyddiwr dderbyn y gwasanaeth hwnnw, medd y llywodraeth.

Onid gwell yw cael comisiynydd i ofalu bod cyrff cyhoeddus a chwmnïau yn darparu gwasanaethau dwyieithog na disgwyl i unigolion fynd i gyfraith i "hawlio" gwasanaeth o'r fath?

Mae ymgyrchwyr iaith wedi tynnu sylw at wendidau amlwg yn nadl y llywodraeth. Fe fydd gan ddarparwyr gwasanaethau'r hawl i apelio i dribiwnlys yn erbyn y safonau y mae'r Comisiynydd yn eu pennu.

Does dim hawl apêl debyg i ddefnyddwyr.

Fe fyddai gan ddefnyddwyr Cymraeg eu hiaith fawr o allu i fynnu gwasanaethau os yw comisiynydd gwan yn cael ei benodi gan lywodraeth sy'n llugoer at yr iaith.

³¢´Ç²úï´Ç

Eu hunig ddewisiadau fyddai lobïo Aelodau Cynulliad neu geisio arolwg barnwrol drud.

Mae'r llywodraeth wedi dweud ei bod yn fodlon rhoi ystyriaeth i'r anghyfartaledd ymddangosiadol rhwng hawliau apêl y defnyddwyr a'r darparwyr.

Hefyd mae'n debyg y bydd 'na alwadau am roi'r hawl i'r cynulliad cyfan benodi'r comisiynydd yn hytrach na'i adael yn nwylo'r Prif Weinidog fel mae'r mesur yn ei wneud.

Nid hwn yw'r unig destun dadlau dros y misoedd nesaf.

Fe fydd y Bwrdd Iaith yn diflannu oherwydd y mesur. Y comisiynydd fydd yn etifeddu'r dyletswyddau statudol ond beth am weddill gwaith y bwrdd, gan gynnwys didoli grantiau, cynnal gwaith ymchwil ac yn y blaen?

Mae'n ymddangos bod 'na fwlch mawr rhwng y rheiny sy'n credu y dylai'r Comisiynydd Iaith fod yn gyfrifol am y meysydd hynny a'r rheiny sy'n credu y dylai'r llywodraeth ei hun ymgymryd â'r gwaith.

Ac mae'n ymddangos nad yw'r gweinidog eto wedi penderfynu.

Llwybr Llaethog

Vaughan Roderick | 14:33, Dydd Iau, 4 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Plain_logo_halfsize.gifMae'n wythnos o golledion yng Nghrymu. Nid yn unig yr ydym wedi colli un o'n mawrion gwleidyddol, daw newydd bod rhyd i'w chau a Phafiliwn Corwen wedi went. Mewn ergyd drom i fynychwyr sefydliad Cymreig unigryw gwelaf fod NMB arall yn cyrraedd pen ei oes. Ni fydd 'na filk shakes yn o'r Pasg ymlaen.

O leiaf yn yr achos yma, yn wahanol i'r gyflafan honno pan wnaeth KFC fachu hanner dwsin o fariau llaeth dros nos mae gwyliwr ar y twr wedi seinio'r larwm. Mae trigolion Llanidloes yn trefnu protest. Pob nerth i'w braich!

Mewn peryg yn fan hyn mae un o ffiniau mwyaf pwysig Cymru. Nid ffin ddaearyddol economaidd nac ieithyddol mohoni ond ffin gymdeithasol o bwys- y llinell anweladwy lle mae "cafe late" yn diflannu o'r fwydlen a "frothy coffee" yn ymddangos yn ei le!

Os ydych chi'n chwilio am feddwl mawr ynghylch y mesur iaith- fe fydd gen i erthygl ar y prif wefan yn ddiweddarach heddiw!

Yn y cyfamser dyma ddyfyniad y dydd;

"Sex is a beautiful thing..." Brynle Williams. Peidiwch gofyn pryd nac i bwy!

Pobol y Palas

Vaughan Roderick | 11:26, Dydd Iau, 4 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

_45598112_parliament_bbc226.jpgMae'n annhebyg bod enw Arglwydd Crowther Hunt yn golygu rhyw lawer i bobol y dyddiau hyn ond roedd e'n ddyn mawr a phwysig ddeugain mlynedd yn ôl. Roedd e'n aelod o Gomisiwn Kilbrandon yn y 1960au, er enghraifft, y comisiwn wnaeth lunio'r lol potes maip o setliad cyfansoddiadol wnaeth gael ei ddwstio lawr gan y Blaid Lafur fel sail i fesur datganoli 1997. I fod yn deg i Norman Crowther Hunt, fe wrthododd e arwyddo'r adroddiad gan ddadlau dros rywbeth llawer cryfach.

Ta beth, yn ôl yn 1973 Crowther Hunt oedd yn gyfrifol am gychwyn darn bach diddorol o ymchwil ynghylch bodlonrwydd yr etholwyr a'r system wleidyddol. Ar y pryd roedd 49% yn anfodlon a'r system a 48% yn fodlon.

Mae'r un cwestiwn wedi cael ei ofyn yn rheolaidd ers hynny gan Gymdeithas Hansard ac mae'n sylfaen i'w . Yn ôl yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos hon mae 69% yn anfodlon a'r gyfundrefn erbyn hyn a dim ond 28% yn fodlon.

Efallai bod y cynnydd yn y lefelau o anfodlonrwydd a'r system fel ac y mae hi yn rhan o'r esboniad am y newid agwedd tuag at ddatganoli rhwng 1979 a 1997 ac ers hynny. Un ffactor arall sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad yw hwn. Dyw pobol Cymru ddim yn meddwl rhyw lawer o San Steffan.

Trwy Brydain roedd 34% yn fodlon a Senedd y DU. Dim ond 21% o bobol Cymru oedd yn fodlon ac roeddem yr un mor llugoer ynglŷn ag aelodau seneddol fel grŵp a'n haelodau unigol.

Mae'r sampl yn fach, cofiwch, ond fe fydd y canlyniadau yn brifo deiliaid Cymreig y palas!

Iaith Pawb

Vaughan Roderick | 09:53, Dydd Iau, 4 Mawrth 2010

Sylwadau (7)

Siarad-Cymraeg.gif Ar ôl cyfnod beichiogi fyddai'n profi amynedd eliffant mae'r Mesur Iaith hir ddisgwyliedig yn cael ei groesawi i'r byd heddiw. Does 'na ddim llawer o gyfrinachau yn ei gylch mewn gwirionedd a dim llawer o barti i ddathlu'r cyhoeddiad chwaith.

Gan ddilyn cyngor Carwyn James mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael ei dial mewn o flaen llaw gan ryddhau'r datganiad yma o eiddo Menna Machreth.

"Fe addawodd y llywodraeth hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg. Byddai'r llywodraeth yn torri addewid pe na fyddant yn delifro hawliau megis yr hawl i addysg cyfrwng Cymraeg a'r hawl i siarad yr iaith yn y gweithle.

"Heb hawliau, unwaith eto bydd rhaid i bobl Cymru ddibynnu ar agwedd mympwyol gwleidyddion a swyddogion yn lle adeiladu ar ewyllys da pobl gyffredin. Mae hawl yn golygu bod modd i unigolyn sy'n siarad Cymraeg fynnu gwasanaeth a sicrhau newid os nad yw'n cael ei ddarparu: ni fydd safonau, ar y llaw, arall yn rhoi grym yn nwylo pobl."

Mae'r mesur yn gant trideg o dudalennau o hyd. Dydw i ddim wedi cael cyfle i'w ddarllen eto ond ar y cyfan mae gen i ragfarn yn erbyn deddfwriaeth hirfaith. Mae "gorau po symled" yn arwyddair da a beth bynnag yw'r Mesur iaith dyw e ddim yn syml!

Mewn glan briodas

Vaughan Roderick | 11:10, Dydd Mercher, 3 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

_45068532_121d26a3-cd66-42a0-8cd3-e2c97754be80.jpgBeth bynnag arall sy 'na i ddweud am y tair blynedd ar ddeg o lywodraeth Lafur mae'n gyfnod sydd wedi bod yn fuddugoliaeth i foesoldeb rhyddfrydol. O safbwynt pobol hoyw yn unig, cafwyd cyfartaledd yn yr oed cydsyniad, cyflwyno partneriaethau sifil a gwneud anffafriaeth ar sail rhywioldeb yn anghyfreithlon.

Hyd y gwelaf i does neb ym myd gwleidyddiaeth yn dymuno troi'r cloc yn ôl. Yn wir mae David Cameron wedi defnyddio'r maes hwn fel rhyw fath o faen prawf ar gyfer rhyddfrydiaeth gymdeithasol ei blaid ei hun.

Ddoe cafwyd un mesur bach olaf cyn yr etholiad wrth i Dŷ'r Arglwyddi gyfreithloni cynnal seremonïau partneriaeth mewn adeiladau crefyddol a defnyddio iaith grefyddol yn seremonïau- eu troi nhw'n wasanaethau mewn geiriau eraill.

Y gwaharddiad crefyddol mewn gwirionedd oedd yr unig wahaniaeth rhwng partneriaethau sifil a phriodas ond mae'n anodd iawn dadlau yn erbyn rhesymeg yr Arglwyddi. Roedd y gyfraith fel oedd hi yn gwahardd crefyddau ac enwadau fel y Crynwyr a'r Undodiaid oedd yn dymuno cynnal seremonïau rhag gwneud hynny. Mewn geiriau eraill roedd y gyfraith yn ymyrryd yn eu ffydd, eu credoau a'u haddoliad. Fe fyddai gan Oliver Cromwell rywbeth i ddweud am hynny!

Yn y tymor byr wrth gwrs ychydig iawn o addoldai fydd yn cynnal gwasanaethau priodas hoyw. Mae'r Eglwys Gatholig yn gadarn yn erbyn y syniad tra bod yr Anglicaniaid wedi eu caethiwo mewn rhyw burdan o'u gwneuthuriad eu hun. Fe fydd yn Annibynwyr (wrth gwrs) yn gadael y peth i Eglwysi unigol.

Yr enwad mwyaf diddorol efallai yw'r Eglwys Bresbyteraidd. Mae polisi'r Eglwys ar bwnc tebyg , sef gwasanaethau i fendithio partneriaethau sifil ar gael yn . Mae'n ddogfen feddylgar a chytbwys gan roi ystyriaeth ddofn i ddiwinyddiaeth ac ystyriaethau bugeiliol. Hwn, dybiwn i, yw'r paragraff allweddol;

"Bernir bellach bod tueddiadau hoyw yn cael eu hamlygu mewn oddeutu 10% o'r boblogaeth, ac y mae'n amlwg erbyn hyn mai rhywbeth cynhenid i'r unigolyn yw tueddiadau o'r fath; nid rhywbeth y gall ei newid ydyw ... mwy nag y gall newid lliw ei
groen. Gan hynny, onid ffurf ar anffafriaeth yw i'r eglwys ymdrin â hoywon mewn ffordd wahanol i eraill? Onid yw penodau megis Actau 10-11 yn gosod esiampl o'r modd y dylai'r eglwys gyfoes ymestyn ei ffiniau ac ehangu ei gorwelion, gan dderbyn i'w chanol a bendithio pawb a dderbyniodd Grist i'w bywydau, beth bynnag fo eu tueddiadau rhywiol?"

Ar sail hynny rwy'n cymryd y bydd yr Hen Gorff yn hwyr neu'n hwyrach yn ymuno a'r Crynwyr a'r Undodiaid trwy agor drysau'r Capeli i seremoniau hoyw.

A fydd cyplau hoyw yn dylifo trwy'r drysau hynny? Go brin. Rhyw dri chant o bartneriaethau sifil sy'n cael eu cofrestru yng Nghymru bob blwyddyn gan awgrymu mai hawl symbolaidd yw hon yn hytrach nac un sydd o bwys ym mwydau dydd i ddydd y rhan fwyaf o bobol hoyw.

Safon Tri

Vaughan Roderick | 16:12, Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Mae'n ymddangos fy mod wedi corddi'r dyfroedd go iawn gyda'r post "Safon Dau" yn gynharach heddiw.

Rwy'n cael ar ddeall bod y mudiad "Rhieni dros Addysg Gymraeg" yn credu bod sail cynnal arolwg barnwrol o fethiant Leighton Andrews i gyrraedd penderfynniad ynghylch ad-drefnu ysgolion Caerdydd. Dyma mae RhAG yn dweud;

"Nid yw RhAG yn credu nad yw'r papurau yn barod i sylw'r gweinidog na chwaith bod y gweinidog wedi esgeuluso ei ddyletswydd yn llwyr. Mae RhAG wedi derbyn gwybodaeth o ffynnonellau dibynadwy bod y Gweinidog yn gohirio ei benderfyniad am resymau gwleidyddol rhag ofn y bydd yn cythruddo rhieni cyfrwng Seisnig neu rhieni cyfrwng Cymraeg yn etholaeth Gorllewin Caerdydd... neu yn cythruddo un o'r ddwy garfan yn ardal Llanrhymni lle nad yw addysg Gymraeg yn rhan o'r cweryl.

Yn y cyfamser mae rhieni a phlant Treganna, Pwll Coch a Than-yr-eos yn dal i ddioddef. Unwaith eto mae dros 120 plentyn wedi ceisio 'r 120 lle sydd ar gael rhwng y 3 safle a'r sir yn methu symud ymlaen i agor y 5ed ffrwd mae swyddogion yn cydnabod sy ei eisiau. Collwyd o leiaf 15 plentyn i addysg Gymraeg y llynedd yn sgil yr ansicrwydd parhaol yn yr ardal hon. Faint aiff ar goll eleni diolch i oedi Leighton Andrews?"

Y Mab Afradlon

Vaughan Roderick | 14:35, Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

_44749025_cairns226bbc.jpgUn o'r newidiadau sydd ar ei ffordd yn sgil helynt dreuliau TÅ·'r Cyffredin yw gwaharddiad ar yr hyn sy'n cael ei alw'n fandad deuol. Hynny yw, fe fydd unigolion yn cael eu gwahardd rhag bod yn aelodau o'r TÅ· ac o ddeddfwrfa ddatganoledig ar yr un pryd.

Deillio o argymhellion adroddiad Kelly mae'r newid ac mae wedi anelu yn bennaf at y naw aelod o'r DUP a'r pum aelod Sinn Fein sydd â mandad deuol ar hyn o bryd.

Mae Torïaid San Steffan yn frwd o blaid newid y drefn. Cymaint felly nes i'r blaid gyflwyno gwelliannau i Fesur Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn gwahardd Aelodau Seneddol rhag derbyn cyflog, lwfansau neu gyfraniadau pensiwn gan Gynulliad y dalaith.

O gofio hynny fe fyddai rhywun yn cymryd yn ganiataol y byddai Alun Cairns yn ymddeol yn syth pe bai'n cael ei ethol yn Aelod Seneddol ym Mro Morgannwg yn yr Etholiad Cyffredinol. Wedi'r cyfan yn wahanol i David Davies mae Alun yn aelod rhanbarth. Ni fyddai ei ymddiswyddiad felly yn achosi isetholiad.

Yn ychwanegol at hynny dyw Bro Morgannwg ddim yn rhan o ranbarth Gorllewin De Cymru. Go brin y byddai Alun yn ceisio bod yn unig gynrychiolydd Ceidwadol ei ranbarth yn y Cynulliad a chynrychioli ardal wahanol yn y Senedd ar yr un pryd.

Efallai eich bod yn cofio bod 'na faen tramgwydd mawr i ymddiswyddiad Alun. Amharodrwydd arweinwyr y Ceidwadwyr i weld yr ail ymgeisydd ar restr ranbarthol 2007 yn cymryd ei le yn y cynulliad yw'r rhwystr hwnnw. Chris Smart, cymeriad hynod o ddadleuol ac asgell dde yw'r dyn dan sylw. Rwy'n deall nad yw Chris bellach ar restr y blaid ganolog o ymgeiswyr derbyniol ond dyw hynny ddim yn newid y ffaith mai ef fyddai etifedd Alun pe bai hwnnw'n gadael y Bae. Dyw Chris ddim y math o foi i wrthod yr etifeddiaeth chwaith!

Beth mae'r Ceidwadwyr yn debyg o wneud felly? Fe ofynnwyd y cwestiwn i Nick Bourne hanner dwsin o weithiau yn ei gynhadledd newyddion heddiw ac mae'n rhaid dweud bod e'n haws cael caws o fol y ci nac oedd e i gael ateb eglur gan yr arweinydd Ceidwadol!

Mae'n amlwg bod y blaid wedi bwriadu gadael y broblem tan ar ôl yr etholiad ond gyda'r arolygon yn awgrymu bod pethau closio ydy Alun yn gallu fforddio gadael arf wleidyddol yn nwylo ei wrthwynebwyr?

Ar y llaw arall fe dderbyniodd Ceidwadwyr y fro hwb ychydig yn annisgwyl dros y penwythnos. Roedd Alun yn bresennol yn nadorchuddiad cerflun o Gwynfor Evans yn Llyfrgell y Barri a deallaf ei fod wrth ei fodd a geiriau gwresog Dafydd Elis Thomas y ei gylch. Mae'n debyg bod pobol Plaid Cymru yn y gynulleidfa yn llai hapus ynghylch sylwadau'r Llywydd!

Safon Dau

Vaughan Roderick | 12:39, Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

leightonandrews.jpg"Mae'r broses o ad-drefnu ysgolion yn rhy hirfaith ac yn pery ansicrwydd i gynghorau ac ysgolion."

Pwy sy'n dweud? Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews. Ychwanegodd y Gweinidog fod uchel swyddogion yr adran wedi bod yn trafod ffyrdd o gyflymu'r broses er lles pawb.

Digon teg. Go brin y gallai unrhyw un anghytuno a hynny. Ond beth am "trac record" y Gweinidog ei hun?

O dan y gyfundrefn bresennol mae'r Gweinidog i fod i gymryd penderfyniad o fewn chwe mis i gyhoeddiad swyddogol ynghylch cynllun i gau ysgol. Cyhoeddwyd cynllun i gau Ysgol Landsdowne yng Nghaerdydd er mwyn cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg ar Fai'r 20fed, 2009. Fe ddylai'r Gweinidog fod wedi cymryd ei benderfyniad erbyn Tachwedd 20fed felly. Does dim penderfyniad wedi bod a does dim arwydd o gwbwl bod un ar fin ymddangos. Y nifer uchel wnaeth wrthwynebu a chymhlethdod y cynlluniau yw'r rheswm yn ôl yr adran addysg.

Mae'r Llywodraeth hefyd yn cyfaddef ei bod yn debyg o fethu cyrraedd penderfyniad ynghylch ad-drefnu ysgolion uwchradd dwyrain Caerdydd erbyn y dyddiad targed sef Mawrth 24ain. Fe ddaw'r penderfyniad "rhywbryd yn ystod tymor yr haf" medd llefarydd. .

Heb os mae'r oedi yma yn achosi'r union ansicrwydd y cyfeiriodd y Gweinidog ato. Mae'n bosib y bydd yn rhaid oedi am flwyddyn ychwanegol cyn cyflwyno'r cynlluniau ac yn ôl undebwyr a gwleidyddion lleol gallai hynny arwain at ddiswyddiadau gorfodol a dirywiad yn safon yr addysg yn yr ysgolion presennol.

Mae Leighton Andrews o hyd yn gymharol newydd yn y swydd, wrth gwrs ac mae'n mynnu nad yw'r cynlluniau eto wedi cyrraedd ei ddesg. Eto , mae'n anodd credu na fyddai'n gallu mynnu bod hynny'n digwydd o fewn byr o dro pe bai'n dymuno gwneud hynny.

Heddiw dywedodd y Ceidwadwyr eu bod yn amau bod y Gweinidog yn oedi'n fwriadol er mwyn osgoi gwneud penderfyniadau amhoblogaidd a allai effeithio'r canlyniadau etholiad yng Ngorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn amau bod rhywbeth tebyg yn digwydd yn Abertawe lle mae disgwyl penderfyniad ynghylch cynllun i adrefnu'r ysgolion yn etholaeth Gwyr.
Y tu ôl i'r llenni mae gwleidyddion Plaid Cymru'r un mor gandryll ynghylch y sefyllfa.

Wedi'r cyfan mae'n adlewyrchu'n wael ar bawb yn y Llywodraeth os ydy'r Cabinet yn pwyso ar gynghorau i leihau'r nifer o lefydd gweigion mewn ysgolion ac yna'n llusgo traed pan mae cynghorau'n ceisio gwneud hynny.

* Ar ôl i fi ysgrifennu'r post yma fe gododd AC Plaid Cymru, Chris Franks, yr union bwynt yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'n anodd credu ei fod wedi gwenud hynny'n ddiarwybod i weinidogion Plaid Cymru.

Hollti Blew

Vaughan Roderick | 10:00, Dydd Llun, 1 Mawrth 2010

Sylwadau (2)

gemaugeiriau.jpgPan oeddwn i'n grwt roedd yn gas gen i fynd i siop y barbwr. Mae hynny'n wir am y rhan fwyaf o fechgyn ifanc greda i ond roedd gen i reswm arbennig i ddrwg licio'r profiad. Y rheswm hwnnw oedd y barbwr ei hun Sarjant Major Winstone.

Dyn blin oedd y Sarjant Major ac roedd ei agweddau mor wladgarol Brydeinig a'i enw. Yr eiliad y byddai Mam yn gadael fy mrawd a finnau yn ei gwmni i fynd i siopa yn Thomas & Evans fe fyddai'r bregeth yn cychwyn.

Pam oedd fy mrawd a fi yn mynd i'r ysgol od yna lle'r oedd y gwersi yn Gymraeg? Hen iaith ddibwrpas oedd hi ac fe ddylwn ni fynnu cael addysg "go-iawn" os oeddem am wneud unrhyw beth o'n bywydau.

"Yes, Sergeant Major, please don't cut it too short!" oedd ein hymateb gan amlaf.

Anwybyddu'r cais a pharhau i daranu am "that awful gobbledegook" fyddai ei ymateb yntau.

Fedra i ond dychmygu beth fyddai ymateb y barbwr i'r Mesur Iaith arfaethedig!

Roedd hwnnw i fod ei gyhoeddi heddiw ond o dan delerau'r LCO mae'n rhaid cael cydsyniad adrannau Whitehall cyn bwrw ymlaen. Methodd y cydsyniad hwnnw gyrraedd mewn pryd. Mae wedi gwneud erbyn hyn. Gan fod ambell un yn y Llywodraeth yn meddwl bod y syniad o gyhoeddi'r mesur ar Fawrth y cyntaf yn "gawslyd" (eu gair nhw am "cheesy") dyw nhw ddim yn poeni gormod am yr oedi.

Ta beth, ers rhai wythnosau bellach mae pobol y Llywodraeth wedi bod yn mynd allan o'i ffordd i'n hatgoffa mai'r "mesur cyntaf yn unig yw hwn" a bod 'na "fesurau iaith eraill i ddod yn y dyfodol". Mae hynny'n awgrymu i mi fod y Llywodraeth yn gwybod y bydd y mesur yn pechu rhai o selogion y mudiadau iaith.

Cwestiwn mwy pwysig efallai yw i ba raddau y bydd y mesur yn pechu pobol fel y Sarjant Major a hynny oherwydd cydamseriad posib trafod y mesur a'r refferendwm i gynyddu pwerau'r cynulliad,

Tipyn o fyth yw'r honiad nad yw'r iaith yn bwnc sy'n gwahanu pobol Cymru bellach. Does ond angen edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Nhreganna a'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd i wybod bod gan ddadleuon ieithyddol y potensial i fod mor wenwynig heddiw ag oedden nhw yn chwedegau a saithdegau'r ganrif ddiwethaf.

Y gwahaniaeth nawr yw bod y pleidiau i gyd, yn genedlaethol o leiaf, yn ymwrthod rhag defnyddio'r gwahaniaethau hynny er mwyn sicrhau mantais wleidyddol. Mae popeth sy'n cael ei ddweud am yr iaith wedi ei eirio'n ofalus a chymedrol.

Ar lefel Brydeinig mae 'na gytundeb digon tebyg ynghylch mewnfudo. Dyna yw'r rheswm y gwnaeth llid y blaid ganolog ddisgyn fel ar Geidwadwyr lleol yn Romford wythnos ddiwethaf.

Dyw cadoediad rhwng y pleidiau ddim yn golygu na fyddai ymgyrch "Na" yn y refferendwm yn ceisio corddi'r dyfroedd ieithyddol. Mae'n ddigon hawdd dychmygu'r sibrydion fyddai'n cael ei ledaeni ar gornel stryd ac yn siop y barbwr pe bai'r ymgyrch yn dymuno gwneud hynny. Heb os fe fyddai'r honiad y byddai pwerau deddfu yn andwyol i'r siop tsips ddiarhebol yna yng Nghas-gwent yn eu plith.

Yn sicr fyddai'r hen Sarjant Major byth bythoedd am roi'r pŵer i rywun ddweud wrtho ei fod yn gorfod cynnig "cefn ac ochrau byrion" yn ogystal â "short back and sides"!

Oedd y llywodraeth yn ofni misoedd o "drychwch beth maen nhw'n gwneud yn barod" wrth lunio'r mesur iaith? Efallai.

Ta beth mae'n debyg bod y mesur yn gythreulig o hir oherwydd yr angen i greu mecanwaith ar gyfer apeliadau. Fe fydd yn rhaid mynd a chrib man drwyddo i ganfod y goblygiadau i gyd. Un cymal allai fod yn ddadleuol yw un sy'n gorchymyn i weinidogion rhoi'r "sylw dyledus" i adroddiadau'r Comisiynydd Iaith.

Dyw hynny ddim yn swnio'n llawer o beth ond mae'n fwy o hawl na sydd gan y Comisiynwyr i blant a hen bobol. Gall eu hadroddiadau nhw fynd yn syth i'r bin. Nid bod hynny erioed wedi digwydd. Hyd y gwn i.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.