Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Twla fe, Alun

Vaughan Roderick | 16:45, Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010

ty_ddewi340.jpgUn o'r gwleidyddion sy'n gyson wrth amddiffyn y setliad cyfansoddiadol presennol, yn arbennig y gyfundrefn LCO, yw Alun Michael. Serch hynny mae darn bach arall o ddeddfwriaeth ynghylch y berthynas rhwng Cymru a Lloegr yn ei boeni'n arw. Deddf yr Eglwys yng Nghymru (1914) yw'r mesur hwnnw.

Efallai eich bod chi, fel fi, yn credu bod y mesur wnaeth ddatgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yn golygu bod ei haelodau'n feistri ar eu tomen eu hun. Dyw hynny ddim yn gyfan gwbwl wir. Mewn ambell maes San Steffan sydd a'r gair olaf.

Y rheolau ynghylch priodi sy'n poeni Alun- nid rheolau dadleuol ynghylch priodasau hoyw nac unrhyw beth felly, ond y rheolau yna sy'n mynnu eich bod yn byw yn y plwyf os am briodi yn y Llan.

Oherwydd bod Eglwys Loegr yn eglwys sefydledig mae ganddi'r hawl i amrywio'r rheolau (sy'n rhan o gyfraith gwlad) trwy'r hyn a elwir yn fesurau. Does dim angen LCO chwaith! Yn ddiweddar fe newidiodd Eglwys Loegr y rheolau er mwyn caniatáu i bobol briodi yn eglwysi lleol eu rhieni neu mewn eglwys lle maen nhw'n addolwyr cyson.

Mae'r Eglwys yng Nghymru ar y llaw arall yn gorfod glynu at y rheolau oedd yn bodoli yn 1914. Dim ond San Steffan sydd a'r hawl i newid y rheolau hynny ac fe fydd Alun yn cyflwyno mesur preifat i geisio gwneud hynny Ddydd Gwener.

Fe fyddai rhai, wrth gwrs, yn dadlau mai gwell fyddai cyflwyno mesur i atal hawl aelodau seneddol i hwpo'u trwynau ym musnes yr Eglwys unwaith ac am byth.

Mae'r bobol hynny yn anghofio bod yr Eglwys Gymreig wastad wedi bod yn fater o'r pwys mwyaf yn San Steffan.

Dyma ddywedodd F.E Smith, Iarll Penbedw, am fesur 1914; "it is a bill which has shocked the conscience of every Christian community in Europe"

Wrth gwrs efallai bod ymateb G.K Chesterton i'r sylw yna'n agosach at y gwir;

It would greatly, I must own,
Soothe me, Smith!
If you left this theme alone,
Holy Smith!
For your legal cause or civil
You fight well and get your fee;
For your God or dream or devil
You will answer, not to me.
Talk about the pews and steeples
And the cash that goes therewith!
But the souls of Christian peoples...
Chuck it, Smith!

Mae'r gerdd gyfan yn .


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:48 ar 10 Mawrth 2010, ysgrifennodd Paul O'Leary:

    Stori ddiddorol, Vaughan, a cherdd wych. Ond mae Alun Michael wedi cymysgu ei ddeddfwriaeth, mae arna i ofn. Cafodd deddf 1914 ei roi o'r neilltu 'dros dro' oherwydd dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf (pawb yn meddwl byddai pethau drosodd erbyn y Dolig, wrth gwrs. Parodd y rhyfel gymaint fel bu'n rhaid cyflwyno deddfwriaeth newydd ym 1919; y ddeddf honno ddatgysylltodd Eglwys Loegr yng Nghymru, nid un 1914. Digwyddodd yr un peth gyda deddf yn creu senedd ddatganoledig i Iwerddon, gyda chanlyniadau lot mwy difrifol.

  • 2. Am 10:39 ar 11 Mawrth 2010, ysgrifennodd Rhys:

    Mae'n debyg fod dal rhai anghysondebau rhwng sefyllfa'r Eglwys Anglicanaidd ac eglwysi anghydffurfiol a sefydliadau crefyddol eraill yng Nghymru. Mae gan offeiriaid yr Eglwys (Anglicanaidd) yng Nghymru yr hawl i gofrestri priodasau (fel yn Lloegr), ond mae angen cofrestrydd i wneud hynny mewn seremonïau sefydliadau eraill. Er mae'r Eglwys (Anglicanaidd) yng Nghymru yn chwarae rôl werthfawr yn y gymdeithas sifil sydd ohoni, mae ei sefyllfa ychydig mwy na 'primae inter pares'. Efallai bod modd i Mr Michael gynnwys cymal sy'n delio â'r fath 'non sequiters' tebyg yn ei fesur?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.