Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Twll bach y clo

Vaughan Roderick | 12:52, Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2010

_1305224_lock-bbc300.jpgCafwyd tipyn o siarad yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol am y posibilrwydd o senedd grog. A phwy all feio'r blaid am egseitio'n lan am y posibilrwydd o gael dylanwad go iawn ar lywodraeth y Deyrnas Unedig? Ar y llaw arall dyw profiadau 2007 yng Nghymru ddim yn llenwi dyn a hyder y gall y blaid gymryd llawn mantais ar y sefyllfa!

Galwodd Nick Clegg ar y blaid i roi tipyn o ryddid dwylo iddo fe os nad oes llywodraeth fwyafrifol yn San Steffan. Mewn geiriau eraill dyw e ddim am i'r blaid seneddol gael ei chlymu'n ormodol gan y dieflig yna wnaeth achosi cymaint o drafferth i Mike German.

Yn y bôn mae'r clo hwnnw yn golygu bod angen cydsyniad pwyllgor gwaith y blaid ac mewn rhai amgylchiadau cynhadledd arbennig er mwyn cymryd unrhyw gam sy'n effeithio ar annibyniaeth y blaid, ffurfio clymblaid er enghraifft. Methiant Mike German i sicrhau cefnogaeth mwyafrif o'r pwyllgor gwaith Cymreig oedd y rhwystr yn llwybr yr "enfys" wnaeth agor y drws i Lywodraeth "Cymru'n Un".

Ond yn y sefyllfa economaidd bresennol lle gallai ansicrwydd gwleidyddol yn San Steffan gael effaith andwyol ar y marchnadoedd arian mae'n ymddangos bod ei harweinwyr Prydeinig wedi penderfynu y dylai buddiannau'r deyrnas fod yn drech na strwythurau'r blaid.

Ychydig dros flwyddyn sy 'na tan etholiad nesaf y Cynulliad, etholiad sydd hyd yn oed yn llai tebygol na'r etholiad cyffredinol o gynhyrchu llywodraeth fwyafrifol. Ydy Kirsty Williams yn rhannu pryderon Nick Clegg ynglŷn â'r clo triphlyg, tybed?

A barnu o'i sylwadau am hynny heddiw mae'n amlwg ei bod hi. Dyma ei hunion eiriau "I have no intention of the Welsh Liberal Democrats being in the same position as were were last time".

Awgrymodd Kirsty yn gryf y byddai'n gofyn i gynhadledd hydref y blaid ail-edrych ar y rheolau. Roedd hi'n bwysig meddai bod aelodau'r blaid yn ymddiried yn eu harweinwyr i wneud y penderfyniadau cywir.

Gellid maddau i Mike German pe bai'n siglo ei ben mewn anghrediniaeth wrth glywed hynny. Pwy, wedi cyfan oedd yn gwrthod ymddiried yn ei benderfyniadau ef gan ddefnyddio'r clos triphlyg i ddryllio ei gynlluniau? Rhywun o'r enw Kirsty Williams os ydw i'n cofio'n iawn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.