Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cofio

Vaughan Roderick | 11:14, Dydd Llun, 24 Awst 2009

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r criw bach ohonoch chi sy'n cadw storfa awgrymiadau "Rilatwch" yn gysurus o lawn.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf collwyd dau Gymro a dau Gardi o fri sef Geraint Jenkins a Dic Jones. Mae pobol oedd yn eu nabod yn well ac sy'n meddu ar fwy o ddawn geiriau na fi wedi talu teyrngedau haeddiannol i'r ddau.

Eto i gyd roeddwn i'n teimlo braidd yn anghysurus nad oeddwn wedi dod o hyd i ffordd yn fan hyn i nodi'r clatsied difrifol i'n cenedl fach o golli dau o'n cewri.

Rwy'n ddiolchgar i Dewi felly am dynnu fy sylw at y ffilm yma o Dic ar ei orau yn beirniadu yn .

Ni welir eu tebyg eto.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:08 ar 24 Awst 2009, ysgrifennodd Harri:

    Diolch, diolch, canmil diolch - epig o ffilm!

  • 2. Am 01:21 ar 27 Awst 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Ie Harri - "Ceremonia del Bardo" - bendigedig - mae'n werth chwilio Youtube am stwff o'r Wladfa - wrth fy modd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.