Alun ac Alex
Ychydig ddyddiau ar ôl etholiadau 2007 fe wnes i gymryd rhan mewn rhaglen ar "Radio Scotland" i drafod y problemau y gallai'r SNP wynebu wrth geisio cynnal llywodraeth leiafrifol yng Nghaeredin.
Alex Salmond ei hun oedd y gwestai arall ar y rhaglen ac roedd y profiad yn un hynod annifyr.
Penderfynodd y Prif Weinidog newydd fy nirmygu am fod mor hy ac awgrymu y byddai'r gwrthbleidiau yn hwyr neu'n hwyrach yn defnyddio eu mwyafrif yn ei erbyn. Mynnodd nad oedd 'na unrhyw gymhariaeth rhwng ei sefyllfa fe a'r problemau yr oedd Alun Michael a Rhodri Morgan wedi wynebu yng Nghymru. Sgwennais bwt am y peth ar y pryd gan ddweud hyn;
"Ddydd Mercher nesaf disgwylir i Alex gael ei enwebu fel Prif Weinidog Senedd yr Alban a dywed ei fod yn gobeithio gallu llywodraethu trwy gonsensws. Dyna oedd gobaith Alun Michael hefyd. Y gwahaniaeth yn ôl Mr Salmond oedd bod Alun wedi dioddef o ddiffyg awdurdod oherwydd y ffordd y cafodd ei ddewis fel arweinydd Llafur Cymru."
A dweud y gwir roeddwn yn meddwl bod pwynt arweinydd yr SNP yn un weddol ddilys ac y byddai'r pleidiau eraill yn parchu ei fandad am gyfnod o leiaf. Serch hynny roeddwn i'n gwbl sicr y byddai'r pleidiau eraill yn hwyr neu'n hwyrach yn canfod rheswm neu esgus i hogi eu cyllyll. Y peth call i wneud a'r hyn yr oeddwn yn disgwyl i Alex wneud oedd defnyddio mis mel ei fandad i geisio ffurfio llywodraeth fwyafrifol. Fe ddylai fe ddilyn esiampl Rhodri yn sgil cwymp Alun mewn geiriau eraill. Fe ddywedais hynny ar y pryd hefyd.
"Roedd gan Alex eiriau caredig iawn hefyd am y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban. Mae'n ymddangos ei fod o hyd yn gobeithio gallu denu'r blaid honno i mewn i glymblaid rhywbryd yn y dyfodol."
Yng nghyd-destun gwleidyddiaeth yr Alban does dim modd yn y byd i'r SNP ffurfio clymblaid gyda Llafur na'r Ceidwadwyr. Mae'n ddigon posib hefyd bod Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban yr un mor benstiff ac amhosib i ddelio a nhw a'u chwaer blaid yng Nghymru. Dydw i ddim yn gwybod p'un ai y ceisiodd Alex Salmond ffurfio llywodraeth fwyafrifol dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf ai peidio. Rwyf o hyd o'r farn y dylai fe wedi gwneud.
Wrth i mi ddarllen penawdau fel " felly, mae'n anodd peidio teimlo rhywfaint o "schadenfreude"!