Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 16:12, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

flatholm01.jpgRwyf wedi bod yn ceisio ffeindio ffordd o gyhoeddi pytiau, manion ac ambell i ddarn o 'drifia' nad ydynt yn haeddu post llawn ers tro byd. Mae'r ateb yn ein llenyddiaeth. Pob yn dri!

Dyma gyfres achlysurol newydd felly "Trioedd Ynys Echni". Dewisais yr ynys honno, gyda llaw, gan ein bod yn ei gweld o ffenest ein swyddfa yn y Bae a chan fod ei hymwelwyr yn cychwyn eu taith o'r cei o flaen y Senedd.

Ar ddiwrnod cyntaf Ramadan dyma dair ffaith ddiddorol ynghylch Islam a Chymru.

1. 1839

Mae'r flwyddyn 1839 yn un bwysig o safbwynt hanes dwy wlad wahanol iawn i'w gilydd. Yma yng Nghymru agorodd Ardalydd Bute ei ddoc cyntaf yng Nghaerdydd ac yn Arabia meddiannwyd porthladd Aden gan Brydain.

Yn ddiweddarach roedd y ddau borthladd yma'n allweddol i'r system ymerodrol gyda llongau'n ail-lwytho glo Cymreig yn Aden cyn hwylio ymlaen i'r India neu'n bellach. Y cysylltiad hwn, mae'n debyg, wnaeth arwain at agor yr addoldy Mwslimaidd cyntaf ym Mhrydain yn Stryd Glynrhondda, Caerdydd yn 1860.

2. Dirgelwch Dirham Offa
offa.jpg

Mae'r darn arian yma yn yr Amgueddfa Brydeinig. Arno mae enw'r Brenin Offa, y dyn wnaeth godi'r clawdd, ac o'i gwmpas mae'r gyffes ffydd Fwslimaidd. Cafodd ei fathu yn 782, canrif a hanner yn unig ar ôl marwolaeth y Proffwyd.

Canfuwyd y darn yn Rhufain. Yr mwyaf tebygol yw ei fod yn gopi o dirham Mwslimaidd ac yn rhan o anrheg yr oedd Offa wedi ei addo i'r pab. Beth bynnag yw'r gwir mae'r darn hwn yn ein hatgoffa nad rhywbeth newydd yw'r cysylltiad rhwng yr ynysoedd hyn a'r byd Islamaidd.

3. Ffeithiau

Yn ôl roedd 'na 21,739 o Fwslimiaid yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn honno. Mae hynny'n cymharu â 2,087,242 o Gristnogion a 537,935 oedd yn ddigrefydd. Mae'r boblogaeth Fwslimaidd yn rhyw 1% o'r boblogaeth Gristnogol felly.Cofiwch hynny y tro nesaf y mae'r rhywun yn codi bwganod.

Mae'r ffigyrau hefyd yn awgrymu bod 'na elfen o or-ddweud gan y rheiny sy'n honni "nad yw Cymru bellach yn wlad Gristnogol" neu fod ein cymdeithas yn un "ôl-grefyddol".

Suleiman.jpg Gyda llaw, does gen i ddim clem pam mae'r rhif tri mor bwysig yn y byd Celtaidd ond mae'n amlwg ei fod e. Yn y byd Islamaidd deg yw'r rhif hudolus ac arwyddocaol.

O holl deitlau yr Ymerawdwr Swleman II ( ac roedd ganddo ddwsinau) fy ffefryn yw "Perffeithydd y Rhif Perffaith". Mae'n atgoffa dyn o un o seremonïau'r orsedd. Dychmygwch "yn wyneb yr haul, yn llygaid goleuni, ym mherffeithrwydd y rhif perffaith..."

Dyn a ŵyr beth mae teitl Swleman i fod i olygu ond, iesgob, mae'n swnio'n dda! Bron mor crand a'i dwrban, mewn gwirionedd!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:17 ar 22 Awst 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Mae'r flwyddyn 1839 yn un bwysig o safbwynt hanes dwy wlad wahanol"
    Dyma fi'n disgwyl adroddiad o ymdrechion arwrol Siartwyr Gwent ond Na - rhyw doc yng Nghaerdydd yn amlwg yn bwysicach !!!

  • 2. Am 16:22 ar 22 Awst 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pe bawn i'n gallu meddwl am ffordd i gynnwys Siartwyr Gwent mewn post ynghylch Ramadan mi fyswn yn gwneud!

  • 3. Am 10:16 ar 25 Awst 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Ar ei ffordd I alltudiaeth yn Awstralia llwyddodd Zephaniah Williams I ddianc o'I long a threulio degawd yn wasanaeth ymerodraeth Otoman...

  • 4. Am 08:12 ar 26 Awst 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Wow! Mi wnest di lwyddo lle fethais i!

  • 5. Am 08:36 ar 26 Awst 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Dim ond trwy celwyddo mae'n ddrwg gen i....

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.