Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ffeithiau o'r diwedd!

Vaughan Roderick | 23:41, Dydd Sul, 7 Mehefin 2009

Etholaethau wedi eu hennill fesul Plaid.

Ceidwadwyr 17
Llafur 13
Plaid 5
Dem Rhydd 1

4 i ddod sef Conwy, Pontypridd, Cwm Cynon ac Ynys Mon.

Dydw i ddim am ail-deipio'r canlyniad llawn. Un gair. Anhygoel.

Diweddariad. Conwy Plaid, Ynys Mon Plaid, Pontypridd Llafur, Cwm Cynon Llafur. Felly;

Ceidwadwyr 17
Llafur 15
Plaid 7
Dem. Rhydd. 1

Cofiwch mai'r hen etholaethau yw rhain. Conwy nid Aberconwy, er enghraifft.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:09 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Oes modd gweld y canlyniadau unigol mewn urhyw fan ? Gwn dy fod rhy brysur i'w teipio ond mae rhai anoraks fel fi yn hoffi dadansoddi canlyniadau unigol.

  • 2. Am 00:21 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Fel hyn y byddwn ni yn crynhoi pethau

    Ceidwadwyr - addawol ond nid ardderchog B+
    Llafur- siomedig iawn ond nid trychinebus C-
    Plaid Cymru siomedig dylet fod wedi gwneud yn well B-
    Rhyddfrydwyr - siomedig agos at drychinebus C-
    UKIP Canlyniad da B+

    Rwan dwi'n mynd i roi llaeth i'r babi sydd wedi gorfod disgwyl ychydig yn hwyrach heno.

  • 3. Am 00:49 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    O holl bethau gwirion pam ar ddaear gyhoeddi'r canlyniadau mesul hen etholaethau????

  • 4. Am 00:52 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'n wendid sylfaenol yn y system. Yn fy marn i ddylai'r comisiwn etholiadol drefnu etholiadau gyda "virtual talley room" fel mewn gwledydd eraill.

  • 5. Am 00:55 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Beth fedrai ddweud? Dyna yw'r drefn. Yn Lloegr mae nhw'n cyhoeddi mesur awdurdod lleol. Mae 'na un etholiad (un y cynulliad) wedi bod yn defnyddio'r ffiniau newydd. Hurt. Gwirion. Ynfyd. Dewiswch eich gair!

  • 6. Am 00:57 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n teipio'n fwy gwallgof nac wyt ti'n gwybod. Cred neu beidio dwi wedi bod yn teipio blog Betsan hefyd.

  • 7. Am 09:42 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Gwerinwr o Gymro:

    Diolch Vaughan am roi inni dameidiau o wybodaeth ar eich blog neithiwr. Er mai tameidiau oeddynt, yr oedd yn dda iawn eu cael, er bod ambell sibrydiad wedi bod yn gamarweiniol. Ond sibrydion yw sibrydion: dydw i ddim yn eich beio chi o gwbl am hynny.

    Yr hyn sy'n fy mhoeni y bore yma yw na soniwyd dim un gair o gwbl ar y Post Cyntaf heddiw am ganlyniadau rhyfeddol Plaid Genedlaethol yr Alban. Mae'r canlyniadau hynny'n haeddu cael eu crybwyll ar Radio Cymru, a gobeithio y clywn fwy amdanynt cyn diwedd y dydd.

  • 8. Am 11:37 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Ie diolch, Vaughan. Er, fe ges i haint pan soniwyd fod y Dem Rhyddiaid (chwedl Cynog!) wedi ennill Ceredigion! Doedden nhw ddim yn agos wrth gwrs.

  • 9. Am 12:11 ar 9 Mehefin 2009, ysgrifennodd Penri:

    Vaughan,dwi'n gwybod nad yw gohebwyr yn datgelu ffynhonnellau ond rho gliw i ni ynglyn a'r honiad anghywir o Geredigion. Lib Dems?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.