Ar gyfer heddiw'r bore
Mae pob math o bwysigion Ceidwadol ar eu ffordd i Gymru a rhyw gant o Geidwadwyr yn disgwyl David Cameron ar risiau 'r senedd. Dyw'r wlad fach yma erioed wedi bod mor bwysig i'r blaid. Oes angen dweud pam?
Mae sawl un wedi gofyn oes modd gweld yr holl ganlyniadau etholaeth. Dydw i ddim wedi canfod un safle canolog lle maen nhw ar gael. Maen nhw gen i ar bapur ond fedrai ddim teipio nhw i gyd i mewn!
Mae 'na ambell i ganlyniad rhyfeddol. Ym Maldwyn, er enghraifft, roedd Llafur yn chweched. Mae'r ffigyrau ar . Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu problem ddifrifol ym Maldwyn. Yng ngeiriau un Democrat Rhyddfrydol "Maldwyn yw prawf mawr cyntaf arweinyddiaeth Kirsty Williams".
Fe wnâi balu trwy rai o'r canlyniadau eraill os oes amser. Bant a fi nawr i wneud y "World at One". Mae gwasanaethau rhwydwaith y Â鶹Éç hefyd yn ymddiddori yng Nghymru, am heddiw o leiaf!
SylwadauAnfon sylw
Diolch am yr holl flogio am yr etholiadau, Vaughan!
O ran canlyniadau'r etholaethau unigol, os gennych syniad o ble ddaeth pleidleisiau UKIP? Ai yn ar ardaloedd mwyaf Tori neu Lafur? H.y. oni bai am UKIP allai'r Toriaid fod wedi gwneud yn well fyth? Neu a ydy'r Cymoedd yn mynd drosodd at UKIP?
Byddai'n ddiddorol hefyd clywed dy farn ar bwnc sy'n gysylliedeg a hyn: fethiant cymharol Plaid Cymru. Er i ganran y Blaid godi 1% o'i chymharu a 2004, dwi'n meddwl i'r nifer o bleidleisiau gwympo. Pam fod y Blaid yn methu o gymharu a'r SNP?
Be dwi di ffindio mor belled: (Ymdd am y Saesneg)
Wrecsam result
Labour 2712
Plaid 1972
UKIP 2037
Tory 3199
BNP 1092
LibDem 2078
Green 525
Soc Lab 233
Christians 175
No2EU 173
Jury 68
Clwyd S result
Labour 3063
Plaid 2886
UKIP 2259
Tory 4010
BNP 1060
LibDem 1492
Green 735
Soc Lab 282
Christians 190
No2EU 247
Jury 66
Rhondda
Labour 5339
Plaid 4424
UKIP 1447
BNP 924
Tory 808
LibDem 704
Green 520
Soc Lab 512
Christians 371
No2EU 218
Jury 50
Pontypridd
Labour 4592
Plaid 3410
Tory 2919
UKIP 2498
LibDem 2159
Green 1141
BNP 1002
Christians 454
Soc Lab 391
No2EU 293
Jury 109
Cynon
Labour 4145
Plaid 3007
UKIP 1241
Tory 1158
BNP 814
LibDem 812
Green 570
Soc Lab 358
Christians 296
No2EU 162
Jury 57
Maldwyn
Conservative - 4247
UKIP - 2993
Lib Dem - 2757
Plaid - 2016
Greens - 1362
Labour - 994
BNP - 884
Brycheiniog a Maesyfed
Con 6135,
Lab 1965,
Lib dem 4858,
UKIP 2818,
Plaid 1623,
BNP 615,
Green 1511,
Yn ddiddorol roedd pleidlais UKIP yn weddol gyson ymhob math o etholaeth. Mae'n weddol amlwg bod y cynnydd ym mhleidlais y blaid ar drail Llafur.
Diolch Dewi
Dyma'r rhai dwi di ffeindio hyd yma:
Mae nhw i gyd ar wefan Golwg 360.
Bendigedig Golwg 360. Dyna'r union fath o wybodaeth sy'n creu maintais gystadleuol ar Vaughan blydi Roderick !! Diolch!
Rydwyf hefyd yn ddiolchgar! Roeddwn ar fin teipio'r blincin pethau mewn fy hun!
17% a thrydydd yn Maldwyn a 19% pell yng Ngheredigion. Er gwaetha eu spin dyw canlyniad Ceredigion yn fawr o gysur i'r Lib Dems ychwaith.
Camgymeriadau Golwg:
Islwyn - Plaid Cymru 2584 nid 1584
De Clwyd - Llafur 3063 nid 2063
De Caerdydd - Rhydd 2657 nid 1657
Rhai ystadegau:
Canrannau gorau'r pleidiau:
Ceid - Mynwy 38.2%
Llafur - Aberafan 35.1%
Plaid - Caenarfon - 49.5%
Dem Rhydd - Canol Caerdydd - 27.9%
UKIP - Alun a Gl Dyfrdwy - 19.3%
Gwyrdd - Canol Caerdydd - 9.3%
BNP - Dwyr Abertawe - 9.5%
...mwy i ddilyn!!