Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sibrydion (3)

Vaughan Roderick | 22:29, Dydd Sul, 7 Mehefin 2009

I brofi'r pwynt mai sibrydion yw rhain mae'r sibrwd bod Plaid wedi colli Ceredigion yn anghywir. Er bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill tir, Plaid Cymru sydd ar y blaen. Mae Plaid hefyd ar y blaen o drwch blewyn yng Nghonwy.

Mae na ail-gyfri yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Ydy'r Blaid Lafur yn mynd i ennill mewn unrhyw etholaeth y tu allan i Forgannwg a Gwent? Mae'n bosib na fydd hi. Un llygedyn o obaith i Lafur. Mae'n ymddangos ei bod hi wedi dal ei gafael ar Orllewin Caerdydd... a Blaenau Gwent.

Diweddariad; Mae Llafur wedi colli yn Alun a Glannau Dyfrdwy o 700! Collodd y blaid hefyd yn Wrecsam a De Clwyd. Dyw Llafur ddim wedi ennill un etholaeth y tu allan i'r de-ddwyrain felly. Mae nhw wedi colli ym Mhen-y-bont hefyd. I bob pwrpas mae'r Ceidwadwyr wedi ennill ym mhob un etholaeth lle'r oedd hynny'n bosib. Dyw Plaid Cymru ddim wedi gwneud hynny. Dyw hi ddim yn noson wael i Blaid Cymru ond dyw hi ddim cystal a'i gobeithion. Mae 'na wobr gysur i'r Democratiaid Rhyddfrydol, buddugoliaeth yng Nghanol Caerdydd.

Diweddariad 2; Dydw i ddim am ddweud dim mwy am Geredigion nes i mi weld y ffigyrau! Plaid sydd wedi ei hennill hi ac mae'r sbin yn fy nrysu!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:46 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd Arthur Dafis:

    Vaughan, falle bod angen edrych eto ar ganlyniad Ceredigion. Amau fod dy ffynhonnell heb gael y wybodaeth gywir. Plaid Cymru wedi cael nifer sywleddol o bleidleisiau yn fwy na'r Dem Rhydd yn ol fy ffynhonnell i.

  • 2. Am 22:48 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd Meurig:

    Mae'n rhaid mai'r sibrydion am Geredigion oedd rhai gwirionaf y noson does bosib.
    Nid yn unig roedd Plaid Cymru ymhell ar y blaen, cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol lai na 20% a doeddent ddim yn bell o flaen y Ceidwadwyr.

  • 3. Am 22:52 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd blogmenai:

    Roedden nhw'n siwr o ennill tir - pedwerydd oedden nhw o'r blaen.

  • 4. Am 23:11 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    A'i wedi aros adref mae cefnogwyr Llafur yntau a ydynt wedi newid ei lliwiau ? UKIP yw'r unig un i ennill tir yn yr ardaloedd Llafur. A'i wedi llwyddo i gael y bleidlais allan mae'r Ceidwadwyr yntau a ydynt wedi ennill tir

  • 5. Am 23:25 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'n gynnar i ateb hynny...ond dyw'r canran wnaeth bleidleisio yn y cymoedd ddim yn arswydus o isel. Mae'n ymddangos bod rhai pleidleiswyr Llafur wedi troi at UKIP ar gyfer eu pleidlais brotest yn hytrach na Phlaid Cymru. Damcaniaeth gynnar! Yn sicr mae'r Ceidwadwyr wedi troi allan.

  • 6. Am 23:30 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Beth yw canrannau y pleidleiswyr o'i gymharu a'r gorffennol? Faint o bobl sydd wedi aros adref? Os yw'r nifer yn uchel mae yn anodd defnyddio'r canlyniad i ddarogan llawer i'r dyfodol gan fod nifer fawr o'r "floaters" y rhai sydd yn gwneud gwahaniaeth mewn etholiadau cyffredinol wedi aros gartref. Yn fy marn mae cefnogwyr Ceidwadol wedi troi allan dwi ddim yn saff os ydynt wedi ennill pobl o'r newydd ac mae yn ymddangos nad yw'r Blaid wedi llwyddo i ennill pobl oedd yn anhapus gyda Llafur. Er yn noson siomedig i Lafur dwi ddim yn saff os bydd y canlyniad mor drychinebus ac mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf ?

  • 7. Am 23:38 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r canran yn uwch na'r tro diwethaf yr oedd etholiadau Ewrop yn cael eu cynnal heb etholiad arall ar yr un diwrnod sef 1999. Os ydw i'n cofio'n iawn rhyw 26% oedd y canran yn 1999. 30.5% oedd y canran y tro hwn. Yn 2004 roedd yr etholiad ar yr un diwrnod ac etholiadau'r cynulliad.

  • 8. Am 08:54 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Rhys:

    Vaughan - yn 2003 oedd etholiad y Cynulliad, nid 2004. Etholiad yr awdurdodau unedol oedd yr un diwrnod ag etholiadau Ewrop 2004.

    Lle ma modd cael gwybodaeth am y pleidelisiau mesul sedd?

  • 9. Am 11:19 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ti'n iawn wrth gwrs! Roedd hi'n hwyr pan bostiais i honna! Hyd y gwn i dyw'r canlyniadau etholaeth ddim ar gael mewn un lle canolog arlein. Fe ddylai nhw fod ar wefannau'r awdurdodau lleol perthnasol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.