Felna mae
Os oeddech chi'n meddwl bod y fath 'ma o wleidyddiaeth wedi bennu... yng Nghymru efallai. Ond yn ...
"HOOTS mon, Gaels have picked the pockets of the tax payer again and Angus Og has made off with millions with the start of a new Gaelic TV station.
Idon't know why they need one when they've got Â鶹Éç Scotland, where if your first name is not Farquar, Crawford orr Torquil, you haven't got a chance...Language is a living thing or nothing at all if you ask me. And the rest of us, by a stroke of luck, are in possession of a tongue worth the weight of Ben Nevis in gold. The English language is our greatest asset and the government spends far too little spreading it even wider. The money spend on Gaels and their obscure language could be spent by the British Council teaching, for example, the people of China to speak English with infinitely more returns."
Lwcus bod George wedi caei ei daflu allan gan Lafur...
SylwadauAnfon sylw
Mi fuaswn i'n hoffi gallu bod mor siwr fod y math yma o wleidyddiaeth weid diflannu o Gymru. Roedd rhai o'r cyfraniadau i'r drafodaeth wythnos diwetha ynghylch defnydd o wasanaethau Cymraeg yn awgrymu fod agweddau tebyg iawn yn berwi jest o dan y wyneb yma hefyd.
Os yw'r awdur mor bryderus â hynny ynglyn â diffyg medrusrwydd yn y Saesneg, mae digon o dystiolaeth o wahanol ffynonellau annibynnol ar ei gilydd yn awgrymu'n gryf fod plant yn cael budd mawr o fod yn ddwyieithog o oedran cynnar iawn - bod eu gallu ieithyddol fel y cyfryw yn uwch na phlant uniaith erbyn eu god yn gadael yr ysgol gynradd. Os felly, byddai dwyieithrwydd Gaeleg/Saesneg yn fuddiol i Saesneg plant yr Alban.
Fodd bynnag, y pwynt pwysicaf yw mai iaith frodorol yw Gaeleg yn yr Alban, nid iaith wedi'i mewnforio, megis Pwnjabi neu Bwyleg. Byddai'n gymharol hawdd i siaradwyr y ddwy iaith olaf hyn, lle bynnag y bônt, ddod i gysylltiad â'u hieithoedd brodorol, yn enwedig yn yr oes dechnolegol sydd ohoni.
Cyfuniad o wahanol ffactorau cymdeithasol sy'n pennu goroesiad iaith ond, ar ddiwedd y dydd, rhaid i siaradwyr unrhyw iaith deimlo bod gwerth i'r iaith honno er mwyn ei throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf. Weithiau, mae creu amgylchiadau sy'n mynd i ffafrio goroesiad iaith yn mynd i gostio, ond pe bai unrhyw iaith fach yn marw, byddai safbwynt unigryw'r rhai sy'n ei siarad hefyd yn marw, a'r byd cyfan ar ei golled.
Yn ddiweddar, darllenais am farwolaeth siaradwr olaf yr iaith Eyak yn nhalaith Alaska - hen wraig 89 oed. O leiaf, roedd hi wedi croniclo ei hiaith ar gyfer y cenedlaethau a ddêl, ond yr hyn a'm trawodd oedd y ffaith nad oedd ei phlant yn siarad yr iaith, oherwydd yr agwedd a fodolai flynyddoedd yn ôl tuag at ieithoedd heblaw'r Saesneg.
Mae hanes yr hen wraig honno'n atgoffa rhywun am yr olygfa drist yn ail hannes 'Wythnos yng Nghymru Fydd' gan Islwyn Ffowc Elis, a'r hen wraig yn y Bala weithiau'n llithro'n ôl i'w mamiaith .....
Byddai unffurfiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol mor ddiflas .... gwae ni rhag mynd i'r cyfeiriad hwnnw! Byddai'r ddynoliaeth gymaint yn dlotach!
Yn hyn o beth bydd hi'n ddifyr cymharu hyn a'r ymateb cyffredinol i gyhoeddiad nes mlaen am ariannu papur dyddiol Cymraeg. Fydd o'n llai o bres na'r Sianel Aeleg, ond dwi'n siwr na fydd llawer o'r brigad "schools'n'ospitals" yn hapus iawn os bydd y swm yn agos at be awgrymodd adroddiad Bianchi oedd ei angen.
Wrth gwrs, does dim gwasg tabloid genedlaethol ganddon ni i roi barn fel hyn ond o weld cynnyrch rhai o golofnwyr yr SW Echo - dwi'n siwr na chawn nhw drafferth difrio'r prosiect ar sail "no-one speaks it anwyay" os cant gyfle.
Da gweld agweddau iach un o arwyr y chwith Gymreig tuag at leiafrifoedd.