Clonc 'da Carwyn
Efallai mai'r Rygbi sy'n gyfrifol neu'r ffaith bod yr ELCO cyflawn cyntaf yn cyrraedd llawr y cynulliad y prynhawn yma ond yn sicr mai Carwyn Jones mewn hwyliau da heddiw. Un peth yn unig sy'n ei gorddi a'r Â鶹Éç sy'n gyfrifol am hynny. Wrth drafod y gêm fawr 'da newyddiadurwyr fe wnaeth y sylw yma "os oeddwn i moen gweld y gêm o'r awyr byswn i wedi fy ngeni’n dderyn!"
Nawr dw i ddim yn meddwl bod hyn yn bertnasol yn achos Carwyn ond mae cymryd diddordeb yn nhîm Rygbi Cymru neu o leiaf esgus cymryd diddordeb fwy neu lai yn orfodol yn y cynulliad. Nid pawb sy'n llwyddo wrth gwrs, cymerwch y datganiad i'r wasg a 'n cyrhaeddodd ddydd Sadwrn yn llongyfarch Mike Gatland a'i dim...