Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Jiw Jiw Joyce

Vaughan Roderick | 11:22, Dydd Gwener, 1 Chwefror 2008

Ymddiheuriadau am beidio blogio ddoe. Roedd pethau'n brysur yma rhwng popeth wrth i ni ofalu am straeon dydd i ddydd a thyrchu i gamddefnydd honedig Joyce Watson o adnoddau'r cynulliad. Os dy’ch chi ddim wedi darllen y stori'n barod mae i'w gweld .

Dw i ddim yn un sy'n cael pleser mawr wrth ddatgelu straeon o'r fath. Mae'n ddyletswydd arnom i'w cyhoeddi ond dw i'n ymwybodol ein bod yn cynyddu sinigiaeth ac amheuon y cyhoedd ynglŷn â'n gwleidyddion a'n system wleidyddol trwy wneud hynny. Dw i o'r farn anffasiynol bod y mwyafrif llethol o'n cynrychiolwyr etholedig yn bobol anrhydeddus sy'n ceisio gwneud eu gorau dros ei hetholwyr.

Yn achos Ms. Watson dw i'n ddigon parod i dderbyn efallai nad oedd hi'n gwbwl gyfarwydd â'r rheolau. Ar ôl dweud hynny mae'r rheolau yn gwbwl eglur ac mae'n ymddangos ei bod wedi torri dwy os nad tair ohonyn nhw. Ar ben hynny hyd yn oed os ydy Ms. Watson yn ddibrofiad mae o leiaf un aelod o staff â blynyddoedd o brofiad o waith gwleidyddol.

Wrth amddiffyn ei hymddygiad dywed Ms. Watson ei bod wedi "clirio" cynnwys y cylchlythyron a'r swyddfa ffioedd. Ond nid cynnwys y ddogfen yw'r broblem ond y defnydd o amlenni rhadbost y cynulliad i ddanfon y cylchlythyron i aelodau'r Blaid Lafur. Dyma'r broblem sy gen i. Beth bynnag am y rheolau (ac fel dw i'n dweud, mae'r rheiny'n gyfan gwbl eglur) sut oedd unrhyw un yn swyddfa Ms Watson yn gallu credu am eiliad bod hi'n foesol dderbyniol i ddefnyddio arian y trethdalwyr, eich arian chi a fi, fel cymhorthdal i weithgaredd pleidiol?

Dyw'r ffaith nad oedd y taflenni yn cynnwys y gair Llafur ddim yn llawer o esgus. Pa bwrpas posib arall oedd na i'r cylchlythyron ond cynyddu proffil personol Joyce Watson ymhlith yr aelodau Llafur hynny fydd yn llunio'r rhestr Llafur yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru yn etholiad 2011? Alun Davies oedd ar frig y rhestr llynedd gyda Joyce Watson yn ail. Beth mae Alun yn meddwl am hyn oll, tybed? Os oeddwn i yn ei sefyllfa fe fyswn i'n poeri gwaed.

Cofiwch fe fydd na bodlediad newydd ar gael am ddau'r prynhawn yma. Mae'n cynnwys golwg ar waith y Pwyllgor Deisebau yn ogystal' a'r rhifyn cyfredol o Dau or Bae.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.