Y Gwir yn Erbyn "Y Byd"
BLOGIO BYW
15.50; Fe fydd y datganiad yngl欧n 芒'r wasg Gymraeg yn dechrau ymhen ychydig funudau. Blogio byw amdani.
15.52; Mae Ned Thomas, cadeirydd Dyddiol cyf. wedi gadael yr adeilad ar 么l cwrdd 芒'r gweinidog. Gwrthododd ddweud gair wrth newyddiadurwyr. Dyw e ddim yn arwydd da ei fod wedi penderfynu peidio aros i wrando ar y ddadl.
16.04; Rhodri Glyn Thomas ar ei draed
16.05: Crynondeb o adroddiad Tony Bianchi i gychwyn
16.12; 拢600,000 i'r wasg Gymraeg dros y tair blynedd nesaf...llawer yn llai nac oedd Dyddiol cyf. yn gobeithio. Y cyngor llyfrau fydd yn cael yr arian.
16.13 Mae amserlen wreiddiol "Y Byd" wedi ei dryllio fe dybiwn i a'r pwyslais ar gydweithio yn awgrymu bod y model busnes wedi methu argyhoeddi鈥檙 llywodraeth.
16.15 Paul Davies AC; Ydy'r datganiad yma yn ymrwymiad i bapur dyddiol ai peidio? Cwestiwn da. Ydy'r 拢600,000 yn seiliedig ar unrhyw gynllun busnes? Pwy sy'n debyg o gael yr arian?
16.16; RGT Mae'r datganiad yn ben agored, dw i ddim am ffrwyno unrhyw syniad. Dw i eisiau edrych ar ffyrdd newydd o gyflwyno'r newyddion. Dim ffafriaeth i Dyddiol cyf. felly ond diolch i Dyddiol talp o arian i'r Cyngor Llyfrau.
16.18; Alun Davies AC yn croesawi'r cyhoeddiad ac yn canmol Bianchi. Alun yn canmol Dyddiol cyf. Faint o gwmn茂au fydd 芒 diddordeb mewn sefydlu papur dyddiol?
16.26; RGT; Yr arian yn ddigonnol i sicrhai bywiogrwydd newydd yn y wasg Gymraeg.
16.27; Elinor Burnham yn mynegi ei siom ac yn ymosod ar Bianchi. Pa help yw hyn i'r Byd?
16.30; Dyw hyn ddim yn ymwneud ac unrhyw un prosiect. Mae'r cymhorthdal yn fwy na sy'n cael ei rhoi i bapur Aeleg yn Belfast. Nid Dyddiol Cyf. yw'r unig gwmni sydd 芒 diddordeb mewn sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Pwy arall tybed? Mae Golwg yn gwadu... Trinty Mirror efallai neu Tindles perchnogion Y Cymro a'r Cambrian News? Trafodwch chi. Ai dyma ddiwedd "Y Byd"?
SylwadauAnfon sylw
Siomedig iawn ond ddim yn syndod, sut allwn ni ddisgwyl Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi fenter Y Byd, pan allwn ni Cymru Cymraeg ddim rhoi ein cefnogaeth i bapur dyddiol. Os fuasai 5,000 o Gymru Cymraeg wedi tanysgrifio mi fuasai agwedd RGT hwyrach wedi bod yn wahanol. Mae'n edrych yn debyg felly fydd rhaid i ni gyfranddaladwyr roi ein 拢500 i lawr ar gyfer colled y flwyddyn yma.
Roedd gan Rhodri Glyn gyfle i newid bywyd diwylliannol Cymru ond mae wedi pendefynnu peidio. Y Byd yn risk - diawl, mae dyfodol y Gymraeg yn risk - dyna pam fod angen bod yn heriol a cheisio cynnyddu a normaleiddio defnydd yr iaith.
Sawl un arall o addewidion Cymru'n Un mae Plaid Cymru am ei thorri - Coleg Ffederal, Deddf Iaith, Refferendwm, .cym.
Diwrnod siomedig iawn. Y neges - peidiwch trafferthu creu menter Gymraeg na buddsoddi yn nyfodol yr iaith, fydd dim cefnogaeth iddo gan Blaid Cymru.
Roedd adroddiad Bianchi'n dweud fod elfen o risk yn sefydlu'r Byd - ond wedyn mae hynny'n wir am bod cyhoeddiad gan fod cyhoeddiadau print Cymraeg ddim yn cael swm mawr o arian cyhoeddus (拢100k i S4C, miliynau eraill i'r 麻豆社).
O ran ffigurau darllen - yna faint o bobl oedd yn gwylio Y Byd ar Bedwar neiwithiwr, 6 mil efallai, beth yw hwnna o ran punnoedd y pen? Faint sy'n darllen y wefan yma a faint yw hwnnw y pen? Ac fel mae Dyfrig Barn yn nodi ar ei flog mae Marc Jones bellach yn gweihtio i Blaid Cymru ac felly'n cadw ochr ei fos newydd.
Diwnrod siomedig iawn. Ddim gweld pwuynt buddosoddi fy amser ac arian yn y Gymraeg os nad yw gweinidog Plaid Cymru am wneud hefyd.
A L谩 yn dod i ben ym Melffast. Dyddiau du i'r ieithoedd celtaidd.
Roedd ddoe yn ddiwrnod trist iawn, gwelwyd Llywodraeth Cymru'n Un yn methu cyflawni yr ail o dri addewid penodol parthed yr Iaith Gymraeg yr oedd Ieuan Wyn Jones yn ei addo yn ei deithiau o amgylch Cymru i werthu'r glymblaid. Methwyd a gwireddu'r cyntaf, Coleg Ffederal Cymraeg, nol ym mis Tachwedd. Yn swyddogol mae'r polisi yn parhau i gael ei lunio ond gyda dim ond 拢4.3m dros dair mlynedd (i gymharu gyda'r 拢15m y flwyddyn sydd ei angen) mae'r addewid i bob pwrpas wedi ei dorri. Yr ail a dorrwyd ddoe wrth gwrs oedd yr addewid i ariannu papur Dyddiol Cymraeg 鈥 mae 拢600,000 wedi ei addo i'r wasg Gymraeg yn gyfan, ond mae angen o leiaf 拢600,000 ar bapur Dyddiol yn unig.
Ar y diwrnod lle drylliwyd gobaith Y Byd (y papur dyddiol arfaethedig) yn dra eironig fe'n hatgoffwyd o'r angen am Y Byd oblegid neithiwr ar y Byd a'r Bedwar (ITV Cymru) 鈥渁rbennigydd鈥 y rhaglen wrth esbonio nad oedd sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn realistig oedd Marc Jones y 鈥渘ewyddiadurwr鈥. Ond fel y mae Dyfrig wedi nodi ar ei flog nid 鈥渘ewyddiadurwr鈥 niwtral mo Marc Jones o gwbl bellach ond efe yw un o swyddogion PR Plaid Cymru! Mae'r peth yn gwbl warthus, ac yn dangos yn wyneb newyddiaduraeth ddiflas y 麻豆社 a diog ITV y bod angen gweld sefydlu'r BYD ar unwaith er mwyn gweld gwawr newydd ar newyddiadura yng Nghymru.
Ac rwy'n gwrthod derbyn fod 鈥減ethau yn dyn yn y gyllideb eleni鈥 fel esgus oherwydd ar fympwy heb unrhyw ymrwymiad yn y rhaglen Cymru'n Un mae 拢13m wedi ei ganfod i ganolfan y Mileniwm a heddiw 拢1.9m arall i'r Gerddi Botaneg. Mae hyn yn dangos mae nid diffyg cyllid yw'r broblem ond diffyg blaenoriaeth i addewidion am yr iaith Gymraeg. Mae heddiw yn ddiwrnod lle dwi'n difaru mod i wedi aberthu tair wythnos o'm mywyd, pum tanc o betrol a syrthio tu 么l gyda'm ymchwil dros Blaid Cymru nol y llynedd.