麻豆社

Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2008

Darlith Dicw

Vaughan Roderick | 19:44, Dydd Mercher, 30 Ionawr 2008

Sylwadau (3)

Dw i newydd fod mewn darlith gan Richard Wyn Jones o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Fe fyddwn yn trafod hynny ar CF99 heno ac fe fydd hi'n bosib gwylio'r drafodaeth ar y safle yma yfory. Ond fel tamaid i aros pryd roedd gan Richard bethau mawr i ddweud heno yn enwedig wrth drafod Cymdeithas Sifil yng Nghymru.

Galwodd am gomisiwn i ymchilio i'r cyfryngau, tebyg i , i ystyried ffyrdd o sicrh芒i plwraliaeth yn y cyfryngau Cymreig ond roedd ei feirniadaeth yn fwyaf hallt wrth drafod ei gyflogwyr ei hun- y sector addysg uwch.

Roedd hi'n feirniadaeth ers talwm bod Prifysgol Cymru yn gorff nad oedd yn fodlon edrych allan trwy ei ffenestri ei hun i astudio'r wlad a'r gymdeithas o'i chwmpas. Yn 么l Richard 'dyw pethau ddim wedi gwella ac mae'r ffaith nad yw hyd yn oed yr ymchwil academaidd mwyaf sylfaenol yn digwydd mewn meysydd fel tlodi, afiechyd a'r economi yn llesteirio gallu cyrff cyhoeddus Cymru i lunio polis茂au ystyrlon ac effeithiol.

Annerch cynulleidfa o lob茂wyr a gwleidyddion oedd Richard ac mae'n bosib ei fod yn gwneud dipyn o lobio ei hun. Wedi'r cyfan Adran Gwleidyddiaeth Aber yw un o'r ychydig adrannau sydd yn gwneud gwaith ymchwil i fywyd yng Nghymru. Serch hynny mae ganno bwynt. Llywodraeth y cynulliad yw prif ariannwr y sector. Ydy hin afresymol i ofyn i Brifysgolion Cymru roi rhywbeth yn 么l?

Cyffro'r Cynghorau

Vaughan Roderick | 17:35, Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2008

Sylwadau (1)

Diwrnod prysur heddiw yn ceisio gohebu i bob twll a chornel o 麻豆社 Cymru yngl欧n 芒 biliau treth cyngor flwyddyn nesaf. Mae 'na ryw fyth yn fan hyn mai fi yw'r unig un yma sy'n deall system ariannu llywodraeth leol. Gwrandewch bobol, dydw i ddim. Dim ond tri o bobol sy'n deall y system ac mae un wedi marw, un arall ar wyliau a'r olaf yn gwrthod dweud.

Ta beth, cynnydd o rywle rhwng tri a phump y cant fydd yn wynebu'r rhan fwyaf ohonom pan ddaw'r biliau, mwy na chwyddiant ond llai na'r ffigwr mewn ambell i flwyddyn arall. Go brin fod y codiadau鈥檔 ddigon i ysgogi gwrthryfel ar ran yr etholwyr... fe fyddai toriadau mewn gwasanaethau鈥檔 debycach o wneud hynny, dybiwn i.

Serch hynny dwi'n dechrau edrych 'mlaen at ornestau Mis Mai. Mae gwleidyddiaeth cyngor Cymru yn fwyfwy difyr wrth i nifer y caerau un-blaid leihau gyda bron pob un cyngor bellach yn gystadleuol. Y broblem fydd wrth gwrs geisio dirnad unrhyw wers genedlaethol o frwydrau sydd o'u hanfod yn lleol ac yn wahanol i'w gilydd.

Dw i wedi sgwennu o'r blaen am y bygythiad enfawr y mae Llafur yn wynebu ym Mis Mai ond maen nhw'n brawf hynod o bwysig i'r Ceidwadwyr hefyd. Os oes 'na sylwedd i adfywiad y Blaid mae鈥檔 bryd profi hynny trwy ddechrau adennill y tir a gollwyd gan y Blaid yn yr wythdegau a'r nawdegau cynnar- erydiad lleol oedd yn arwydd o'r hyn oedd i ddod ar lefel San Steffan.

Gadewch i ni gofio ychydig o ffeithiau fydd yn rhyfeddu rhai ohonoch chi dan eich deg ar hugain. Ar yr un adeg roedd gan Ceidwadwyr fwyafrif ar gynghorau Casnewydd a Chaerdydd. Un ar hugain o gynghorwyr sy gan y Blaid rhwng y ddwy ddinas erbyn hyn. Mae hynny'n welliant ar yr un dyn bach oedd ar 么l ar droad y ganrif ond mae angen gwell.

Cynghorwyr yw asgwrn cefn unrhyw blaid wleidyddol. Dyw e hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod pob un Tori ar Gyngor Caerdydd yn cynrychioli wardiau yn etholaeth Gogledd Caerdydd, sedd a gipiwyd gan y Blaid yn etholiad y cynulliad. Drws nesaf yng Nghanol Caerdydd (hen sedd Ian Grist) does gan y Tor茂aid yr un cynghorydd ac yn etholiad y cynulliad enillodd y blaid lai na phymtheg y cant o'r bleidlais. Mae 'na gysylltiad.

Gallai adfywiad y Ceidwadwyr yn hawdd chwyth ei blwc oni osodir sylfaeni cadarn yn siambrau'r cynghorau.

Podlediad

Vaughan Roderick | 15:44, Dydd Gwener, 25 Ionawr 2008

Sylwadau (0)

Mae 'na bodlediad newydd ar gael trwy wasgu'r botwm ar y dde. Yn ogystal 芒 chyfle i wrando ar "Dau o'r Bae" mae'n cynnwys cyfweliad 芒 Guto Bebb ynghylch y cynllun i gynnal refferendwm ar Ewrop yn Aberconwy.

Byw heb Hain

Vaughan Roderick | 15:23, Dydd Gwener, 25 Ionawr 2008

Sylwadau (1)

Am riw reswm dw i wastad wedi credu bod Peter Hain llawr yn ifancach na Paul Murphy. Ces i dipyn o sioc felly i sylwi mai dwy flynedd sydd rhyngddyn nhw gyda Mr Hain yn bumdeg saith a Mr Murphy yn tynnu am ei drigain.

Mae llawer o son wedi bod yn y Bae am y faint o wahaniaeth y bydd penodi Mr Murphy (dinosor ar ddatganoli chwedl Ieuan Wyn Jones) yn gwneud i ddatblygiad y cynulliad dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod. Mae rhai aelodau cynulliad eisoes yn datgan eu bod yn disgwyl i Mr Murphy ddehongli'r gyfundrefn newydd o ddeddfu yn y modd llymaf posib gan ei gwneud hi'n anodd i'r cynulliad gynyddu ei bwerau deddfu'n gymharol gyflym.

Mae gen i deimlad y gallai'r ofnau hynny fod yn ddi-sail ac y gallai'r gwahaniaethau arwynebol rhwng Mr Hain a Mr Murphy, fel y gwahaniaeth oedran, fod yn llai nac maen nhw'n ymddangos.

Y gwahaniaeth pwysicaf rhwng y ddau wrth gwrs yw bod Peter Hain yn ddatganolwr brwd. Mae Paul Murphy ar y gorau yn sgeptig. Ond a fydd hynny yn effeithio ar y ffordd y mae'n cyflawni'r swydd?

Mae 'na ambell i beth sy'n werth cofio yn fan hyn. Yn gyntaf mae Mr Murphy yn ddyn pwyllog sy'n hoff o chwarae yn 么l y rheolau. O bryd i gilydd cafodd Mr Hain ei gyhuddo o ymyrryd ym mhriod waith y cynulliad. Dyw Mr Murphy ddim yn debyg o wneud hynny. Mae fe hefyd, wrth reddf, yn gymodwr ac yn ystod ei gyfnod yng Ngogledd Iwerddon dangosodd ei fod yn effeithiol yn y r么l honno.

Mae unrhyw un sydd yn disgwyl i Mr Murphy luchio ceisiadau am ddeddfwriaeth i'r bin er mwyn amddiffyn sofraniaeth San Steffan yn cam-ddarllen y dyn. Os oes 'na LCO dadleuol (ac mae'n sicr y bydd na rai) ceisio cyfaddawd rhwng y cynulliad a San Steffan fyddai ymateb greddfol yr ysgrifennydd newydd. Yn unswydd oherwydd ei fod sgeptig fe fydd aelodau seneddol yn fwy pario i wrando arno fe nac ar ei ragflaenydd.

Mae hefyd werth cofio nad oedd 'na berthynas bersonol agos rhwng Rhodri Morgan a Peter Hain. Yn wir dyw dilynwyr Rhodri byth wedi anghofio rhan Mr Hain yn y frwydr waedlyd rhwng Rhodri ac Alun Michael i arwain Llafur Cymru yn etholiad cyntaf y cynulliad. Er gwaethaf eu gwahanol safbwyntiau ynghylch datganoli mae Rhodri a Paul Murphy wedi cydweithio ers degawdau ac yn deall ei gilydd i'r dim. Galli rhai o aelodau'r cynulliad gael eu siomi o'r ochor orau gan yr ysgrifennydd newydd.

Wrth fynd heibio

Vaughan Roderick | 14:08, Dydd Iau, 24 Ionawr 2008

Sylwadau (0)

Mae'r byd wedi symud 'mlaen rhyw ychydig... ond i rheiny wnaeth golli CF99 neithiwr mae'n bosib gwylio trafodaeth ddiddorol am gynllunio yng nghefn gwlad trwy glicio yn fan hyn.

Pryd 'da Peter

Vaughan Roderick | 13:36, Dydd Iau, 24 Ionawr 2008

Sylwadau (0)

Diwedd y llynedd ddyddiau ar 么l i'r straeon ynghylch cyfraniadau ariannol Harriet Harman a Wendy Alexander ymddangos Peter Hain oedd y gwestai mewn cinio wedi ei drefni gan y lobi Gymreig. Mae'n un o reolau'r lobi nad yw'r hyn sy'n cael ei ddweud mewn ciniawau o'r fath yn cael ei gyhoeddi ond dw i am stretsio'r rheolau ychydig i son am sgwrs fach ddigwyddodd yn y bar cyn y pryd.

Dechreuodd rhai ohonom dynnu coes yr Ysgrifennydd Gwladol am gyfraniadau i'w ymgyrch ynteu gan ofyn yn watwarus oedd e'n sicr nad oedd na unrhyw beth o le ar ei gyfrifon. Roedd ymateb Mr Hain yn ddiddorol. Ymunodd yn y tynnu coes a chwerthin yn braf wrth ymateb i'r gwatwar. Nawr naill mae Peter Hain yn gythraul o actor da neu roedd e'n gwbwl anymwybodol fod ganddo fe broblem. Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach cyhoeddodd ei fod wedi methu cofrestri cyfraniadau i'w ymgyrch.

Mae pawb oedd yn cinio'r lobi o'r farn mai blerwch yn hytrach na unrhyw beth mwy amheus oedd wrth wraidd helyntion Peter Hain ond dyw blerwch nac anwybodaeth ddim yn cyfiawnhau torri'r rheolau na'r gyfraith. Ar 么l i Mr Hain syrthio ar ei fai roedd ei ddyfodol yn nwylo'r comisiwn etholiadol a'r swyddfa safonau ac ar 么l wythnosau areithiol iddo mae'r fwyell anorfod wedi disgyn.

Wedi went

Vaughan Roderick | 12:41, Dydd Iau, 24 Ionawr 2008

Sylwadau (0)

Mae Peter Hain wedi ymddiswyddo. Fe wn芒i sgwennu rhagor am hynny yn y man. Ond pwy fydd yn ei olynu fel Ysgrifennydd Cymru? David Hansen yw'r dewis amlwg ond pa swydd cabinet fyddai'n addas ar ei gyfer? Gogledd Iwerddon efallai gyda Shaun Woodward yn mynd i'r adran waith. Fe gawn weld.

Mae'n bosib wrth gwrs y gallai Gordon Brown fod yn fwy radicalaidd gan ddiddymu swydd yr Ysgrifennydd Gwladol a phenodi "Ysgrifennydd y Cenhedloedd" i fod yn i fod yn gyfrifol am swyddfeydd yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Dyna, dwi'n deall, yw gobaith rhai o wleidyddion amlycaf y Bae sydd o'r farn bod Peter Hain wedi hwpo鈥檌 drwyn i fusnes y cynulliad yn rhu aml.

Codi Bwganod

Vaughan Roderick | 16:17, Dydd Mercher, 23 Ionawr 2008

Sylwadau (3)

Dyw eliffantod yn anghofio dim meddai nhw ac mae'n ymddangos bod yr un peth yn wir am rai aelodau o'r cynulliad yn enwedig aelodau Llafur.

Rydym wedi hen arfer a chlywed enwau John Redwood a Margaret Thatcher yn cael eu poeri allan yn y siambr. Mae'r geiriad bron yn ddigyfnewid. "Beth bynnag mae'r Ceidwadwyr yn dweud NAWR mae pobol Cymru yn cofio beth wnaeth John Redwood a Margaret Thatcher pan oedden nhw mewn grym..."

Nawr, mae'n ddegawd ers i'r Ceidwadwyr golli grym yn San Steffan ond am wn i mae 'na ddigon o etholwyr sydd ag atgofion digon chwerw o'r cyfnod hwnnw i'r honiad ganu ambell i gloch a chodi ambell i grachen.

Dw i'n amheus ar y llaw arall a fydd ymosodiad aelod Islwyn Irene James yn y siambr heddiw wedi llwyddo i daro deuddeg. Wrth son am ail agor y lein rheilffordd i Lyn Ebwy (sydd hefyd yn gwasanaethu ei hetholaeth hi) honnodd nad oedd trigolion yr ardal wedi anghofio mai'r Ceidwadwyr oedd yn llywodraethu pan gaeodd y lein yn lle cyntaf.

Arhoswch eiliad. Digwyddodd bron i hanner canrif yn 么l! Doedd y rhan fwyaf o bobol Islwyn heb gael eu geni yn 1962 pan gaewyd y lein. Ydy Irene yn dweud bod pobol Trecelyn a Rhisga o hyd yn poeri gwaed am Doctor Beeching ac Ernest Marples? Ydy trigolion y Coed Duon a Phontllanfraith yn diawlio Douglas-Hume a Maudling wrth eistedd mewn tagfeydd traffig wrth gymudo i Gaerdydd? Go brin.

Ond os ydy pobol yn dymuno ail-frwydro brwydrau gwleidyddol yr ugeinfed ganrif mae'n werth cofio ambell i ffaith. Yn sgil cyhoeddi adroddiad Beeching yn 1963 ym mlwyddyn olaf y llywodraeth Geidwadol caewyd rhyw dri chan milltir o'r rhwydwaith rheilffyrdd. Yn y tair blynedd ganlynol o dan lywodraeth Lafur Harold Wilson caewyd bron i ddwy fil a hanner o filltiroedd. Fe gaeodd yr un llywodraeth, gyda llaw, mwy o byllau glo Cymru na'r un llywodraeth arall.

Ydy hynny'n berthnasol neu'n bwysig heddiw? Nac ydy. Pam felly codi'r pwnc yn lle cyntaf?

Trafferthion i'r Toris

Vaughan Roderick | 12:05, Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2008

Sylwadau (1)

Digwyddodd rhywbeth anarferol iawn yng nghynhadledd newyddion wythnosol y Ceidwadwyr heddiw. Ar 么l datganiadau gan David Melding ynghylch yr economi ac Angela Burns yngl欧n 芒'r gyllideb gwahoddwyd y newyddiadurwyr oedd yn bresennol i ofyn cwestiynau. Tawelwch. Distawrwydd. Dim siw na miw. Yn y diwedd gofynnodd Betsan a finnau gwestiynau ond mewn gwirionedd ceisio osgoi embaras oedd y bwriad.

Roedd yr hyn ddigwyddodd yn enghraifft o broblem sy'n wynebu'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y cynulliad sef canfod strategaeth i wneud eu hun yn berthnasol mewn sefyllfa lle mae gan lywodraeth Cymru fwyafrif sylweddol. Prawf pellach o hynny yw bod llai na hanner y newyddiadurwyr wnaeth fynychu cynhadledd y newyddion y llywodraeth awr yn gynt wedi trafferthu aros o gwmpas ar gyfer sesiwn y Tor茂aid.

Cyn belled ac mae'n bosib synhwyro unrhyw strategaeth o ran y gwrthbleidiau mae'n ymddangos bod 'na wahaniaethau sylweddol rhwng tactegau'r ddwy. Tueddu awgrymu bod Plaid Cymru yn cael ei thwyllo a'i defnyddio gan Lafur mae'r Ceidwadwyr tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo'r Cenedlaetholwyr o gefni ar eu hegwyddorion er mwyn sicrh芒i grym.

Yr hyn sy'n ddiddorol yw mai Plaid Cymru ac nid Llafur yw'r prif darged i'r ddwy blaid. Mae 'na synnwyr gwleidyddol mewn hynny yn nhermau gwleidyddiaeth y cynulliad. Gyda Llafur wedi gostwng i'w phleidlais graidd yn 2007 mae'n bosib mai brwydr rhwng y tair plaid arall am y bleidlais wrth-Lafur fydd etholiad 2011.

Serch hynny, dyw'r strategaeth ddim yn un sy'n gwneud llawer o synnwyr yn nhermau'r calendr gwleidyddol. Wedi'r cyfan Etholiad Cyffredinol Prydeinig yw'r ornest fawr nesaf Yn nhermau hwnnw oni fyddai'n well i'r Ceidwadwyr, o leiaf, ddefnyddio eu llwyfan yn y Cynulliad i golbio Llafur er mwyn rhoi hwb i'w hymgeiswyr mewn cyfres o etholaethau ymylol ar hyd a lled Cymru?

Ron a Mike

Vaughan Roderick | 09:04, Dydd Sul, 20 Ionawr 2008

Sylwadau (4)

Beth bynnag arall wnaeth Ron Davies gyflawni mae'n ymddangos ei fod wedi llwyddo i adael ei farc ar hanes trwy lunio ystrydeb wleidyddol!

"This is not an event,It is a process. And the process is far, far from over.鈥- Mike Huckerbee.

Iaith Gwaith

Vaughan Roderick | 14:54, Dydd Gwener, 18 Ionawr 2008

Sylwadau (1)

Roeddwn i'n ddigon dilornus ddoe ynghylch y ffaith bod pawb yn disgrifio'r cyfarfod scriwtineiddio ar y cyd rhwng aelodau seneddol a chynulliad fel un hanesyddol. Mea Cwlpa. Dw i'n meddwl bod y cyfarfod wedi bod yn hanesyddol- ond nid am y rhesymau yr honnwyd.

Hwn yw'r tro cyntaf i mi gofio lle cynhaliwyd sesiwn bwyllgor yn y cynulliad bron yn gyfan gwbwl trwy gyfrwng y Gymraeg ac eithrio ambell i gyfarfod hynny lle'r oedd yr iaith ei hun yn cael ei thrafod. Ffioedd am wasanaethau gofal yn y cartref i'r henoed oedd y pwnc. Doedd dim rheswm arbennig felly i ddisgwyl cymaint o Gymraeg.

Y dirprwy gweinidog Gwenda Thomas oedd yn bennaf gyfrifol am iaith y cyfarfod,fe dybiwn i, gan iddi ddewis cyflwyno ei thystiolaeth agoriadol yn Gymraeg. Clod hefyd i'r aelodau seneddol Hywel Francis, Si芒n James a Hywel Williams a'r aelod cynulliad Dai Lloyd am wneud y cyfan o'u cwestiynu trwy'r Gymraeg. A chan fy mod yn bod yn ddymunol am unwaith llongyfarchiadau i Joyce Watson wnaeth lwyddo i gadeirio'n effeithiol er nad yw hi'n medru'r iaith.

Hon oedd yr enghraifft ddiweddaraf o newid nodweddiadol iawn yn y bae. Heb os, mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio llawer mwy yn y trydydd cynulliad nac yn ei rhagflaenwyr.

Mae 'na ambell i reswm am hynny. Yr un pennaf wrth gwrs yw bod y presenoldeb Plaid Cymru yn y cabinet yn golygu bod y rhan fwyaf o weinidogion a dirprwy weinidogion yn ddwyieithog. Dim ond tri allan o'r deg aelod o'r Cabinet sy'n methu o leiaf cynnal sgwrs yn Gymraeg.

Mae agwedd rhai o aelodau newydd y Cynulliad hefyd wedi cael effaith. Mae Paul Davies y Ceidwadwr o Breseli, fel enghraifft, bron yn ddieithriad yn defnyddio'r Gymraeg yn y siambr ac mae hynny wedi sbarduno ei gyd-aelod Brynle Williams i ddefnyddio mwy o'r iaith tra bod Darren Miller hefyd yn gloywi ei sgiliau ieithyddol.

Mewn un ystyr, wrth gwrs, dyw hyn i gyd ddim yn bwysig. Yr hyn sy'n cyfri yw beth sy'n cael ei wneud dros yr iaith yn hytrach na pha iaith sy'n cael ei defnyddio o fewn muriau'r senedd. Serch hynny mae'n beth braf i weld a chlywed ac mae'r Gymraeg yn debycach, dybiwn i, o gael blaenoriaeth gan gorff sy'n ei defnyddio ei hun yn ei fusnes dydd i ddydd.

Podlediad

Vaughan Roderick | 11:44, Dydd Gwener, 18 Ionawr 2008

Sylwadau (0)

Mae 'na bodlediad newydd ar gael trwy wasgu'r botwm ar y dde. Yn ogystal 芒 Dau o'r bae cewch glywed Guto Thomas yn trafod y rhagolygon ar gyfer etholiadau lleol Mis Mai ac Owain Clarke sydd ar ei ffordd i Efrog Newydd ar gyfer "Super Tuesday" yn trafod y ras i'r T欧 Gwyn.

Rhodri'n cyrraedd Popbitch

Vaughan Roderick | 17:08, Dydd Iau, 17 Ionawr 2008

Sylwadau (1)

Wrth i wleidyddion chwilio am ffyrdd newydd i gyrraedd yr ifanc efallai y bydd Rhodri Morgan yn dathlu'r ffaith ei fod wedi llwyddo i ddarparu'r un o brif straeon yr e-bost sgandalus "popbitch".

Peidiwch a becso dyw'r Prif Weinidog ddim wedi cael ei ddal mewn rhyw dro trwstan 'da Amy Winehouse neu Pete Doherty. Dyfyniad gan Rhodri sydd wedi apelio at y casglwyr sgandalau. Dyma'r stori yn ei chyfanrwydd.

鈥淚 saw Wales鈥 First Minister, Rhodri Morgan, at Riverside Food Market, Cardiff. He was telling the owner of a dog who鈥檇 just put its head in his bag of groceries, 鈥淚 don鈥檛 think it鈥檚 right that you let your dog go round licking people鈥檚 bread.鈥

Sg诺p o ryw fath mae'n si诺r!

Ynni Niwcliar- dim diolch- wel, efallai...

Vaughan Roderick | 14:03, Dydd Iau, 17 Ionawr 2008

Sylwadau (0)

Ieuan Wyn Jones oedd y prif westai ar CF99 neithiwr. Os wnaethoch chi golli'r rhaglen cewch weld beth oedd gan y dirprwy brif weinidog i ddweud ynghylch nifer o bynciau gan gynnwys ynni niwclear a "thaith iaith" Rhodri Morgan trwy glicio yn fan hyn.

Am hanes!

Vaughan Roderick | 11:32, Dydd Iau, 17 Ionawr 2008

Sylwadau (0)

Un o'r geiriau hynny sy'n brysur colli ei werth yw "hanesyddol". Ar gychwyn cyfarfod ar y cyd rhwng y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ac un o bwyllgorau scriwtineiddio'r cynulliad heddiw defnyddiwyd y gair droeon. Hwn, wedi'r cyfan, yw'r tro cyntaf i aelodau seneddol ac aelodau cynulliad gynnal cyfarfod ar y cyd i scriwtineiddio cais am yr hawl i ddeddfu.

"Hanesyddol" meddai Cadeirydd y Pwyllgor Dethol, Hywel Francis ac wedi'r cyfan, fel hanesydd, fe ddylai wybod! "Hanesyddol" meddai Gwenda Thomas y dirprwy weinidog sy'n gwneud y cais. "Hanesyddol" meddai Joy Watson AC sy'n cadeirio'r cyfarfod.

Un cwestiwn bach. Os ydy'r cyfarfod yma mor "hanesyddol" pam mae cyn lleied o aelodau seneddol wedi trafferthu i droi fyny? Mae 'na un ar ddeg aelod o'r pwyllgor dethol. Dim ond tri ohonyn nhw sydd yn y Bae heddiw. Yn ogystal 芒 Dr Francis y ddau sydd wedi trafferthu teithio i Gaerdydd yw Hywel Williams a Si芒n James.

Dim lwc i Laura Anne

Vaughan Roderick | 15:15, Dydd Mercher, 16 Ionawr 2008

Sylwadau (2)

Dyw pethau ddim yn hawdd i gyn aelodau'r cynulliad. Cymerwch Laura Anne Jones cyn aelod Ceidwadol yn y De Ddwyrain. Collodd Laura ei sedd llynedd a dyw ei hymdrechion i adfywio'i gyrfa wleidyddol ddim wedi llwyddo hyd yn hyn.

Penderfynodd Laura ymgeisio am enwebiad y Blaid ar gyfer etholiadau Ewrop. Wedi'r cyfan gyda Jonathan Evans yn rhoi'r gorau i Strasbwrg a rheolau'r blaid yn clustnodi'r safle gyntaf ar restr Cymru ar gyfer menyw roedd hi'n gyfle amlwg iddi sicrh芒i sedd seneddol.

Nid felly y bu pethau. Y sibrwd yw bod Laura wedi methu cyrraedd y rhestr fer ac na fydd ei henw ar y papur pleidleisio pan mae aelodau'r blaid yn bwrw eu pleidleisiau Fis Mawrth.

Blaenoriaethau

Vaughan Roderick | 17:07, Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2008

Sylwadau (1)

Rydym yn gwybod erbyn hyn bod Peter Hain wedi gwario 拢185,000 yn ei ymgyrch am ddirprwy arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Ar drothwy'r etholiad hwnnw cynhaliwyd etholiad y cynulliad lle derbyniodd y Blaid Lafur ei chanran isaf o'r bleidlais yng Nghymru ers dauddegau'r ugeinfed ganrif. Byw o law i geg oedd y Blaid Lafur Gymreig yn yr etholiad hwnnw gan wario 拢254,477; llai na Phlaid Cymru a dim ond ychydig yn fwy na'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Tybed oedd Llafur Cymru yn gwybod bod ganddi gystal codwr arian yn ei rhengoedd?

Cyd-ddigwyddiadau

Vaughan Roderick | 14:24, Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2008

Sylwadau (2)

Mae'n anodd peidio bod yn sinigaidd weithiau. Cafwyd ambell i "gyd-ddigwyddiad" rhyfedd heddiw.

Yfory yn y cynulliad mae'r Ceidwadwyr wedi trefnu dadl yn galw am leihau'r baich biwrocrataidd ar ffermwyr Cymru. Bydd unrhyw un sy'n nabod ffarmwrs yn gyfarwydd a'r gwyn aef bod ffermwyr yn gorfod goddef archwiliadau cyson gan wahanol asiantaethau gan orfod ateb yr un cwestiynau tro ar 么l tro. Y bore 'ma trefnodd yr FUW frecwast arbennig i Aelodau Cynulliad ac achubodd y Gweinidog Amaeth Elin Jones ar y cyfle i wneud cyhoeddiad. Beth oedd y cyhoeddiad hwnnw? Adolygiad o'r baich biwrocrataidd ar ffermwyr Cymru. Cyd-ddigwyddiad? Efallai.

Yn y cyfamser roedd 'na wrthdystiad y tu allan i'r senedd heddiw gan rhyw ddau gant o Sikhiaid ac eraill yn protestio yn erbyn penderfynniad Ysgol Merched Aberdar i wahardd disgybl rhag gwisgo bangl crefyddol. Ymhlith y rhai a fu'n trefnu'r gwrthdystiad roedd aelod cynulliad Plaid Cymru Lenane Wood. Nawr mae'n anarferol braidd i aelod o blaid lywodraethol drefnu gwrthdystiad yn hytrach na chael gair bach ac un o weinidogion ei phlaid. Ond efallai bod Leanne wedi gwneud hynny hefyd. Wrth i'r gwrthdystwyr waeddu sloganau ddaeth newydd o'r tu fewn i'w adeilad. Fe fydd canllawiau newydd ynghylch gwisg ysgol yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi Ddydd Gwener- canllawiau fydd yn ymwneud a hawliau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol. Cyd-ddigwyddiad arall!

Cyd-ddigwyddiad hefyd, mae'n si诺r, oedd y ffaith bod Rhodri ac Ieuan yn canu'r un emyn wrth drafod Peter Hain yn eu cynhadledd newyddion heddiw. Disgwyl canlyniadau'r ddau ymchwiliad i ymddygiad Mr Hain yw'r llwybr cywir yn 么l y prif Weinidog a'i ddirprwy. Ydy Ieuan wedid dweud hynny wrth Elfyn?

Blwyddyn newydd arall

Vaughan Roderick | 10:06, Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2008

Sylwadau (2)

Dyma ni felly . Mae pawb yn 么l yn y Bae ar 么l ein gwyliau hurt o hir.

Diolch i Betsan am ein difyrru 'da troeon trwstan Peter Hain wythnos ddiwethaf. Fe fydd 'na gyfle i ddweud rhywbeth am hynny yn y man. Gobeithio y gwnaethoch chi fwynhau'r podlediadau dros y Nadolig a'r Calan. Fe fydd na bodlediad newydd Ddydd Gwener ac wrth gwrs mae'r rhaglenni gwleidyddol yn dychwelyd yn eu slotiau arferol yr wythnos hon

Ond yr eitem gyntaf ar y fwydlen heddiw yw cynhadledd newyddion ar y cyd gyda Rhodri ac Ieuan. Bydd hon yn sbort. Ydy Ieuan yn cytuno ac Elfyn ynghylch dyfodol yr Ysgrifennydd Gwladol? Fe gawn weld. Y prynhawn 'ma fe gawn ni'r fersiwn ddiweddaraf o'r gyllideb gydag ambell i newid. Ar 么l ein problemau gyda'r fersiwn wreiddiol dw i ddim yn addo gallu dadansoddi'r cyfan yn syth!

Dyma'r flwyddyn wedi dod...

Vaughan Roderick | 17:39, Dydd Mawrth, 1 Ionawr 2008

Sylwadau (3)

Maddeuwch i mi am beidio blogio dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Pe bai gen i rywbeth i rannu fe fyddwn wedi gwneud! A dweud y gwir ar 么l blwyddyn mor brysur a diddorol dw i wedi bod yn cadw draw o'r gwleidyddion a'r gwleidyddiaeth!

Yr unig wleidydd i mi weld dros yr w欧l oedd Rhodri Morgan a hynny ar hap a damwain wrth iddo fe a finnau gwneud ein siopa munud olaf yn y Tesco lleol. Yr unig beth ddwedai am hynny yw bod 'na rywbeth braf iawn ynghylch byw mewn gwlad lle mae'r Prif Weinidog yn gorfod gwthio ei droli fel pawb arall! Cyn i chi ofyn gwnes i ddim edrych i weld p'un ai'r 鈥渇inest鈥 neu'r 鈥渧alue鈥 sy'n cael ei ffafrio yn Llanfihangel-y-pwll!

Heddiw Parc Ninian amdani i wylio Caerdydd yn curo Plymouth. Dydw i ddim yn ddyn mawr am chwaraeon ond mae gwylio g锚m yn rhagori ar y s锚ls! Ta beth, trwy hap a damwain digwyddais ddarllen cofnodion y pwyllgor sy'n ceisio ffurfio ymddiriedolaeth i gefnogwyr Caerdydd fel y rhai sy'n bodoli yn y rhan fwyaf o glybiau eraill. Mae'n ymdrech ddigon clodwiw ond yr hyn wnaeth fy nharo o'r cofnodion oedd y frawddeg fach yma;

鈥淚t was agreed that we needed to bring someone in who was able to help produce bi-lingual publicity鈥

Nawr dw i ddim am wneud m么r a mynydd o'r peth ond pan mae cefnogwyr Dinas Caerdydd yn gweld yr angen i ddefnyddio'r Gymraeg mae'n arwydd o newid agwedd weddol sylfaenol mewn rhan o'n cymdeithas sydd wedi bod yn ddigon didaro neu hyd yn oed yn elyniaethus i'r iaith yn y gorffennol. Dyw hi ddim yn lot o stori ond mae'n brawf cychwyn blwyddyn gyda rhyw fymryn o newyddion da!

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.