Blwyddyn newydd arall
Dyma ni felly . Mae pawb yn ôl yn y Bae ar ôl ein gwyliau hurt o hir.
Diolch i Betsan am ein difyrru 'da troeon trwstan Peter Hain wythnos ddiwethaf. Fe fydd 'na gyfle i ddweud rhywbeth am hynny yn y man. Gobeithio y gwnaethoch chi fwynhau'r podlediadau dros y Nadolig a'r Calan. Fe fydd na bodlediad newydd Ddydd Gwener ac wrth gwrs mae'r rhaglenni gwleidyddol yn dychwelyd yn eu slotiau arferol yr wythnos hon
Ond yr eitem gyntaf ar y fwydlen heddiw yw cynhadledd newyddion ar y cyd gyda Rhodri ac Ieuan. Bydd hon yn sbort. Ydy Ieuan yn cytuno ac Elfyn ynghylch dyfodol yr Ysgrifennydd Gwladol? Fe gawn weld. Y prynhawn 'ma fe gawn ni'r fersiwn ddiweddaraf o'r gyllideb gydag ambell i newid. Ar ôl ein problemau gyda'r fersiwn wreiddiol dw i ddim yn addo gallu dadansoddi'r cyfan yn syth!
SylwadauAnfon sylw
Da iawn. Dwi wedi colli'ch podlediad dros y gwyliau. Yma ym Mrwsel, mae'r gwleidyddion wedi bod yn brysur ers wythnos a hanner...
VAUGHN
croeso nol Wedi dy golli dros y dolig. meddwl dy fod wedi gorffen blogio!!
Ie 4 wythnos o wyliau mwy a ni athrawon
OND
Ble mae'r cyswllt wedi mynd o dudalen newyddion Â鶹Éç Heb hwnnw mae'n gwneud pethau'n anoddach i gael gafael a thi!!