Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyd-ddigwyddiadau

Vaughan Roderick | 14:24, Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2008

Mae'n anodd peidio bod yn sinigaidd weithiau. Cafwyd ambell i "gyd-ddigwyddiad" rhyfedd heddiw.

Yfory yn y cynulliad mae'r Ceidwadwyr wedi trefnu dadl yn galw am leihau'r baich biwrocrataidd ar ffermwyr Cymru. Bydd unrhyw un sy'n nabod ffarmwrs yn gyfarwydd a'r gwyn aef bod ffermwyr yn gorfod goddef archwiliadau cyson gan wahanol asiantaethau gan orfod ateb yr un cwestiynau tro ar ôl tro. Y bore 'ma trefnodd yr FUW frecwast arbennig i Aelodau Cynulliad ac achubodd y Gweinidog Amaeth Elin Jones ar y cyfle i wneud cyhoeddiad. Beth oedd y cyhoeddiad hwnnw? Adolygiad o'r baich biwrocrataidd ar ffermwyr Cymru. Cyd-ddigwyddiad? Efallai.

Yn y cyfamser roedd 'na wrthdystiad y tu allan i'r senedd heddiw gan rhyw ddau gant o Sikhiaid ac eraill yn protestio yn erbyn penderfynniad Ysgol Merched Aberdar i wahardd disgybl rhag gwisgo bangl crefyddol. Ymhlith y rhai a fu'n trefnu'r gwrthdystiad roedd aelod cynulliad Plaid Cymru Lenane Wood. Nawr mae'n anarferol braidd i aelod o blaid lywodraethol drefnu gwrthdystiad yn hytrach na chael gair bach ac un o weinidogion ei phlaid. Ond efallai bod Leanne wedi gwneud hynny hefyd. Wrth i'r gwrthdystwyr waeddu sloganau ddaeth newydd o'r tu fewn i'w adeilad. Fe fydd canllawiau newydd ynghylch gwisg ysgol yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi Ddydd Gwener- canllawiau fydd yn ymwneud a hawliau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol. Cyd-ddigwyddiad arall!

Cyd-ddigwyddiad hefyd, mae'n siŵr, oedd y ffaith bod Rhodri ac Ieuan yn canu'r un emyn wrth drafod Peter Hain yn eu cynhadledd newyddion heddiw. Disgwyl canlyniadau'r ddau ymchwiliad i ymddygiad Mr Hain yw'r llwybr cywir yn ôl y prif Weinidog a'i ddirprwy. Ydy Ieuan wedid dweud hynny wrth Elfyn?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:05 ar 15 Ionawr 2008, ysgrifennodd Penyberth:

    Mae'n amlwg nag ydy Leanne wedi sylweddoli ei bod hi'n rhan o Lywodraeth Cymru...ydy him am fod y Dennis (Beast of Bolsover) Skinner, Cymreig? Ond ar y llaw arall hwyrach ei bod hi'n hawsach cwyno am bopeth na gorfod gneud penderfyniadau anodd fel aelodau cyfrifol y llywodraeth.
    Cyn bellad a mae Peter Hain yn mynd mae hi braidd yn gynnar gneud unrhyw benderfyniad ynglyn a dyfodol 'permatan'...dwi'n meddwl fod yna lot mwy i ddod allan eto...beth am Isaac Keys ar helynt ynglyn a prisiau cyffuriau ar gwasanaeth iechyd...ddylsai gweinidog y llywodraeth dderbyn arian gan y person yma?

  • 2. Am 10:52 ar 16 Ionawr 2008, ysgrifennodd tomi:

    I mi wybod dydi Leanne ddim yn aelod o'r llywodraeth. A dwi'n meddwl fod Leanne di dallt hi'n iawn - cael y canlyniad iawn AC HEFYD cael cyhoeddusrwydd drwy'r brotest gyhoeddus.
    Cyd-ddigwyddiad ta jyst gwleidydda da?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.