麻豆社

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Y Twf a'r Cadarnhau

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听,听

Blogiwr Gwadd | 09:59, Dydd Llun, 9 Ionawr 2012

Ein hadolygyudd, John Stevenson, yn pwyso a mesur y drydedd gyfrol mewn cyfres sy鈥檔 olrhain hanes y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru.

Adolygiad John Stevenson o Y Twf a'r Cadarnhau. Cyfrol 3: Hanes Methodistiaeth Calfinaidd Cymru. Golygydd J Gwynfor Jones. Gwasg y Bwthyn. 拢35.

Ymdriniaeth yw'r gyfrol hon o sut y llwyddodd enwad y Methodistiaid Calfinaidd i ennill statws a goruchafiaeth mor bellgyrhaeddol, erbyn diwedd Oes Victoria.

Yn ogystal ag ymdriniaeth ffeithiol o sut y daeth y byd mae'r nofelydd Daniel Owen yn ei ddisgrifio mor fyw i fodolaeth ceir yma hefyd gyfaddefiad digongonest fod hadau'r tranc darodd yr enwad yn yr ugeinfed ganrif wedi egino i raddau helaeth oherwydd goruchafiaeth y bedwaredd ganrif a'r bymtheg.

Is deitl y gyfrol raenus hon - y drydedd mewn cyfres arfaethedig o bedair - yw Y Twf a'r Cadarnhau, 670 o dudalennau gyda throed nodiadau defnyddiol i'r sawl sydd am gloddio ymhellach yn ogystal 芒 mynegai a llyfryddiaeth sylweddol.

Mae cyfraniadau gan rai o brif arbenigwyr Cymru ym maes hanes crefydd: pobol fel Dr Densil Morgan yn trafod Cred ac Athrawieth鈥 Dr Robert Pope yn cloriannu safbwynt yr enwad ar faterion cymdeithasol, Parchedig Andrew Jones yn trafod y gwaith cenhadola鈥檙 Dr Erin White ynmynd i'r afael 芒'r gwaith addysgiadol wnaed gan yr enwad.

Mae pennod y Dr Goronwy Prys Owen yn hynod ddadlennol mewn mannau - ond y bennod sy'n trafod Diwylliant Gweledol y Methodistiaid yn un sydd wedi colli cyfle.

Manteisiodd y gyfrol o fod yn nwylo golygyddol yr Athro J Gwynfor Jones,cyn Athro Hanes Prifysgol Caerdydd

Un peth sydd yn taro dyn yn syth yw fod y Methodistaid yn haeddu cael eu galw yn Drefnyddion gan eu bod nhw yn bobol drefnus a鈥檙 enwad yn un a ddatblygodd gam wrth gam yn hytrach nag esblygu.

Mae geiriau bachog y Parch Elfed ap Nefydd Roberts yn dweud mewn un frawddeg yn y Cyflwyniad yr hyn sy'n cael ei ddarlunio yn y 670 o dudalennau:

"Newidiodd Methodistiaeth o fod yn brofiad," meddai, "i fod yn fudiad,i fod yn sect, i fod yn enwad."

A gwerth y gyfrol yw y modd y mae鈥檔 egluro sut 听听pryd a phaham y digwyddodd y camau hynny. Sut y tyfodd clytwaith o gredinwyr yn cyfarfod mewn tai, beudai ac ysguboriau, i fod y mudiad crefyddol mwyaf grymus a phell gyrhaeddodd ei ddylanwad ers goruchafiaeth yr Eglwys Babyddol yng Nghymru'r Canol Oesoedd.

Wrth ddilyn y trywydd, mae'n amlwg bod yna sgwarnogod i'w codi.

Ond a oedd angen atgoffa'r darllenydd deirgwaith cyn Pennod 1 mai hon yw'r drydedd mewn cyfres y gwelwyd ei chychwyn ddeng mlynedd ar hugain yn 么l . . . yn ystod Saithdegau'r ganrif ddiwethaf!

Yn ei Gyflwyniad,dywed Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, y Parchedig R O Roberts: "Nid tasg fechan oedd crynhoi dros ganrif o hanes ein Heglwys mewn un gyfrol"

Cwestiwn a godir gan ambell un yw, ai doeth oedd hyd yn oed mentro ar y fath dasg? O fod wedi darllen y gyfrol, gallaf ddweud heb unrhyw amheuaeth i鈥檙 fenter fwy na phrofi ei werth.

Ond wrth ddweud hynny mae鈥檔 werth gofyn hefyd; Ar gyfer pwy yr ysgrifennwyd y gyfrol? Yr ysgolhaid arbenigol? Yr aelod cyffredin? Ynteu unrhyw un sy'n ymddiddori mewn hanes diweddar?

Wrth ystyried hyn, daw un peth yn sicr iawn; ei bod yn hen bryd i'r enwadau yng Nghymru ymddihatru o鈥檙 difaterwch yngl欧n 芒 hanes: difaterwch sydd wedi lapio amdanyn nhw fel clustog gysurus.

Bron iawn nad awn cyn belled ag awgrymu y dylid defnyddio'r llyfr fel cyfrol osod mewn dosbarthiadau derbyn, dosbarthiadau hyfforddi blaenoriaid ac yn sicr wrth baratoi pregethwyr a gweinidogion. Wedi'r cwbwl, heb wybod o ble y daethpwyd sut mewn difrif calon maegwybod ble i fynd nesaf.

Hanes o densiwn a thyndra rhwng 'Profiad' a'r 'Prifio' sydd yma ac mae arolwg J Gwynfor Jones ar gychwyn y gyfrol yn olrhain sut y llwyddodd yr egin enwad i oroesi tanbeidrwydd y blynyddoedd cynnar yn feistrolgar.

Blynyddoedd y torfeydd lluosog yn Y Bala a Threfeca gyda dynion a merched yn cerdded milltiroedd i glywed mawrion yr enwad yn pregethu.

Blynyddoedd gwewyr enaid Ann Griffiths ac yng ngeiriau Williams Pantycelyn, blynyddoedd yr oedd Howell Harrisyn "ddyn mewn twym ias. Yn llawn gwreichion golau tanllyd, O Drefecca-fach i maes."

Yn araf o ugeiniau'r bedwaredd ganrif arbymtheg pylodd y "gwreichion golau tanllyd" ac yn ei le, daeth Ffenics o'r lludw a phrifiant y Ffenics hwnnw yw maes llafur y gyfrol hon.

Mae dwy flwyddyn allweddol, 1811 ac 1823.

"Daeth newid pwysig i statws pregethwr," meddai Dr Goronwy Prys Owen, "yn 1811 pan ddechreuwyd neilltuo nifer ohonyn nhw i weinyddu'r sacramentau"

Camsyniad ydi meddwl fod y dynion gafodd eu hordeiniowedi eu neilltuo i fod yn bregethwyr gan mai gweinyddu'r Cymundeb oedd eu priod gyfrifoldeb.

Wedi'r Ordeinio, felly, roedd dosbarth ar wah芒n i gyflawni swyddogaeth oedd bron a bod yn offeiriadol.Cafwyd blas o pa mor neilltuol yn nyfyniad Goronwy Prys Owen o gofnodion Cyfarfod Blaenoriad yr Hen Gorff (1849)

"Mae Gweinidog Crist yn cymeryd ei le Ef wrth y Bwrdd. Mae'n ynganu'r geiriau yr ynganodd Ef. Mewn gair mae'r Gweinidog yn cynrychioli Crist yng ngweinyddiad y Sacrament."

Onid ydi'r safbwynt yna bron a bod yn Babyddol ac yn safbwynt cwbwl wahanol i honno gan yrHen Ymneilltuwyr Cymreig,sef Offeiriadaeth yr holl Gredinwyr? Ai corff Ymneilltuol/

Anghydffurfiol ydi'r Methodistiaid?

Enghraifft arall o'r tensiwn rhwng y profiad a'r prifio yw鈥檙 penderfyniad fod yr enwad newydd angen Cyffes Ffydd ac fel mae pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi maniffesto, dyna wnaeth y Methodistiaid yn 1821 ac mae ymdriniaeth DensilMorgan o'r digwyddiad allweddol hwnnw yn afaelgar.

Pwrpas y ddogfen oedd "crynhoi y gwirioneddau mawr am Dduw, ei Fab, am yr Ysbryd Gl芒n am yr Iawn a'r Iachawdwriaeth; am nefoedd ac uffern; am sancteiddrwydd ac am bechod".

Maniffesto'r Tragwyddol oedd y Gyffes Ffydd. Sawl enwad a chorff o gredinwnyr drwy hanes gafodd eu rhwygo gan y dadlau diwinyddol am eiriad yr hyn oedden nhw yn gredu?

Ond, ac er i ambell un godi llais i anghytuno, digon diffwdan oedd y drafodaeth i gael s锚l bendith ar gynnwys y Gyffes Ffydd newydd. Arwydd o'r awydd i beidio ail godi hen grachen oedd geiriau John Elias: "Fe fyddai'n well gennyf golli fy mraich ddeau na cholli'r geiriau yma o'r Gyffes Ffydd鈥.

Roedd y Gyffes Ffydd wedi eu llunio,"i uno'r holl frodyr yn agosach y naill a'r llall".

Yn hyn sy'n datgelu'r tensiwn rhwng 'profiad' a 'prifio' ydi gweddill y dyfyniad nad oedd y Gyffes Ffydd yno i "gaethiwo unrhyw frawd yn y rhyddid mae yr Efengyl yn ganiat谩u".

Mae Densil Morgan yn awgrymu,fod yna hunan fodlonrwydd wedi dechrau cydio erbyn canol y ganrif o sefydlu rhyw ganolbwynt cyffredin 鈥渓le y gall pawb ymuno a chyd-fyned yn esmwyth a'i gilydd鈥 a thueddu at les芒d cyffredinol y Cyfundeb.

Doedd ddim s么n am "les芒d cyffredinol" yn neunawfed ganrif y berw dadleuol tanbaid rhwng Calfiniaid ac Arminiaid. Yn amlwg, erbyn canol y ganrif roedd "gwrthdaro'r pendantrwydd" yn rhan o orffennol y Methodistiaid ac wrth i flynyddoedd y bedwaredd ganrif a'r bymtheg dynnu mlaen, daeth yr enwad yn fwy Presbyteraidd.

Hoffwn fod wedi cael gwybod mwy am gyfraniad Lewis Edwards yn y gwaith o 鈥榖resbyterio'r鈥 Cyfundeb.

Cafodd Edwards ei addysg yn yr Alban a thrwy hynny cafodd gyfle i weld a'i lygaid ei hun y manteision a'r bendithion ddaeth i Bresbyteriaeth yr Alban. Yn ddiamau, erbyn diwedd y bedwaredd ganrif a'r bymtheg, roedd y Methodistiaid yng Nghymru wedi magu digon o hunanhyder i ystyried eu hunain felly.听听听听

Gweinidogaeth lawn amser; gweinidogion gafodd fanteision addysg; gweinidogaeth y goler gron, y ffrock coat a'r het silc: gweinidogaeth Gymreig a Chymraeg oedd yn gallu cystadlu am statws cymdeithasol gyda'r Eglwys Anglicanaidd.

Dyma enwad oedd yn gallu anfon cenhadoni bedwar ban byd a thorri allan aelodau oedd yn tramgwyddo. Enwad a oedd, yn 1899, yn llwyddo i gasglu 拢237,640 gan yr aelodaeth - 拢13.5 miliwn yn arian heddiw!

Does ryfedd erbyn 1907, bron i ganrif wedi鈥檙 ordeinio yn y Bala, fod arweinwyr Methodistiaeth yn gallu ymffrostio "fod sefyllfa'r Cyfundeb yn achos gorfoledd i bawb oedd yn ei garu".

Ond yn sawl un o benodau鈥橰 gyfrol mae islais fod yr enwad a gafodd ei eni yn ffwrn y Diwygiad Methodistaidd, wedi talu pris go drwm.

Yn Sasiwn Y Rhyl er enghraifft,mynegwyd pryder yngl欧n 芒 natur y Seiat. Y Seiadau, wedi'r cwbwl, oedd meithrinfa'r credinwyr cynnar. O'r preiddiau bychain hyn y tyfodd Behemoth Methodistaidd diwedd y ganrif.

Nododd y Sasiwn hwnnw; "gynt yr oedd y seiat yn seiat brofiad ond bellach nid adroddir profiadau ynddi".

Yn y gyfrol mae'r Athro J Gwynfor Jones yn addo y bydd y gyfrol nesaf yn trafod "yr amgylchedd pell gyrhaeddol ac i'r haeriadau tanseiliolbarodd argyfwng y cred diafol hwnnw yn y degawdau wedi cyflafan 1914-1918".

Gobeithio na fydd angen disgwyl deng mlynedd a'r hugain arall cyn iddi weld golau dydd!

John Stevenson

  • Gweler hefyd:

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.