麻豆社

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Gwahodd artistiaid

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 13:36, Dydd Llun, 9 Ionawr 2012

Mae yr Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am artistiaid a chrefftwyr i ddangos eu gwaith yn arddangosfa agored 鈥榊 Lle Celf鈥 yn Bro Morgannwg fis Awst.听


Fel rheol mae鈥檔 agos i dair mil o artistiaid yn gwwneud cais am gael ymunoa鈥檙 arddangosfa hon.

Wrth estyn gwahoddiad i artistiaid ymgeisio am le eleni disgrifiodd Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol y Brifwyl, yr arddangosfa fel 鈥渦n o binaclau ein calendr diwylliannol鈥 ac yn adlewyrchu鈥檙 rhagoriaeth, dyfeisgarwch ac ymroddiad artistiaid.


鈥淢ae hi鈥檔 rhan annatod o wead y celfyddydau gweledol. Mae sioe flynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu鈥檙 gorau o fewn y celfyddydau gweledol yng Nghymru ac mae鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei arddangos ynddi鈥檔 cael ei ystyried fwyfwy o safon ryngwladol,鈥 meddai.


Y tri fydd yn dewis y gweithiau i鈥檞 harddangos fydd; Declan McGonagle, beirniad celf o Iwerddon a Chyfarwyddwr Coleg Cenedlaethol Celf a Dylunio, Dulyn, Sean Edwards, artist a mentor o Gaerdydd, a Laura Thomas, artist cymhwysol a churadur o Urdd Gwneuthurwyr Cymru.
Hwy hefyd fydd yn dyfarnu鈥檙 Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio a鈥檙 Ysgoloriaeth Artist Ifanc


Fel rheol mae dros 2,750 o geisiadau yn dod i law i鈥檞 hystyried a鈥檙 rhai sy鈥檔 cael eu dewis yn cael eu gweld gan rhyw 40,000 o ymwelwyr 芒鈥檙 le Celf ar faes yr Eisteddfod.


鈥淩wy鈥檔 edrych ymlaen at gael fy nghyflwyno i waith artistiaid a fydd, ar y cyfan, yn anadnabyddus i mi a gweld sut y maen nhw鈥檔 mynegi eu syniadau, defnyddio amrywiol gyfryngau ac ymdrafod 芒鈥檜 synnwyr o amser a lle,鈥 meddai Declan McGonagle sy鈥檔 ystyried yr arddangosfa fel lle i ddangos 鈥測r annisgwyl, yr anarferol a鈥檙 anhysbys鈥.


Ychwanegodd bod hwn yn gyfle hefyd i artistiaid nad ydynt yn rhan o鈥檙 brif ffrwd iarddangos.
Bydd rhai yn cofio Declan McGonagle yng Nghymru yn 2004 yn helpu dethol gwobr ryngwladol gyntaf erioed Artes Mundi.


鈥淵ng nghyd-destun Cymru, bydd yn ddiddorol gweld sut y mae artistiaid yn ymdrin 芒 materion yn ymwneud 芒 hunaniaeth ddiwylliannol, boed yn drefol neu wledig,鈥 meddai. 鈥淗efyd, sut y maen nhw鈥檔 dod i delerau gyda鈥檙 gwrthdaro rhwng bywyd traddodiadol a chyfoes a鈥檙 gwrthdaro rhwng creu gwrthrychau ac arfer ddigidol neu rith gyfryngol.鈥

Gwahoddir gweithiau gan rai a aned yng Nghymru, neu ag iddynt rieni o Gymry, neu a fu'n byw neu'n gweithio yng Nghymru am y tair blynedd cyn Awst 4 2012, neu unrhyw berson sy'n siarad neu ysgrifennu Cymraeg.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.