Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau cyntaf 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:58, Dydd Gwener, 6 Ionawr 2012

Diwedd wythnos, dechrau dyfynnu. Ein detholiad arferol o ddyfyniadau wythnosol a
gwahoddiad fel arfer i chi ychwanegu atyn nhw neu i ymateb iddyn nhw . . .

• Y peth mwyaf rydych chi ei eisiau dros yr wyl ydi llonydd i ddarllen. Dyna’r moethusrwydd pennaf, a gwir ystyr gwyliau. Nid y bwyd. Nid y cwmni a’r partïon ond awr ddi-dor mewn cadair esmwyth yn cael llonydd i ddarllen – Angharad Tomos yn atodiad ‘Yr Herald Cymraeg’ yn y ‘Daily Post’.

• Mae o mor gefnogol i’r Gymraeg, o ddifrif. Nid jest ei ddweud o fel ‘lip sercice’. Mae o wir yn credu bod y Gymraeg yn rhan bwysig o be’ sy’n gwneud Bangor yn arbennig. Mae o mor galonogol cael rhywun fel’na . . . weithiau mae angen rhywun o’r tu Alan i weld hynny’n iawn – Jerry Hunter o gynllun ‘Pontio’ Prifysgol Bangor am bennaeth y coleg, y Gwyddel, Dr John Hughes, yn ‘’.

• Wedi’r tamaid yna, byddwch yn barod am hanner mis o law heddiw – Pennawd yn y ‘Western Mail’ yn darogan diwrnod glawog iawn ddydd Mercher.

• Mae hon yn gystadleuaeth yr ydym eisiau i i bawb yng Nghymru ymddiddori ynddi – Rhuanedd Richards, prif weithredwr Plaid Cymru am frwydr yr arweinyddiaeth.

• Ac yn oes y cusanu mawr wrth gyfarch pobl sydd heddiw yn rhemp, rwyf innau wedi gwneud adduned ar gyfer y flwyddyn newydd na fyddaf yn cusanu yr un cyfaill na dieithryn; jyst rhag ofn – Menna Elfyn yn ymateb yn y ‘Western Mail’ i gusan Kate Roberts a arweiniodd Alan Llwyd i ddyfalu am ei rhywioldeb yn ei gofiant, ‘Kate’.

• 1,045 – Y nifer o gopïau ar gyfartaledd o bob llyfr Cymraeg a werthir yn ystod y deunaw mis wedi ei gyhoeddi yn ôl .

• 2-0 – Sgôr Abertawe yn erbyn Aston Villa tra’n ennill eu gêm gyntaf oddi cartref yn yr uwch gynghrair.

• Bydda i’n chwilio am waith fel pawb arall – Gwyn Elfyn am ymadawiad ei gymeriad Denzil o ‘Bobol y Cwm’. Bu’n chwarae’r rhan am 28 mlynedd.

• Dwi'n meddwl bod gan bawb hawl dewis be i wneud efo'u bywyd. Does 'na neb yn gofyn am gael eu geni a neb yn gofyn am salwch - Anwen Hughes o Fangor, sy'n dioddef o Sglerosis Ymledol yn ymateb i adroddiad ‘Hawl i Farw’.

• Roedd gormod o bwyslais ar unrhywun sy’n adnabyddus i bobol sydd ddim yn siarad Cymraeg . . .Rhaglenni Saesneg yn Gymraeg. Dwy raglen amlwg yn hyrwyddo ‘The One Show’ – Angharad Mair yn ymateb yn ‘Golwg’ i raglenni’r Nadolig a’r calan ar S4C.

• Gwych o beth fyddai gweld Arwel yn rhedeg stondin Bovril wrth gornel Heol Eglwys Fair a Heol yr Eglwys [Caerdydd] – er heddwch i’n teuluoedd, ac yn wers ymarferol i’r genedl swrth anentrepreuraidd hon – Tim Saunders mewn llythyr yn ‘Y Cymro’ wedi dod o hyd i rywbeth i Arwel Eis Owen ei wneud ymhlith jolihoetwyr Caerdydd ar ôl trosglwyddo awenau S4C i’w olynydd.

• Credaf fod gan bawb gyfrifoldeb i edrych ar ôl y byd ydan ni’n byw ynddo fo, y Greadigaeth, pwy bynnag ydym ni’n meddwl sydd wedi ei greu – John Houghton, enillydd Gwobr Nobel.

• Mae ymosodiadau hiliol yn dal i ddigwydd yn ddyddiol ond dyw hyn ddim yn rhywbeth sy’n cael ei grybwyll yn aml – AlicjaZalesinska o fudiad Race Equality First yn mynegi pryder am hiliaeth yng Nghaerdydd, yn enwedig ar stadau tai cyngor.

• . . . cyrraedd ei ddesg am 8.09 y bore, gwario £3.23 ar ginio, yfed tair paned o de neu goffi a daldau gyda chydweithiwr unwaith bob dydd – Diwrnod arferol y gweithiwr cyffredin yn ôl arolwg gan gwmni Mars sy’n cael sylw yn y Western Mail.

• A’r gynghrair honno [Cynghrair Bêl-droed Cymru] a’i statws yw’r sail bwysicaf i ddyfodol FA Cymru a’n tîm cenedlaethol yn hytrach na’r drafodaeth ar dîm GB – Lefi Gruffudd yng nghylchgrawn y ‘Western Mail’ ddydd Sadwrn diwethaf.

• Dw i’n dal i fynd yno’n rheolaidd i brynu cocos a bara lawr a’r holl gynnyrch ffermio – Tony Lewis, y cricedwr, yn parhau ei gysylltiad ac Abertawe ac yn canu clodydd y ddinas yn ‘Y Cymro’.

• Fe fyddwn yn eithriadol o falch cael chwarae i’r Alban – Steve Shingler sydd wedi chwarae i Gymru dan 21 oed hyd yn hyn..

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.