Dyfyniadau
A dyma ni. Dyfyniadau olaf 2011. Mi gwelai chi nesaf y flwyddyn nesaf. Blwyddyn newydd dda i bawb. 听.
听
- Ar ddechrau 2011 roedd y brifysgol . . . yn un o'r sefydliadau mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Gyfun. Erbyn diwedd mis Hydref i bob pwrpas roedd hi ar fin cael ei diddymu 鈥 Gwefan y 麻豆社 yn edrych yn 么l dros y flwyddyn ym myd addysg.
- Caefa 鈥 Enw cynllun blwyddyn dan arweiniad cerddor, ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru i nodi cau ysgol Y Parc ger Y Bala.
- Y听broblem yw'r meddyliau tywyll. Fydd bywyd ddim yr un peth eto 鈥Christian Patterson, tad Harry, bachgen pump oed a laddwyd pan lithrodd i lawr dreif eu cartref. Dywed y dylid defnyddio peth o arian cronfa er cof amdano i gynorthwyo teuluoedd eraill mewn sefyllfa debyg.
- Os听ydym ni tra鈥檔 eistedd yn ein capeli yn disgwyl i bobl ddod atom, mae angen dweud nad yw hynny鈥檔 mynd i ddigwydd. Mae Cristnogaeth i fod yn ffydd genhadol ac mae hynny鈥檔 golygu fod yn rhaid i ni fynd at y bobl, nid disgwyl iddyn nhw ddod atom ni 鈥 Y Parchedig Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr yn 鈥榊 Tyst鈥.
- Treuliodd [Iesu Grist] y rhan fwyaf o'i weinidogaeth allan ar y stryd, nid mewn synagogau a themlau ond yn pregethu i bobl gyffredin 鈥 Archesgob Cymru, y Dr Barry Morgan, yn ei neges Nadolig.
- Pa un ai ydech chi鈥檔 credu fod Crist yn fab Duw neu鈥檔 ddyn rhyfeddol, does dim angen yr addurniadau allanol sydd wedi eu creu gynnon ni. Mi allwch weld y neges heb goelio鈥檙 stori 鈥 Dylan Iorwerth yn y 鈥榃estern Mail鈥 ddydd Iau.
- Does dim dwywaith y bydd y deuddeng mis nesaf yn rhai anodd 鈥 Y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC.
- Rydym wedi gwirioni鈥檔 l芒n 鈥 Un o aelodau Capel Pendref, Bangor, yn cael ei ddyfynnu yn 鈥榊 Tyst鈥 ar 么l clywed i鈥檙 gweinidog y Parchedig Huw John Hughes ennill doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
听 - Os ydach chi'n chwilio am her, yn chwilio am ffordd o gadw'n heini neu golli pwysau yn 2012, gall yr her yma fod yn ddelfrydol - Kelly Walton o elusen Canser y Fron yn ceisio perswadio pobl i gerdded i gopa y mynydd uchaf yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban.
- Allwch chi ddim agor llyfr heb ddysgu rhywbeth 鈥 Confucius yn cael ei ddyfynnu gan Bethan Gwanas yn atodiad 鈥榊r Herald Cymraeg鈥 yn y 鈥楧aily Post鈥. Cafodd hi ei dychryn o sylweddoli 鈥渂od dros bedwar miliwn o blant Prydain ddim yn berchen ar lyfr . . . yr un rhiant na nain neu daid neu fodryb wedi prynu llyfr iddyn nhw erioed鈥!
- Mae'r lle yn debyg i mi y dyddiau hyn; ychydig yn hen ac yn fusgrell ac mae'n hen bryd i ni symud ymlaen - Gwyn Pierce Owen, Llywydd Anrhydeddus Clwb P锚l-droed Bangor, sy鈥檔 ffarwelio 芒 chae Ffordd Farrar a symud i faes newydd.
- Hyn oedd creulondeb milain chwaraeon 鈥 Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn ail fyw yn y 鈥榃estern Mail鈥 ddydd Iau gerdyn coch Cwpan y Byd, fis Hydref. 鈥淭eimlwn fel pe byddwn wedi cael dwrn yn fy solar plexus,鈥 meddai.