Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dau am un

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:38, Dydd Sul, 15 Mai 2011

Bydd cyfle i ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd, Abertawe a'r Fro, eleni fanteisio ar gynnig i brynu dau docyn oedolyn am bris un - a bydd plant yn cael mynd i'r Maes am ddim ar ddydd Sadwrn olaf yr ŵyl, Mehefin 4.

Bu cynllun tebyg yn llwyddiannus yng Eisteddfod yr Urdd, Bae Caerdydd 2009.

Mae ar gael i bawb fydd yn mynychu'r Maes ar Sadwrn olaf yr Eisteddfod.

"Fydd dim angen llenwi ffurflen na chofrestru er mwyn manteisio ar y cynnig hwn," meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

Ychwanegodd: " Os nad yw rhai o'r trigolion lleol wedi cael cyfle i flasu awyrgylch unigryw yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos am ba bynnag reswm, yna bydd croeso cynnes iddynt ddod draw ar y Sadwrn olaf a manteisio ar y cynnig arbennig hwn."

Bydd yr Eisteddfod yn cychwyn eleni gyda Chyngerdd Agoriadol arbennig nos Sul, Mai 29 gyda John Owen-Jones, Cerys Matthews, Alex Jones, Shaheen Jafargholi, Ysgol Gerdd Mark Jermin, Dawnswyr Talog, enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru Elgan Llyr Thomas a chast sioeau cerdd ysgolion cynradd ac uwchradd dinas a sir Abertawe.

• Cynhelir yr Eisteddfod yn Felindre rhwng Mai 30 a Mehefin 4 .

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.