Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Lawr i dri

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:12, Dydd Iau, 19 Mai 2011

Heno, bydd dipyn yn haws penderfynu ar pa lyfr i fetio yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.

Rhwng chwech a saith yn Galeri, Caernarfon ac ym mar Espresso John Lewis, Caerdydd datgelir y rhestr fer o dri.

Yn John Lewis bydd Heledd Cynwal a'r beirniaid Kate Crockett a Jon Gower ac yn Galeri bydd Morgan Jones a'r beirniaid Deborah Kay Davies a Gerwyn Wiliams gyda pherfformiad byw gan Lleuwen Steffan i gloi'r noson.

Dewisir y tri llyfr o blith y deg ar y Rhestr Hir: Lladd Duw gan Dewi Prysor, Caersaint gan Angharad Price, Gwenddydd gan Jerry Hunter, Creigiau Aberdaron gan Gareth F. Williams, Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet gan Gwyn Thomas, Cân yr Alarch gan William Owen, Cyffesion Geordie Oddi Cartref gan Tony Bianchi, Bydoedd gan Ned Thomas, Ar Fôr Tymhestlog gan Elin Haf a Hugh Griffith gan Hywel Gwynfryn.

Ond mae cyfle i chi a finna wneud ein dewis ninnau hefyd gyda ar Wefan Golwg360 gyda'r llyfrr hwnnw hefyd yn cael ei anrhydeddu yn seremoni Llyfr y Flwyddyn, Cineworld Caerdydd, Gorffennaf 7.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.