Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Jyglio llyfrau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:12, Dydd Sadwrn, 7 Mai 2011

Fydd hi'n bosibl iddyn nhw gael cystadleuaeth Lyfr y Flwyddyn Cymru yn iawn - unrhyw dro, byth?

Bu cwyno yn y gorffennol pa mor anodd yw hi i feirniaid bwyso a mesur gwahanol fathau o lyfrau yn erbyn ei gilydd - barddoniaeth yn erbyn nofel ac yn y blaen.

Ac wele Llenyddiaeth Cymru - enw newydd Yr Academi sy'n rhedeg y gystadleuaeth - yn addo beirniadu fesul categori y flwyddyn nesaf.

Ochenaid o ryddhad cenedlaethol felly?

Wel na. Yn rhifyn mis Mai o sydd newydd ei gyhoeddi mae'r nofelydd a beirniad llenyddol John Rowlands yn dal i weld bwganod!

Wrth sôn am y bwriad i "rannu'r llyfrau'n gategorïau y flwyddyn nesaf, sef ffuglen, llyfrau ffeithiol a barddoniaeth" dywed:

"Ond rhyfedd yw meddwl y gall hynny hefyd greu annhegwch.

"Ystyrier," medda fo, "mai dim ond un gyfrol o gerddi sydd ar y Rhestr Hir eleni, sef eiddo Gwyn Thomas. Petai yna gystadleuaeth ar gyfer y beirdd yn unig, byddai llyfr Gwyn Thomas yn cael buddugoliaeth rwydd, heb lawer o gystadleuaeth.

"Ond y mae pedair nofel ar y Rhestr Hir, ynghyd â chyfrol o straeon byrion, sy'n awgrymu bod ffuglen Gymraeg yn rhagori ar farddoniaeth ar hyn o bryd.

"Wrth gwrs, fe all pethau newid yn ddisymwth. Ac a fydd raid dewis beirniaid gwahanol ar gyfer y gwahanol gategorïau?

"Diddorol fydd gweld sut bydd y gystadleuaeth yn esblygu," medda go.

Wel ia. Mi allai ddychmygu ymhen deng mlynedd y bydd beirniad ar gyfer pob llyfr - a neb yn colli.

Siawns na fyddai pawb yn hapus wedyn.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.