Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Arwyddion hwyl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:06, Dydd Sadwrn, 29 Mai 2010

Mae'r wobr am yr arwydd cyntaf o Eisteddfod yr Urdd 2010 yn mynd i Dalybont rai milltiroedd i'r gogledd o Aberystwyth.

Yno y gwelais faneri coch gwyn a gwyrdd gyntaf a symbolau'r Urdd ar ochr y ffordd.

Neges ar y mynydd
Mae yna gwyno wedi bod yn y gorffennol nad yw'r baneri a'r trimins mor amlwg ag y gallen nhw fod - doedd yna nemor ddim y llynedd yng Nghaerdydd i nodi bod "gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop" yn cael ei chynnal yn y Brifddinas.

Er ei bod yn denau o gwmpas Aberystwyth ni all neb feirniadu'r Cardis o ddiffyg brwdfrydedd banerog ac ar fryn uwchlaw maes y Steddfod mae rhywun wedi gosod neges glir hefyd.

Hanner dydd bnawn Sadwrn ac mae rhywun yn teimlo'n Steddfodol yn barod.

Ond heb ddechrau canu cân Mr Urdd hyd yn hyn.
Fory falle . . .

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.