Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mynd fel fflamia

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:26, Dydd Sul, 30 Mai 2010

Beth bynnag arall ddaw o'r Eisteddfod hon mae un llwyddiant diamheuol weddi ei sicrhau yn barod.

Cyngerdd Plant y Fflam disgyblion ysgolion uwchradd yr ardal a berfformiwyd gyntaf nos Wener yn Theatr Felinfach gerllaw.

Sioe ydi hi wedi ei sylfaenu ar ganeuon Plant y Fflam Edward H Dafis gyda 60 o bobl ifanc wedi gwefreiddio'r gynulleidfa gyda chynhyrchiad Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch.

O ddau cynyddodd nifer y perfformiadau i dri a bellach i saith cymaint yw'r galw am docynnau. Maen nhw fel aur.

Yr ydw i'n gobeithio gweld perfformiad y pnawn yma ac mi gewch wybod sut yr aeth y cynhyrchiad sy'n gymysgedd o ynni ieuenctid heddiw a hiraeth am a fu 30 mlynedd yn ôl.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.