Medde nhw . . .
Teledu du a gwyn, newid byd Mike Phillips, dyfodol neuadd Gymraeg - rhai o'r pethau gafodd sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau ers dydd Gwener diwethaf.
Ein casgliad wythnosol o ddyfyniadau a gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr a'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.
- Mae pobl yn meddwl ein bod ni eisiau cyhoeddusrwydd. Rydw i'n cadw'n glir ohono - Mike Phillips, mewnwr Cymru, sy'n dweud i'w fywyd newid yn sgil ei gyfeillgarwch â Duffy.
- Allai ddim credu imi ei gweld yn y cnawd. Mae'n swnio'n wych ac yn edrych hyd yn oed yn well - Michael Jones o Gaernarfon wedi ei blesio efo Cheryl Cole ym Mhenwythnos Mawr Radio 1.
- Mi gefais i ddiwrnod pleserus iawn ar wahân i'r canlniad - Sarah Kilcoyne o fae Caerdydd yn dilyn gêm Caerdydd a Blackpool yn Wembley.
- Dyw hi ddim yn bosib mynd lawer iawn yn is . . . mae S4C yn llai erbyn hyn na nifer o gwmnïau sy'n cyflenwi rhaglenni i ni - Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, yn ymateb yn 'Golwg' i doriadau arianno.
- Mae'r ddiarhebol hwch wedi mynd drwy'r siop ac yn gwneud ei ffordd allan drwy'r drws cefn i sglaffio yn y bins tu allan - Iwan Edgar un o gyfranddalwyr Barcud Derwen yn ymateb yn 'Golwg' i ddyddiau dyrys y cwmni.
- Does yna ddim tystiolaeth o gwbl i awgrymu bod y Gymraeg o dan unrhyw fygythiad o ddiflannu am fod pobl yn defnyddio cymaint o eiriau Saesneg wrth ei siarad - Margaret Deuchar, Cyfarwyddwr Canolfan Astudio Dwyieithrwydd Prifysgol Bangor.
- Nid capeli mawr oer gyda seddau caled yw'r dyfodol ond canolfannau sy'n perthyn i heddiw ac yn groeso i gyd - John Gruffydd Jones, Golygydd 'Y Goleuad'.
- O wybod bod y staff, y beirniaid a'r gwirfoddolwyr yn cael tocynnau bwyd am eu gwasanaeth [yn Eisteddfod yr Urdd] mawr hyderaf . . . na fydd arian caredigion y Sefydliad yn cael ei ddefnyddio i dalu am y gwinoedd a geisir gan rai o'r bwytawyr - Lynne Richards o Dregaron mewn llythyr yn 'Y Cymro'.
- Un o fanteision byw yn y de ydi nad ydych chi byth yn gweld y Daily Post - Gareth Miles ar Raglen Richard Rees, Â鶹Éç Cymru.
- Am y tro cyntaf ers y gallai gofio yr ydym yn gweld dawn sgrifennu eithriadol yng Nghymru," Peter Florence, cyfarwyddwr Gŵyl Lyfrau Y Gelli.
SylwadauAnfon sylw
Mae Margaret Deuchar yn hollol gywir, pam ydyn ni dal yn dadlau am y pwnc yn 2010?