Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cripio a brathu

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 14:06, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009

Yr oedd yn rhyw fath o reol aur ymhlith newyddiadurwyr ers talwm nad oedd ci yn brathu ci.

Hynny yw, y dyddiau hynny, byddai newyddiadurwr yn gwneud ei orau i beidio ag ymosod yn gyhoeddus ar un arall.

Ond fel y gwelodd Jan Moir y Daily Mail yn ddiweddar mae'r dyddiau boneddigaidd "dog doesn't eat dog" hynny wedi hen ddarfod.

Yr un modd ym merddwr adolygu Cymraeg ac o fewn oriau i'w gilydd yr oedd rhywun yn clywed yr wythnos hon ddramodydd yn ymosod yn chwyrn ar ddramodydd arall ac yn darllen ymosodiad llym nofelydd ar nofel nofelydd arall.

At Meic Povey - y mae taith ei ddrama ddiweddaraf gyda Chwmni Theatr Cymru ar fin dirwyn i ben - yr anelodd Gareth Miles ei ergydion ef
gan ddisgrifio drama "Meic," chwedl yntau, fel un fyddai "'di pasio ar lwyfan neuadd bentref ddeng mlynedd ar hugain yn ôl" ond yn un na ddylai'r Theatr Genedlaethol ei llwyfannu heddiw.

Wedyn, y nofelydd fu'n tynnu ei hewinedd o'r blew yw Elin Llwyd Morgan a nofelwraig arall, Fflur Dafydd, sy'n cael ei chripio ganddi mewn erthygl yn rhifyn Tachwedd o'r cylchgrawn
.

Wel, ei nofel, Y Llyrgell, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, fis Awst.

Er cymaint o ganmol fu yna ar y nofel mae Elin yn cyfaddef iddi hi golli diddordeb ynddi "ar ôl ychydig benodau" pan ddechreuodd ei darllen yn ystod yr eisteddfod.

Byrdwn llawer o'r 'beirniaid canmol' oedd gwreiddioldeb y nofel.
Dim o'r fath beth yn ôl Elin:

"Mae'r nofel wedi'i gosod yn 2020, gyda merched wrth y llyw [yn y Llyfrgell Genedlaethol] a dim llyfrau ar ôl gan fod popeth ar ddisg. Darogan treiddgar? Dim mwy na'r proffwydoliaethau y deuthum ar eu traws wrth feirniadu cystadlaethau llên yr Urdd yn Eisteddfod Môn yn ymwneud â'r dyfodol - a dweud y gwir, roedd rhai o'r rheini yn fwy craff a dychmygus," meddai Elin yn ddeifiol.

Clawr 'Y Llyfrgell' - y peth gorau amdani!
Ond tybed a welodd hi unrhyw beth i'w ganmol am Y Llyfrgell. Wel do'n wir. Ond canmoliaeth ddeufin yw honno hefyd:

"Y peth gorau amdani i mi oedd y clawr cartŵn-noir, sy'n gwneud i mi feddwl y byddai hi wedi bod yn fwy effeithiol fel nofel graffig, yn enwedig gan y byddai'r genre hwnnw wedi gweddu i'w naws antur-ffarsaidd."

Bydd yn rhaid maddau i Fflur Dafydd os na fydd yn gweld dim byd comic yn y sylw yna.

A beth amdanom ni? A ydym ni i groesawu'r cripio a brathu hwn ymhlith ein llenorion.
Pam lai?

Wedi'r cyfan rydw i'n edrych ymlaen fwy nag erioed yn awr at weld drama nesaf Gareth Miles a nofel nesaf Elin Llwyd Morgan - dim ond i gael gweld beth fydd gan Meic Povey a Fflur Dafydd i'w ddweud amdanyn nhw.

Efallai bod adolygwyr a beirniaid Cymraeg yn or garedig â chynnyrch ein hawduron ond nid felly yr awduron eu hunain.
Ac mae hynny yn hwyl.
Miaw.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.