Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Jysdabowt rîli, rîli, anoïng

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:45, Dydd Sul, 1 Tachwedd 2009

John  Gruffydd Jones.jpg
So, ydych chi wedi cael jysdabowt gytsffwl o'r gair 'really' yna sydd mor lluosog ei ddefnydd yn y Gymraeg erbyn hyn?

Neu "rîli" - i roi iddo y sillafiad Cymraeg cywir y mae'n ei haeddu ac yntau wedi ymgartrefu mor gyfforddus yn ein plith erbyn hyn.

Un o'r llaweroedd sydd wedi cael llond bol arno ydi golygydd Y Goleuad papur wythnosol y Presbyteriaid.

A pha ryfedd, mae John Gruffydd Jones yn feirniad cenedlaethol o safon, yn llenor o fri ac yn enillydd Coron a Medal Ryddiaith.

Dan yr amgylchiadau dyw hi'n syndod yn byd fod y gair yn mynd rîli, rîli, dan groen rhywun felly.

"Mae'r gair 'really' fe pe bai yn air hollol Gymreig erbyn hyn ac yn prysur ddisodli geiriau cynhenid fel 'ardderchog' a'da'. Fe aeth popeth sydd i'w ganmol yn 'really good' a phopeth gwael yn 'really bad', ac os yw unrhyw beth yn boblogaidd yma mae hwnnw'n 'really cool' ac ambell dro mae'r tywydd yn 'really poeth' neu yn'really oer',"meddai.

Gair bach ymwthiol arall yr ydym yn ei glywed byth â hefyd ers sawl pentymor bellach ydi 'so' sydd i bob diben wedi llwyr ddisodli 'felly' ac wedi ei glywed ar wefusau ambell i ysgolhaig hyd yn oed.

Fodd bynnag, mae golygydd Y Goleuad yn mynd a ni gam ymhellach trwy holi rhwng difrif a chwarae oes modd cyflwyno neges Crist yn yr ieithwedd hon gan gyfleu bod dilyn Iesu Grist yn rhywbeth "really brill" i'w wneud.

So lle mae hyn i gyd yn mynd â ni? Ydio'n golygu bod yr iaith mewn cyflwr bod rîli angen wyrio amdani ynteu ai arwyddion o esblygiad cwbl naturiol yw'r pethau hyn ac yn rhywbeth y byddai William Morgan ei hun wedi manteisio arno?

Byddai'n rîli neis cael gwybod - so, os oes gennych chi gyfraniad i'w wneud fe fyddwn i'n rîli plîsd clywed oddi wrthych.
Hawddamor.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:03 ar 5 Tachwedd 2009, Gary ysgrifennodd:

    Dwi'n rîlî cytuno, de, ond mae rîlî yn well na so, 'de.

    Hefyd, 'de, mae 'na dueddiad, 'de, i ddeud "de" o hyd, 'de ... ac mae hyn, 'de yn dod gyda'r pwyslais ac osgo'r llais yn codi tuag at ddiwedd y frawddeg, fel 'sa rhywun yn gofyn cwestiwn 'de?

    Er hyn, mae 'na air (neu eiriau) Cymraeg - o fath - sy'n mynd dan fy nghroen i. Mae'n amhosib clywed cyfweliad bron heb glywe "ti'mbo" ... yr "you know" Cymraeg ... aaaaaaarrrghhh!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.