麻豆社

Tyner yw'r Lleuad Heno dan lach dramodydd

Meic Povey awdur a chyfarwyddwr y ddrama

03 Tachwedd 2009

Er cymaint y disgwyl gwledd a fu digon damniol fu llawer o'r ymateb i daith ddiweddaraf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru gyda drama Meic Povey, Tyner yw'r Lleuad Heno

Yn wir, a'r daith yn tynnu at ei therfyn, cafodd y ddrama ei sgwrio gan ddramodydd blaenllaw arall ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen Tachwedd 2 2009.

Gareth Miles - 'Drama neuadd bentref'

Disgrifiodd Gareth Meils hi fel drama neuadd bentref 30 mlynedd yn 么l!

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

"[Fe} fyddai hi di pasio ar lwyfan neuadd bentref ddeng mlynedd ar hugain yn 么l. Mae Meic wedi sgwennu pethau llawer gwell na hyn ac mi oedd hi'n siomedig iawn," meddai wrth Gwilym Owen.

Rhoddodd y cyfrifoldeb am hyn ar ysgwyddau Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru

"Mi ddylai Cefin fod wedi gweld nad oedd y ddrama yma ddim yn deilwng o theatr genedlaethol ac mi ddylai fod wedi mynnu ei bod yn cael ei hailwampio a'i hail sgwennu," meddai Gareth Miles.

Gan ychwanegu bod yr actio "yn iawn" disgrifiodd y ddrama ei hun "fel braslun i ddrama sebon".

"Doedd hi ddim wedi datblygu. Roedd y cymeriadau yn fas ac arwynebol ac roedd y digwyddiadau yn ystrydebol," meddai.

"Roedd hi'n siomedig iawn, iawn," meddai.

Ychwanegodd mai'r hyn sy'n ei boeni yw mai dyma'r ail gynhyrchiad siomedig ar 么l ei gilydd [gan y Theatr Genedlaethol] gan ddisgrifio T欧 Bernada Alba fel un "hynod siomedig hefyd".

Gan ymateb i siaradwr blaenorol a boeni fod y theatr yn hesb o awduron newydd dywedodd Gareth Miles bod sgrifenwyr a thalent ar gael.

"Ac mi fuaswn i'n dweud ei bod yn ddyletswydd ar gyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol i weithio efo'r awduron yna i gael drama ar y llwyfan," meddai.

Ymhlith yr awduron a enwodd yr oedd Wil Roberts, Geraint Lewis a S茂on Eirian.

Ychwanegodd bod Undeb yr Awduron wedi anfon at y Theatr Genedlaethol yn pwyso arni i weithio ar ddatblygu sgriptiau.

"Mae'n rhaid i theatr genedlaethol fod yn berthnasol," meddai, "A phan ydym ni'n cael cyfieithiadau rhaid i'r cyfieithiadau hynny fod yn berthnasol - ond efo sgrifennu newydd mae'n golygu gwaith caled rhwng yr awdur a'r cyfarwyddwr," meddai Gareth Miles.

Gareth William Jones - 'dyn pryderus'

Man cychwyn y drafodaeth oedd llythyr am y cynhyrchiad yn Y Cymro a Golwg gan Gareth William Jones Bow Street, awdur a chadeirydd cwmni theatr mewn addysg.

Disgrifiodd ei hun fel "dyn pryderus" ar 么l gweld y ddrama:

"Mae Meic Povey yn ddramodydd o bwys ac mae drama newydd ganddo fo yn ddigwyddiad cyffrous ac mae o'n ddramodydd pwysig ac rwy'n i weld o yn llinach Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Gwenlyn Parry a phryderu ydw i ar 么l gweld y ddrama lle mae'r Meic Povey nesaf yn mynd i ddod," meddai wrth Gwilym Owen.

Dywedodd y byddai Meic Povey ei hun "yn siomedig efo'r cynhyrchiad yna".

Ychwanegodd tua diwedd y sgwrs "Na, wnaeth y ddrama yna ddim gwneud dim lles i enw Meic Povey fel dramodydd am y rheswm ei bod hi yn awr a chwarter, i mi yn bersonol, o falu awyr ystrydebol.

Ond dywedodd mai ei brydwer pennaf wedi gweld y cynhyrchiad oedd o ble y daw dramodwyr y dyfodol.

"Be dwi'n poeni amdano fo ydi ble mae'r dramodydd newydd cyffrous fatha Meic Povey yn mynd i ddod," meddai. Ynghynt yn y sgwrs yr oedd wedi dweud:
"Pe byddech chi'n gofyn i mi '[o ble mae yr] olynwyr Dic Jones nesaf yn mynd i ddod?' mae'n si诺r gen i y buaswn yn dweud, 'Maen nhw yma yn barod ac mae yna ribidir锚s yn ciwio i fyny'.

"Pe byddech chi'n gofyn imi 'Ble mae'r nofelydd nesaf yn mynd i ddod?' Wel; maen nhw'n ciwio i fyny i ennill y Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith. Ond pe byddech chi'n gofyn i mi 'O ble mae'r Meic Povey nesaf yn mynd i ddod?' Wel, allai ddim eich ateb chi. Dydw i ddim yn gwybod."

"A dweud y gwir dydw i ddim yn poeni gymaint am Meic Povey [ei hun] mae o wedi gwneud ei gyfraniad. Dwi'n edmygydd mawr o Meic Povey. Mae o wedi dangos ei fod o yn ddramodydd o bwys.

Dwi ddim yn poeni chwaith am y Theatr Genedlaethol achos mae honno'n sefydliad a fuaswn i ddim yn meiddio - a dydw i ddim yn credu y dylai neb ddweud wrth y Theatr Genedlaethol pa gynyrchiadau maen nhw'n i wneud . . . ond dwi yn poeni nad oes dim strwythur ar gael i greu y Meic Povey newydd," meddai.

Awgrymodd mai rhan o'r ateb fyddai cael dram芒u newydd ar lefel stiwdio a bod y rheini wedyn yn creu diddordeb, yn creu enwau i'r awduron hynny a wedyn bod y Theatr Genedlaethol yn cymryd nhw drosodd ac yn rhoi y llwyfan fawr iddyn nhw.

Cymeradwyodd y math o bethau y mae Sherman yn ei wneud fel ag yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yr oedd ef yn ei lythyr a chyda Gwilym Owen yn feirniadol o safonau adolygu hefyd.

Roger Owen - 'teimlo'n siomedig'

Darlithydd yn Adran ffilm a Theatr Prifysgol Aberystwyth, Roger Owen, fydd yn adolygu'r cynhyrchiad yn rhifyn Tachwedd o Barn ac yr oedd yntau hefyd yn hynod feirniadol o'r cynhyrchiad.

"Roeddwn i'n synnu mod i'n dod o'r theatr yn teimlo mor siomedig . Roedd rhyw egin o rywbeth da y gellid ei ddatblygu ond eto'i gyd roeddwn i'r credu bod y cynhyrchiad . . . yn wan iawn a bod y cynhyrchiad wedi methu datblygu yr elfennau cynhenid oeddwn i'n weld yn y ddrama," meddai wrth Gwilym Owen.

O ystyried y ddrama ei hun dywedodd bod llawer o'r cymeriadau "yn gwbl amherthnasol" i'r stori ond ychwanegodd bod "rhai pethau pwerus iawn yn digwydd" gyda'r digwyddiad canolog wedi cyffwrdd "yn gryf iawn" ynddo ef.

Dywedodd hefyd nad yr awdur ei hun oedd yr un i gyfarwyddo'r gwaith ac er bod cyfle i achub y ddrama na lwyddwyd i wneud hynny.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Yr Athro Ioan Williams - ymateb cadeirydd

Yn ymateb i'r holl feirniadu ar ran Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru roedd cadeirydd bwrdd rheoli'r cwmni, Yr Athro Ioan Williams a groesawodd y trafod gan ddweud y bydd y sylwadau yn cael hystyried gan y cwmni.

Ychwanegodd bod cyd-drafod yn digwydd "yn wythnosol, yn fisol," gydag awduron.

Pwysleisiodd mai "cymysg" fu'r ymateb i'r cynhyrchiad yn hytrach na chwbl feirniadol gydag un o'i ferched ei hun "yn collfarnu'r ddrama fwy neu lai" ond ei ferch arall a'i ffrind wedi eu "plesio'n fawr" er i rywun droi atyn nhw wrth ddod allan o'r theatr i ddweud mai "drama crap" oedd hi.

Dywedodd fod ei brofiad personol ef ei hun "yn perthyn i'r cwmni" ac y byddai'n ei fynegi i'r cwmni yn breifat.

Dywedodd mai dau o'r cwestiynau pwysig i'w hystyried fydd a oedd y cwmni yn iawn yn y lle cyntaf i gynhyrchu'r ddrama ac, yn ail, a oedd wedi bod yn iawn caniat谩u i'r awdur ei hun gyfarwyddo'r ddrama.

Yngl欧n 芒'r naill dywedodd y byddai wedi bod bron yn amhosib tynnu allan o'i gwneud yn ystod y broses hir a gymer i baratoi ond cydnebu y gallai y llall fod yn "gamgymeriad posib".

"Ond yn gamgymeriad dwi'n meddwl nad ydych chi'n gallu penderfynu yn ei gylch e tan ddiwedd y broses."


Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.