Diweddarwyd: 12 Mai 2020
Mae yna ddau reswm pam fod eich sylw neu gynnwys wedi cael ei ddileu o wefan neu ap y Â鶹Éç:
- Mae rhywun wedi cwyno ei fod yn torri rheolau'r Â鶹Éç o ran gwneud sylwadau a llwytho cynnwys.
- Mae ein hidlwyr cymedroli neu gymedrolwr wedi sylwi arno.
Os ydyn ni'n dileu unrhyw un o'ch sylwadau neu gynnwys, byddwn ni'n eich e-bostio i egluro pam. 'Dyw hi ddim yn bosib i gymedrolwr ddileu sylw heb greu e-bost yn awtomatig sy'n egluro hyn. Mae hyn yn helpu i gadw’r system yn deg.
Weithiau, efallai y byddwch yn derbyn ymateb personol i ddweud pam fod y sylw wedi cael ei ddileu. Ond allwn ni ddim gwneud hyn bob tro.
Os ydych chi wedi darllen yr e-bost ac yn anghytuno, yna gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Dysgwch sut i apelio fan hyn.