Mae cyfnod yr arholiadau ar ein pennau, ond mae gan C2 yr holl dips i'ch helpu i adolygu.
Gall cyfnod yr arholiadau fod yn un annifyr, gyda miloedd o bobl ifanc led-led Cymru dan straen, boed yr arholiadau yn rai TGAU, Lefel A, gradd... neu unrhyw rai eraill.
Er mwyn eich helpu trwy'r cyfnod yma, a chael y canlyniadau gorau allwch chi, mae C2 a'n harbenigwr arholiadau - Iwan Davies - wedi llunio tips ar eich cyfer.
Pwysigrwydd Adolygu:
- Byddech chi ddim yn ystyried rhedeg marathon heb ymarfer yn gyntaf - ymgeisiodd Jordan a ma' pawb yn cofio beth ddigwyddodd iddi hi!
- Meddyliwch am eich arholiadau yn yr un modd. Mae'r ymarfer, fel adolygu yn anodd a di-ddiolch ond mae'r teimlad o lwyddo yn gwneud mwy na iawn am hynny.
- Os ydych yn anelu am amser o 3 awr neu 7 awr s'dim ots ond cyrraedd y nod yw'r g么l - pe bai chi yn anelu am 12 A* neu sawl C a D - s'dim ots ond i chi gyrraedd eich potensial chi.
Adolygu Cyffredinol:
- Mi ddylech chi fod wedi dechrau adolygu yn ddelfrydol cyn Pasg, ond nid yw hi'n rhy hwyr. Gwnewch y gorau o'r amser sydd ar 么l.
- Ewch trwy eich ffeiliau nawr a sicrhewch fod pob dim gyda chi yn barod - ewch i weld eich athrawon i gasglu gwaith coll.
- Dylai bod gennych un ffeil i bob pwnc/uned a hwn wedi ei labelu yn glir ac wrth law - safio stress
- Mae presenoldeb yn holl bwysig o hyn allan gan fydd llawer o adolygu yn digwydd yn y gwersi.
- Mae technegau gwahanol o adolygu yn gweithio i unigolion - ARBROFWCH - ffeindiwch yr arddull sydd orau i chi - gwrando, darllen, gweledol.
- Cymerwch gamau nawr i sicrhau cyn lleied o stress ac sydd yn bosib - chi yn mynd i gael panic s'dim ots pa mor barod ydych chi ond mae modd o reoli hyn yn yr wythnosau cynt.
Tactegau:
- Y peth pwysicaf yw creu AMSERLEN ADOLYGU. Amserlen wythnosol sy'n dda fel bod strwythur gyda chi. Mi fydd hyn yn hwyluso'r broses ac yn sicrhau nad oes cyfle gyda chi i wastraffu amser.
- 45 munud y sesiwn ( byddwch yn colli canolbwyntiad ar 么l hyn) yna egwyl o tua 15m
- gwnewch bethau gwahanol ym mhob egwyl fel newid bach, gan sicrhau awyr iach.
- rhowch darged - unwaith i chi orffen adran arbennig o waith eich bod chi'n cael treat e.e. Siocled, gem ar y cyfrifiadur, galwad ff么n, (ond ewch n么l i'r adolygu ar yr amser cywir).
- Wrth lunio hwn mi allwch gymryd i ystyriaeth eich hoff rhaglenni teledu (i gyd-fynd ag egwyl), tripiau i'r sinema, dre, siopa, chwaraeon - cofiwch bwysigrwydd hamddena, er nid ar draul y dysgu.
- Peidiwch esgeuluso bwyta ac yfed - dwr hynny yw- neu byddwch yn colli canolbwyntiad.
Gwella eich cof:
- Ar 么l adolygu uned arbennig mae'n bwysig i adolygu'r hyn a ddysgoch ar 么l amser - e.e. ar ddiwedd y diwrnod adolygu *24 awr yn ddiweddarach
*Wythnos yn ddiweddarach er mwyn gweld beth yw'r cam nesaf - cryfderau a gwendidau pwnc
*Defnyddiwch ddydd Sul e.e. fel diwrnod o adolygu'r wythnos gan benodi 15 munud i bob pwnc.
Lleoliad:
- Sicrhewch leoliad tawel cyfforddus gyda golau da - er yn esmwyth nid yw'r sofa o flaen teledu yn syniad da.
- Ceisiwch fod i ffwrdd o gyfrifiadur / ffon y t? / ffon symudol i osgoi temtasiwn. Yn ogystal dwedwch wrth eich teulu trefn adolygu eich dydd fel y cewch lonydd ac efallai treats yn ystod eich egwyl. Sicrhewch fod cyflenwad digonol o bapur / adnoddau gyda chi yn yr ystafell fel bod dim tarfu.
颁辞辫茂辞:
- Peidiwch cop茂o nodiadau drosodd a throsodd - defnyddiwch nhw hefyd drwy osod profion bach.
- Gwnewch nodiadau o ffeithiau allweddol a defnyddiwch uchafbwyntwyr (highlighter pens). Mae hyn yn fodd o wneud pethau ychydig mwy diddorol.
Adolygu mewn gr?p:
- Mae hyn yn dda os yw eich ffrindiau yn synhwyrol. Mi allwch ddarllen / gosod profion / cwis / ac esbonio darnau anodd. BYDDWCH YN OFALUS gyda'r dechneg yma!!
PWYSIG!!!!
- Os ydych yn poeni, y peth gorau i wneud yw siarad gyda'ch athro. Ma' nhw yno i'ch helpu. Siaradwch gyda phennaeth yr adran, pennaeth blwyddyn neu eich athro cofrestru os ydych chi yn rhy swil- mae modd i ddatrys eich pryderon felly peidiwch ofni.
- Peidiwch cuddio dan gragen a disgwyl i atebion ddod atoch chi - byddwch yn pro-actif.
- Defnyddiwch wefannau fel 麻豆社 Bitesize ond cyn bapurau yw un o'r pethau gorau.
Deg Rheol Adolygu:
- byddwch bositif
- hyder (nabod papur ayyb)
- popeth yn gyflawn (dim munud olaf)
- Adolygwch yn Actif - ewch ar 么l pethau annealladwy yn hytrach na chuddio wrthynt.
- Ymarfer strwythur atebion
- Amseru atebion arholiad- i ddod yn gyfarwydd
- Peidiwch mynd yn negyddol a digalonni
- Adolygu gr?p - os yn synhwyrol.
- Cydbwysedd - o ran y pynciau, hamdden, gwobr
- Ewch i weld eich athrawon am broblemau nawr - gore po gyntaf.
Dyna'r cyfan am y tro - pob lwc gyda'r adolygu a'r arholiadau. Os wyt am ragor o gymorth, cofia ymweld ag adran (
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.