Â鶹Éç

Mae Nevarro 'Angen Ti'!

Nevarro

Mae Nevarro - ennillwyr Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru angen prif-leisydd newydd...

Oes gen ti'r hyn sydd ei angen i fod yn brif-leisydd band roc newydd mwyaf cyffrous Cymru?

Ar raglen Magi Dodd ar C2, nos Iau Ionawr 28ain, cyheoddodd aelodau Nevarro - Steff Pringle y gitarydd blaen, Dan Williams sy'n chwarae'r gitar fâs, ac Alec Rees y drymiwr - eu bod yn chwilio am brif-leisydd newydd... oes gen ti'r talent?

Mae Nevarro wedi cael blwyddyn arbennig o lwyddianus ers ennill Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru nol yn nechrau 2009 - wedi arwyddo i label recordiau Grawnffrwyth a rhyddhau eu EP cyntaf 'Uchela'; recordio sesiwn i C2, perfformio yn Maes B Eisteddfod Genedlaethol y Bala ac yng ngwyl Wa Bala 2009.

Yn ogystal hyn i gyd, fe gawson nhw ganiatad personol gan y chwedlonol Noddy Holder i berfformio a recordio fersiwn Gymraeg o'r glasur Nadoligaidd 'Merry Christmas Everybody' yng nghyngerdd Nadolig C2 - c fe chwaraewyd hi ar raglen Radcliffe a Maconie ar Radio 2 ac hefyd ar Sport Five.

Er gwaethaf hyn i gyd, mae 2010 yn edrych i fod yn flwyddyn hyd yn oed mwy cyffrous i'r band ifanc - felly os oes gen ti ddiddordeb mewn bod yn brif-leisydd newydd Nevarro, dos draw i neu a dilyn y canllawiau - mae'n syml!.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.