Pob nos Iau ar C2, mae Glyn a Magi yn parhau â ymgyrch 'Grand Slam Glyn Wise', i helpu Cymru i gipio'r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth Rygbi'r 6 Gwlad eleni!
Ar nos Iau, 13 Mawrth, fe ddaeth Mr Arthur Picton, rheolwr tîm pêl-droed Bryncoch (o'r gyfres C'mon Midffild), i'r stiwdio at Glyn a Magi.
Gwrando ar ran 1af sgwrs Mr Picton gyda Glyn a Magi (13/03/08)
Gwrando ar 2il ran sgwrs Mr Picton gyda Glyn a Magi (13/03/08)
Ar nos Iau, 6 Mawrth, Hefin Thomas o'r gr?p Mattoidz oedd yn cadw sedd Magi Dodd yn gynnes. Yr her i Glyn y noson honno oedd i ysgrifennu araith i ysbrydoli tîm rygbi Cymru cyn y gêm fawr yn erbyn Yr Iwerddon ar Fawrth 8!
Gafodd Glyn help gan cyn-gapten Cymru a chyn-hyfforddwr Cymru a'r Llewod, yr arwr Clive Rowlands.
Gwrando ar gyngor Clive Rowlands i Glyn (06/03/08)
Ar ddechrau mis Chwefror bu Glyn Wise a Magi Dodd yn helpu i farcio'r cae ar gyfer gêm Cymru vs Yr Alban ac yn helpu i agor neu gau tô y Stadiwm! Aeth Glyn a Magi lawr i Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 8fed - y prynhawn cyn diwrnod y gêm - i helpu:
Gwylio fideo o Glyn a Magi yn marcio'r cae yn Stadiwm y Mileniwm (08.02.08)
Yn gynharach yn yr wythnos, aeth Glyn a Magi draw i westy tîm rygbi Cymru i gyfarfod rhai o aelodau'r tîm:
Gwrando ar sgwrs Robin McBryde, hyfforddwr blaenwyr Cymru (06/02/08)
Gwrando ar sgwrs Deiniol Jones, ail reng Cymru (06/02/08)
Gwrando ar sgwrs Shane Williams, asgellwr Cymru (06/02/08)
Gwrando ar sgwrs Rhodri Llywelyn, cyflwynydd Post Cyntaf ar Radio Cymru (06/02/08)
Ymysg yr enwogion eraill sydd wedi cefnogi'r ymgyrch mae'r dyfarnwr Nigel Owens, y gohebydd Gareth Charles, Iestyn Garlick, Sioned James, Mefin Davies, Dafydd Iwan, y sylwebydd Cennydd Davies, Non Evans... ac mae'r rhestr yn mynd yn ei flaen!
Rhai o'r syniadau sydd gan Glyn ar sut i roi hwb i'r tîm yw:
- Arwain 'Siencyn' yr afr i'r cae
- Canu yr anthem genedlaethol efo Bryn Terfel
- Bod yn 4ydd Swyddog (4th Official!)
- Cyhoeddi enwau'r timoedd ar gychyn y gêm
- Agor neu gau tô Stadiwm y Mileniwm
- Ysgrifennu cân anthemig i'r cefnogwyr ei chanu
Mae modd gwrando ar sut ymateb gafodd Glyn i'w syniadau yma:
Magi a Glyn yn lawnsio'r ymgyrch (03/01/08)
Gareth Charles yn rhoi ei sylwadau ar rai o'r syniadau (03/01/08)
Nigel Owens yn trafod bod yn 4th Official (03/01/08)
Sioned James yn beirniadu gallu canu Glyn! (10/01/08)
Iestyn Garlick yn rhoi hyfforddiant ar gyhoeddi'r timau (10/01/08)
Glyn yn cael gweithdy sylwebu gan Cennydd Davies(24/01/08)
Cân cefnogwyr Glyn Wise a Dafydd Iwan yn rhoi ei farn ar y gân! (24/01/08)
Fersiwn newydd o gân cefnogwyr Glyn Wise (31/01/08)
Fersiwn glasurol Robyn Lyn o gân cefnogwyr Glyn Wise (31/01/08)
Fersiwn beatbox Ed Holden o gân cefnogwyr Glyn Wise (31/01/08)
Fersiwn acwstig Ryan Kift o gân cefnogwyr Glyn Wise (31/01/08)
Pwy arall fydd yn cefnogi'r ymgyrch? Gallwch glywed ar C2 Â鶹Éç Radio Cymru, nos Iau nesaf, am 8pm.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.