Gwranda ar Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc
Bob blwyddyn, mae miloedd o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn dod ynghyd i gynrychioli eu haelwydydd a bod yn rhan o hwyl Eisteddfod C.Ff.I.
Eleni, bydd yr eisteddfod yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, 22ain o Dachwedd yn Neuadd Brynaman, a disgwylir gwledd o ddiwylliant Cymreig ac adloniant yn ystod y dydd - o ensembles lleisiol i gyflwyniadau theatrig... bydd yna rywbeth at ddant pawb!
Bydd Â鶹Éç Radio Cymru yn darlledu oddi yno rhwng 8pm - 12am, gyda Geraint Lloyd a Rebecca Jones yn dod a holl fwrlwm y cystadlu i chi, ond os na allwch ddisgwyl tan y rhaglen, bydd modd i chi wrando ar hwyl y diwrnod yn fyw yma ar wefan C2, gydol y dydd.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.